Cartrefi ynni effeithlon
Rydym yn mynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd drwy gynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni eu cynlluniau i Gymru ddod yn sero net. Rydym yn cefnogi’r nod hwn trwy ddarparu’r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio (ORP). Bydd y rhaglen hon yn helpu i leihau allyriadau carbon yn ein cartrefi.
Beth yw’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) a beth mae’n ei olygu i denantiaid Newydd?
Mae’n brosiect gan Lywodraeth Cymru sydd wedi cael ei ddylunio i wneud eich cartref yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd. Mae’r prosiect yn cynnwys dros 68 o sefydliadau, gan gynnwys 26 darparwr tai cymdeithasol. Caiff ei adnabod yn eang fel y ‘Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio’.
Bydd ORP yn sicrhau bod gan gartrefi yng Nghymru yr ôl troed carbon isaf posib. Gallai hyn olygu gwelliannau ffabrig adeilad a gosod technoleg di-garbon a charbon isel i wresogi eich cartref yn fwy effeithlon.
Pam ydyn ni’n rhan o’r rhaglen hon?
Rydym am ddod yn sefydliad sy’n fwy cynaliadwy sy’n alinio gyda gweledigaeth a gwerthoedd ein cynllun corfforaethol 2022-2027. Rydym eisiau lleihau ein hôl troed carbon ac un ffordd y medrwn ni gyflawni hyn yw trwy wneud cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni.
Mae yna fanteision amgylcheddol enfawr o gymryd rhan yn y rhaglen hon a allai newid y ffordd mae ein tenantiaid yn defnyddio egni yn eu cartrefi.
Beth sydd ynddo i chi?
Trwy flaenoriaethu'r datgarboneiddio cartrefi Newydd gallwn ni helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Rydyn ni eisiau parhau i wella amodau byw, gan greu amgylcheddau gwell, mwy cyfforddus ar gyfer ein tenantiaid.
Sut byddwn yn cael gwybodaeth am ein heiddo?
Byddwn yn defnyddio asesiad ôl-osod, sef arolwg arbenigol a gynhelir ar eich cartref sy’n edrych at ffactorau megis faint o bobl sy’n byw yn y cartref, yr egni rydych chi’n ei defnyddio a’r cyflwr i bennu’r lefel presennol o effeithlonrwydd ynni. Mae’r asesiad hefyd yn nodi'r gwelliannau sydd eu hangen i leihau biliau tanwydd, allyriadau carbon a gwella eich cysur ac iechyd. Bydd aelod o staff o’r Tîm Asedau yn eich ffonio chi i drefnu amser cyfleus i gwblhau asesiad ôl-osod yn eich tŷ.
Pa mor hir fydd yr arolwg yn cymryd?
Byddwch yn ymwybodol y gallai’r asesiad hwn gymryd rhwng un a dwy awr yn dibynnu ar faint eich cartref.
Am beth mae’r syrfëwr yn edrych?
Bydd y syrfëwr yn talu sylw arbennig i agweddau ar eich cartref gan gynnwys inswleiddio, selio aer, systemau gwresogi ac oeri, awyru a goleuo. Bydd rhaid iddyn nhw dynnu lluniau a gwahanol fesuriadau.
Fydd yr arolwg yn achosi unrhyw ddifrod neu lanast i'ch cartref?
Bydd y syrfëwr yn gwneud ei orau i beidio â tharfu ar eich cartref a dylent adael eich cartref yn yr un cyflwr ag yr oedd pan iddynt gyrraedd.
Synwyryddion amgylcheddol
Fel rhan o’r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, bydd angen i ni osod synwyryddion amgylcheddol yn eich cartref. Fyddwn ni’n cysylltu â chi i drefnu amser cyfleus i drydanwr ymweld â’ch cartref i osod y synwyryddion. Bydd y data sydd wedi cael eu casglu o’r synwyryddion yn ein helpu i bennu’r camau angenrheidiol i wneud eich gartref yn fwy ynni effeithlon. Ni fyddwn yn rhannu’r data ag unrhyw un, a dim ond y data perthnasol y byddwn yn ei dderbyn.
Hyb Porth
Mae’r Porth yn ddyfais sy’n casglu’r data gofynnol ac yn ei drosglwyddo’n awtomatig i ni. Bydd y porth fel arfer yn cael ei osod ger eich blwch ffiwsiau, gan dybio bod signal da yno. Os na, bydd y trydanwr yn chwilio am y signal gorau yn eich tŷ ac yn ei osod yna.
Beth mae’r synwyryddion yn ei wneud?
Byddwch chi’n cael dau synhwyrydd sy’n gynnil a diogel. Bydd un yn cael ei osod yn yr ystafell fyw ac yr un arall yn yr ystafell ymolchi. Mae’r un yn yr ystafell ymolchi yn monitro’r lefelau CO2, tymheredd, a lleithder, tra bod yr un yn yr ystafell fyw dim ond yn monitro tymheredd a lleithder. Byddan nhw’n cael eu gosod o leiaf 2 fetr uwchben y ddaear.
Pa mor hir fydd y gosodiad yn ei gymryd? A fyddant yn gweithio ar unwaith?
Gall y gosodiad gymryd hyd at awr a hanner. Byddant yn dechrau gweithio unwaith fydd y trydanwr wedi’u hactifadu nhw.
Oes angen i mi wneud unrhyw beth?
Na, mae’r synwyryddion yn gweithio yn awtomatig, a byddant yn trosglwyddo’r data sydd ei angen arnom. Cyn y gallwn wneud unrhyw waith i’ch gartref, mae angen i ni gasglu gwybodaeth o’r synwyryddion, felly fe fydd yna gyfnod o amser i ganiatáu i ni gasglu'r data perthnasol cyn i unrhyw waith dechrau.
Pa fath o waith y gallaf gael wedi’i wneud yn fy nghartref i’w wneud yn fwy ynni effeithlon?
- Paneli solar
- Inswleiddio llofft
- Ffenestri
- Drysau allanol
- Inswleiddio waliau
- System gwresogi newydd
Sut byddaf yn gwybod pa waith sy’n cael ei wneud a phryd?
Bydd Caroline ein Swyddog Cyswllt Tenantiaid yn cysylltu â chi pan mae disgwyl i unrhyw waith ORP gael ei wneud ar eich cartref. Byddwch yn cael digon o rybudd a bydd Caroline yn trafod mewn manylder y gwaith bydd Newydd neu ein contractwyr allanol yn ei wneud.
Adborth ac arolygon
Rydym yn annog ein tenantiaid i roi adborth i ni ar y gwaith ac os oes unrhyw broblemau mae angen i ni fod yn ymwybodol ohonynt. Mae adborth ac arolygon wedi’u cwblhau gan denantiaid yn bwysig er mwyn i ni allu dysgu ac maen nhw’n gallu ein helpu ni i unioni unrhyw newidiadau y gallai fod angen eu gwneud i gynnig gwasanaeth gwell i’n tenantiaid.
Mae Caroline yn edrych am astudiaethau achos i ddangos y gwahaniaethau cyn ac ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o astudiaeth achos, rhowch wybod iddi.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â Caroline ar caroline.evans@newydd.co.uk