Diffyg atgyweirio a hawliadau
Beth yw diffyg atgyweirio?
Mae diffyg atgyweirio mewn tai yn golygu bod angen gwaith atgyweirio ar eich eiddo er mwyn iddo fod yn ddiogel ac yn addas i chi fyw ynddo. Fel eich landlord, ein cyfrifoldeb ni yw hyn.
Os ydych chi’n credu bod angen gwneud gwaith atgyweirio ar eich cartref, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib. Rydym ni eisiau gweithio gyda chi er mwyn sicrhau bod eich cartref yn ddiogel i chi a’ch teulu.
Beth os yw eich cartref mewn cyflwr o ddiffyg atgyweirio?
Os nad ydym yn cyflawni ein cyfrifoldeb o gwblhau atgyweiriadau o fewn cyfnod rhesymol o amser, gellir dweud bod eich cartref mewn cyflwr o ddiffyg atgyweirio. Os ydych chi’n teimlo bod hyn yn wir, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib ar 0303 040 1998 ac fe wnawn ni drefnu i ymweld â chi i drafod y mater.
Rydym ni yma i helpu
Mae hi’n bwysig i ni eich bod chi’n hapus gyda’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Fe wnawn ni bopeth allwn ni i’ch cefnogi chi ac i edrych ar ôl eich cartref. Os ydych chi’n anhapus gydag unrhyw elfen o’n gwasanaeth atgyweirio, rydym yn argymell eich bod yn siarad gyda ni er mwyn i ni fedru datrys y broblem. Os nad yw hynny’n gweithio, gallwch wneud cwyn a gaiff ei ddelio ag e yn unol â’n polisi cwynion.
Cwmnïau hawliadau
Efallai bod cwmnïau hawliadau wedi cysylltu â chi ynglŷn â gwneud hawliad yn ein herbyn am ddiffyg atgyweirio. Efallai y byddant yn gofyn i chi a hoffech chi iddyn nhw eich cynrychioli yn y llys er mwyn cael iawndal oddi wrthym ni.
Hoffem eich gwneud yn ymwybodol efallai nad yw'r cwmnïau hyn fel y maent yn ymddangos. Mae llawer o denantiaid yn dioddef camwybodaeth a ddarperir gan rai cyfreithwyr rheoli hawliadau. O ganlyniad, mae tenantiaid yn profi straen a phryder yn ystod y broses hawlio, ac mae eu hatgyweiriadau'n cymryd mwy o amser i'w trwsio. Gallant hefyd wynebu problemau ariannol pe bai'r hawliad yn methu neu'n cael ei dynnu'n ôl.
Rydym ni yma i’ch cefnogi chi
Fel eich landlord, rydym ni yma i’ch cefnogi chi ac i weithio gyda chi i edrych ar ôl eich cartref. Rydym ni eisiau eich amddiffyn chi rhag cwmnïau hawliadau, ac esbonio’r ffactorau a’r risgiau y dylech eu hystyried os ydych chi’n meddwl am wneud hawliad. Fe hoffem drafod unrhyw broblemau yn eich cartref cyn i chi gymryd unrhyw gamau. Gellir cwblhau eich atgyweiriadau yn gynt os byddwch yn siarad gyda ni, oherwydd mae’r broses o hawlio am ddiffyg atgyweirio yn medru cymryd amser hir iawn.
Fel y nodwyd uchod, y peth pwysicaf yw bod eich cartref yn ddiogel i chi a’ch teulu.
Beth yw’r risgiau o ddefnyddio cwmnïau hawliadau?
Costau cudd: Mae cwmnïau hawliadau yn aml yn dweud eu bod yn gweithio ar sail ‘dim ennill, dim ffi’. Efallai bod hyn yn wir, ond rydym ni wedi gweld esiamplau lle mae tenantiaid wedi wynebu miloedd o bunnau o ddyled ar ôl arwyddo cytundebau.
Ffioedd os ydych yn newid eich meddwl: Mae tenantiaid wedi dweud wrthym ni eu bod wedi dod o dan bwysau ac wedi methu stopio hawliad wedi iddyn nhw newid eu meddwl.
Ac weithiau nid yw’r cwmnïau hyn yn esbonio y gallwch chi, os yw eich achos yn mynd i’r llys ac yn cael ei wrthod, gael gorchymyn i dalu ein costau cyfreithiol ni, a allai fod yn filoedd o bunnau.
Mae’n cymryd amser hir i ddatrys achosion: Mae rhai hawliadau yn cymryd blynyddoedd i’w datrys, ac efallai y bydd gofyn i chi ymddangos yn y llys i roi tystiolaeth fel rhan o’r broses, a all fod yn straen fawr.
Fe allech fod yn torri eich cytundeb: Dros y cyfnod hwn, bydd y rhan fwyaf o gwmnïau sy’n gweithredu ar eich rhan yn eich cynghori i beidio â gadael i ni ymweld â’ch cartref i wneud unrhyw atgyweiriadau. Mae hyn yn golygu eich bod yn torri eich cytundeb gyda ni.
Mae’n effeithio ar y gwasanaethau eraill rydym yn eu darparu: Mae amddiffyn achosion o ddiffyg atgyweirio yn hynod o gostus. Mae unrhyw arian rydym yn ei wario ar yr hawliadau hyn yn cael ei gymryd o’r cyllid ar gyfer atgyweiriadau, gwaith cynnal a chadw wedi’i cynllunio a gwasanaethau cefnogaeth hanfodol.
Beth sy’n digwydd os bydda i’n penderfynu peidio gwneud hawliad diffyg atgyweirio?
Rydym yn argymell yn gryf i beidio â symud ymlaen gyda hawliad diffyg atgyweirio a’ch bod yn gweithio gyda ni i atgyweirio eich cartref.
Fe wnawn ni drefnu bod syrfëwr, un sydd wedi hyfforddi mewn asesu diffyg atgyweirio, yn cynnal arolwg ar eich cartref. Yn ystod yr arolwg, byddant yn nodi unrhyw waith atgyweirio sydd ei angen ar eich cartref a chytuno ar sut i symud ymlaen. Os caiff atgyweiriadau eu nodi, byddwn yn trefnu ymweliad â’ch cartref er mwyn cwblhau’r gwaith.
Dyma rai o'r tactegau y bydd cwmnïau rheoli hawliadau yn eu defnyddio:
- Rhoi gwybodaeth anghywir i denantiaid yn fwriadol i gynyddu costau'r hawliad. Er enghraifft, anogir tenantiaid i beidio â chaniatáu i'r landlord gael mynediad i'r eiddo ar gyfer ymchwiliadau ac atgyweiriadau.
- Annog tenantiaid i ddefnyddio'r broses hawlio fel ffordd o drwsio eu gwaith atgyweirio. Fodd bynnag, gall hyn arwain at y tenant yn gorfod aros yn hirach i'r landlord ddatrys ei atgyweiriadau.
- Efallai y bydd tenantiaid bregus yn cael eu manteisio ar.
- Gallai'r cyfreithiwr fod yn gwneud hawliadau heb wybodaeth gan y tenantiaid. Weithiau nid yw tenantiaid yn cael gwybod yn llawn am y broses gyfreithiol, gan achosi straen a phryder pan fyddant yn darganfod yn nes ymlaen.
- Mae rhai tenantiaid yn wynebu costau a bygythiadau gan gyfreithwyr pan maen nhw'n ceisio gollwng yr hawliad. Mae adroddiadau o ymddygiad ymosodol ac aflonyddgar gan gyfreithwyr tuag at denantiaid.
- Gall tenantiaid fod yn gyfrifol am gostau cyfreithiol o'r ddwy ochr os nad yw eu hawliad yn llwyddiannus.
Cefnogaeth arall
Mae llawer o gyngor diduedd ar gael am ddim os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth rydych wedi’i dderbyn gan Newydd neu os oes gennych chi bryderon am gyflwr eich cartref. Mae hyn yn cynnwys:
Os nad ydych yn hapus gyda’n hymateb ac wedi gwneud cwyn ffurfiol, yna mae gennych hawl i siarad ag Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Ombwdsmon a fydd yn ymchwilio i’ch cwyn ymhellach.
Byddwch yn ofalus
Os bydd rhywun yn ymweld â’ch cartref ac rydych chi’n ansicr pwy ydyn nhw, ffoniwch yr Heddlu. Mae holl staff cynnal a chadw Newydd yn cario cardiau adnabod felly gofynnwch i gael gweld y rhain pan fyddan nhw’n ymweld â chi. Gallwch hefyd gadarnhau pwy yw unrhyw aelod o staff Newydd drwy ein ffonio ni ar 0303 040 1998.