Cwestiynau Cyffredin (FAQs)

Beth yw’r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru)? 

  • Yn 2016, fe wnaeth Llywodraeth Cymru basio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 gyda’r nod o’i gwneud hi’n symlach ac yn haws i landlordiaid a thenantiaid rentu cartref yng Nghymru.
  • Y Ddeddf hon yw’r newid mwyaf sylweddol i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau, ac fe’i chynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod hir.
  • Mae hi’n cyflwyno nifer o newidiadau i gyfreithiau tenantiaeth a bydd yn berthnasol i landlordiaid cymdeithasol (fel Newydd) ac i’r sector rhentu preifat.
  • Mae’r newidiadau y mae’r Ddeddf yn eu cyflwyno wedi bod drwy broses graffu gan sefydliadau tenantiaid fel TPAS Cymru a Shelter Cymru.

Pryd fydd hyn yn digwydd?  

  • Bydd y Ddeddf yn dod i rym ar 1af o Ragfyr 2022. 

Beth yw diben y Ddeddf? 

  • Mae’r Ddeddf yn symleiddio a chysoni cytundebau, ac yn rhoi sicrwydd i bobl sy’n rhentu eu cartref yng Nghymru.
  • Mae hi’n gwella safon rhai tai rhent yng Nghymru.

Ar bwy mae hyn yn effeithio? 

  • Pob landlord: preifat a chymdeithasol 
  • Pob tenant: preifat a chymdeithasol 

Pam mae hyn yn digwydd? 

  • Er mwyn gwneud pethau’n haws ac yn fwy cyson pan fydd pobl yn rhentu cartref yng Nghymru.
  • Er mwyn sicrhau bod gan bawb sy’n rhentu yng Nghymru gartref sy’n addas ar gyfer byw ynddo.
  • Er mwyn gwella cysondeb safonau, pa un ai ydych yn byw mewn cartref wedi ei rentu oddi wrth landlord cymdeithasol fel Newydd, oddi wrth gyngor sir, neu oddi wrth landlord preifat.
  • Er mwyn rhoi mwy o sicrwydd i bobl sy’n byw mewn cartrefi sydd wedi’u rhentu’n breifat.

Beth sy’n newid? 

  • O dan y gyfraith newydd, gelwir ‘Cytundeb Tenantiaeth’ yn ‘Gontract Meddiannaeth’ a gelwir ‘Tenant’ yn ‘Ddeiliad Contract’. 
  • Mae’n rhaid i bob eiddo fod yn ddiogel, mae’n rhaid cael nodweddion fel larymau mwg gwifredig wedi’u gosod, ac mae’n rhaid cynnal profion diogelwch trydan yn rheolaidd. 
  • Mae yna rai rheolau newydd ar gyfer delio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Mae yna fwy o hawliau olynu, sef yr hawl i basio eich cartref i bobl eraill pan fyddwch yn marw. Mewn rhai sefyllfaoedd penodol, gallech basio eich cartref ymlaen i ofalwyr neu aelodau eraill o’r teulu.
  • Os yw’r landlord yn cydsynio, gellir ychwanegu Deiliad Contract i Gytundeb, neu eu tynnu oddi ar Gytundeb, heb fod angen terfynu’r cytundeb.
  • Bydd landlordiaid yn medru adfeddu eiddo gadawedig heb orchymyn llys. 

Beth mae hyn yn ei olygu i fi fel tenant?  

  • Mae’n symleiddio ac yn cryfhau eich hawliau fel tenant.
  • Mae’n gwella’r ffordd mae rhai landlordiaid yn rheoli tai rhentu yng Nghymru.
  • Bydd tenantiaid Newydd presennol yn derbyn Contract Meddiannaeth o fewn 6 mis o 1af o Ragfyr 2022, a bydd hyn yn cymryd lle eich Cytundeb Tenantiaeth. 

Ydy hyn yn mynd i gostio unrhyw beth i fi neu effeithio ar fy rhent?

  • Na, ni fydd hyn yn cael unrhyw effaith ar eich rhent ac ni fydd unrhyw gost i chi. 

Beth sydd angen i fi ei wneud?

  • Fe hoffem anfon eich cytundeb atoch chi’n electronig yn y dyfodol. Mae hyn oherwydd ein bod yn ceisio gostwng ein hôl troed carbon ac mae printio llai o bapur yn well i’r amgylchedd. Mae hyn hefyd yn arbed arian ar brintio a phostio, a gallwn ail-fuddsoddi’r arian i mewn i ddarparu gwasanaethau gwell a chyflymach i chi. Os na hoffech dderbyn eich cytundeb mewn fformat electronig, ffoniwch ni os gwelwch yn dda ar 0303 040 1998. 
  • Wedi i chi dderbyn eich cytundeb, darllenwch e’n ofalus ac ymgyfarwyddwch ag e. Bydd eich cytundeb yn esbonio beth allwch chi ei wneud a beth na allwch chi ei wneud fel tenant, a beth gall Newydd ei wneud a beth na allwn ei wneud fel landlord.

Ble fedra i gael gwybod mwy?

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru.