Addasiadau Ffisegol

Mae cartrefi tenantiaid weithiau yn anaddas iddynt ar ôl i’w hanghenion newid. Fodd bynnag, nid symud yw’r ateb gorau bob amser ac efallai y byddwn yn medru gwneud addasiadau i’ch galluogi i barhau i fwynhau byw yn eich cartref.

Addasiad ffisegol yw altrad neu nodwedd ychwanegol yr ydych ei angen i’w gwneud yn haws i chi ddefnyddio eich cartref a’i gyfleusterau mewn modd cyn llawned â phosib. Gall hyn fod yn rhywbeth mor syml â gosod canllaw cydio ger y bath neu gawod. Gall fod yn rhywbeth mwy cymhleth fel adleoli toiled neu osod cawod arbennig neu lifft staerau.

Fe wnaiff Newydd ystyried pob cais am gymhorthion ac addasiadau.

Gwneir unrhyw waith bychan, megis gosod tapiau lifer newydd, rheiliau gafael a mynediad hanner gris, fel rhan o’n gwasanaeth i chi, cysylltwch â ni ar 0303 040 1998.

Fodd bynnag, gyda gwaith addasu mwy sylweddol, megis gosod caban cawod hawdd mynd ato, lifft grisiau, rampiau mynediad neu waith arbenigol, bydd yn rhaid i Newydd wneud cais i Lywodraeth Cymru ariannu Grant Addasiadau Ffisegol. Dyma’r broses mewn achosion o’r fath:

  • Mae’r tenant yn cysylltu â’r Adran Therapydd Galwedigaethol perthnasol ar gyfer yr ardal ac yn trefnu bod Therapydd Galwedigaethol (ThG) yn ymweld â’r eiddo i gwblhau asesiad o anghenion a gofynion y tenant.
  • Yn dilyn yr ymweliad hwn, mae’r ThG yn cyflwyno adroddiad i Newydd yn gwneud cais i gynnal y gwaith Addasiad Ffisegol perthnasol ar yr eiddo.
  • Ar ôl derbyn adroddiad y ThG, bydd y Swyddog Addasiadau yn dechrau’r broses ceisiadau. Fel rhan o’r broses, ac yn dibynnu ar y math o waith y gofynnwyd amdano, bydd angen trefnu nifer o ymweliadau: ymweliad Swyddog Addasiadau, ymweliad Swyddog Tai, arolwg asbestos, arolwg ystafell ymolchi ac arolygon offer arbenigol. Yn ystod ymweliad y Swyddog Tai, efallai y cynhelir trafodaeth am symud i eiddo arall sy’n fwy addas.
  • Ar ôl derbyn adroddiad y Swyddog Tai, adroddiad yr arolwg Asbestos, adroddiad yr arolwg ystafell ymolchi ac adroddiad yr arolwg offer arbenigol, bydd y Swyddog Addasiadau yn gofyn i nifer o gontractwyr (o leiaf tri) i ddarparu cais tendro am y gwaith sydd angen ei wneud.

Nodwch os gwelwch yn dda: gellir prosesu rhai mathau o addasiadau ffisegol ar sail ‘trac cyflym’ os ydyn nhw o dan derfyn penodedig ar gyfer math penodol o waith. Mewn achos o’r fath, gellir awdurdodi gwaith cyn gynted ag y mae’r tendr buddugol wedi ei ddewis. Fodd bynnag, os yw’r costau dros y terfyn penodedig, mae’n rhaid i Newydd wneud cais am arian Grant Addasiad Ffisegol oddi wrth Lywodraeth Cymru cyn i unrhyw waith ddechrau.

Dim ond yr awdurdod lleol perthnasol all eich cynghori ar y cyfnod aros tebygol cyn ymweliad ThG. Gallwch gysylltu â’ch ThG lleol yn:

Rhondda Cynon Taf
Tîm ACE
Tŷ Elái
Dinas Isaf East
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY
Ffôn: (01443) 425005

Cyngor Bro Morgannwg
Tîm Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion
Canolfan Tŷ Jenner
Gladstone Road
Y Barri
CF63 1NH
Ffôn: (01446) 725100

Cyngor Sir Powys
Adran Therapi Galwedigaethol
Y Parc
Y Drenewydd
SY16 2PL
Ffôn: (01686) 617520

Tîm Adnoddau Cymunedol Castell-nedd Port Talbot
Y Ganolfan Ddinesig
Castell-nedd
Castell-nedd Port Talbot
SA11 3QZ
Ffôn: (01639) 686802

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Tŷ Pontllan-fraith
Pontllan-fraith
Coed Duon
NP12 2YW
Ffôn: (01495) 235100