Cartrefi i Wcráin

Cartrefi i Wcráin: sut i roi gwybod i ni eich bod yn cymryd rhan

Mae’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau yn rhagweld y bydd y gwrthdaro cynyddol yn Wcráin yn effeithio ar 18 miliwn o bobl, gyda disgwyl i 4 miliwn o bobl ffoi o’u cartrefi wrth i’r rhyfel barhau. Rydym yn gwybod bod llawer o’n tenantiaid yn chwilio am ffyrdd o gynnig cymorth – dyma rai o’r ffyrdd y gallwch gefnogi pobl Wcráin, a’r hyn y mae angen i chi ei wneud os ydych yn bwriadu noddi’r cynllun Cartrefi i Wcráin.

Dyma’r dolenni swyddogol ar gyfer gwefannau Llywodraeth y DU a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i gael y wybodaeth a’r arweiniad diweddaraf.

Y DU yn sefyll gydag Wcráin – mae’r DU a’n cynghreiriaid yn unedig wrth gefnogi Wcráin (campaign.gov.uk)

Wcráin – Gwybodaeth a Chymorth – CLlLC

Beth alla i ei wneud i helpu?

Cyfrannu

Gallwch helpu pobl Wcráin drwy roi rhodd i Apêl Dyngarol Wcráin y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau – maent yn gweithio gyda llawer o elusennau, gan gynnwys y Groes Goch Brydeinig, i ddarparu bwyd, dŵr, lloches a gofal iechyd i ffoaduriaid a theuluoedd sydd wedi’u dadleoli.

Gwirfoddoli

Efallai y bydd gan sefydliadau lleol gyfleoedd gwirfoddoli hefyd, a gwahoddiadau i chi roi dillad a chyflenwadau eraill. Bydd eich canolfan gweithredu gwirfoddol leol yn gallu eich helpu i ddod o hyd i unrhyw gyfleoedd yn eich ardal chi.

Dyma wefan sy’n manylu ar fwy o ffyrdd i gefnogi: Apêl Wcráin a Chyfeiriadur Cymorth – GVS

Cartrefi i Wcráin

Mae cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU yn cefnogi pobl i gynnig ystafell sbâr, neu lety hunangynhwysol ar wahân, i ffoadur/ffoaduriaid o Wcráin am o leiaf chwe mis.

Beth mae Newydd yn ei wneud i helpu gyda thai?

Yr ydym yn gweithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn cyfrannu at unrhyw ymdrechion lleol i ddarparu tai brys.

Cymorth arall

Apêl Wcráin a Chyfeiriadur Cymorth – GVS

Beth yw’r opsiynau ar gyfer cynnal y rhai sy’n ceisio ailsefydlu?

Gellir cael y wybodaeth fwyaf cyfredol drwy dudalen wybodaeth ‘Cartrefi i Wcráin’ Llywodraeth y DU a gellir ei gweld yma. Mae yna hefyd gyfres o Gwestiynau Cyffredin a allai ateb rhai o’r cwestiynau sydd gennych, a gellir eu gweld yma. Rydym yn eich annog i ystyried y wybodaeth hon yn ofalus cyn penderfynu.

Mae angen cofrestru diddordeb mewn dod yn noddwr fel rhan o’r cynllun ailsefydlu, a byddwn yn cadarnhau eich bod wedi gwneud hyn cyn cytuno i chi noddi.

Hoffwn ystyried agor fy nghartref fel rhan o raglen anheddiad ffoaduriaid Wcráin. Ydw i’n gallu gwneud hyn?

Rydym am sicrhau bod hyn mor hawdd â phosibl i chi ei wneud os dymunwch. Er mwyn i ni ystyried eich cais i noddi, llenwch y ffurflen hon. Dylai llenwi’r ffurflen gymryd llai na thair munud. Byddwn yn cysylltu â chi gyda’n penderfyniad heb fod yn hwyrach na phythefnos o ddyddiad derbyn eich ffurflen.

Ni ddylech ofyn am daliad na thâl i unrhyw unigolion yr ydych yn eu noddi fel rhan o’r cynllun hwn.

Gofynnwn i chi ystyried rhai pethau cyn i chi gymryd y penderfyniad hwn fel rhan o amodau eich tenantiaeth, a disgwyliwn i bob tenant sy’n dymuno cynnig ystafelloedd yn eu cartref fod wedi ymdrin â’r pwyntiau canlynol yn foddhaol:

  • Maint eich cartref. Mae canllawiau llym ar faint o bobl sy’n gallu byw yn ein heiddo i sicrhau nad ydynt yn cael eu hystyried yn ‘orlawn’, ac fe nodir y canllawiau mewn cyfraith tai. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn eich cytundeb tenantiaeth.
  • Cymorth ariannol gyda’ch rhent. Gallai cael pobl i fyw gyda chi, hyd yn oed yn y tymor byr, effeithio ar unrhyw gymorth ariannol a gewch tuag at eich rhent neu daliadau gwasanaeth. Gallai hyn fod yn daliad gan eich awdurdod lleol (Budd-dal Tai) neu fel rhan o unrhyw daliad Credyd Cynhwysol. Byddai’n well holi a allai unrhyw letywr effeithio ar unrhyw daliad a gewch, gan y bydd disgwyl i chi wneud iawn am unrhyw wahaniaeth. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan y Llywodraeth sy’n ymwneud â noddi ac incwm.
  • Ystyriwch pa gostau ychwanegol a fyddai gennych o gael rhywun arall yn eich cartref, pethau fel defnydd ychwanegol o drydan, neu’r llwythi ychwanegol y byddai angen eu rhoi yn y peiriant golchi.
  • Trefniadau penodol eraill sy’n berthnasol i’ch cartref. Gallai fod trefniadau eraill ynghylch sut y gosodwyd eich cartref i chi, pethau a allai fod yn gysylltiedig ag oedran, neu os ydych yn derbyn gwasanaethau gofal neu gymorth. Byddech wedi cael gwybod am hyn pan wnaethoch chi symud i’ch cartref, ond os na, cysylltwch â ni i wirio.
  • Trefniadau yswiriant. Mae’n werth gwirio a allai noddi effeithio ar unrhyw bolisïau yswiriant ar eich cartref neu gynnwys.

Cwestiynau mwyaf cyffredin

C Sut gall pobl Wcráin ddod i’r Deyrnas Unedig?

Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu dau gynllun i helpu pobl i ddod i’r DU os ydynt yn ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin – y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, i bobl sydd â chysylltiadau teuluol, a’r cynllun Cartrefi i Wcráin, ar gyfer y rheini sydd heb gysylltiadau teuluol yn y DU.

C Ydy Llywodraeth Cymru’n rhedeg cynllun noddi ar wahân?

Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cynllun Cartrefi i Wcráin a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU. Byddwn ni’n uwch-noddwyr i’r cynllun hwnnw. Golyga hynny y byddwn yn noddi hyd at 1,000 o bobl o Wcráin yn ystod y cam cyntaf ond gallem dderbyn rhagor o bobl.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am y cynllun Cartrefi i Wcráin, ewch i wefan Llywodraeth y DU. Os oes gennych gwestiynau am y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, ewch i wefan Llywodraeth y DU. Hefyd, mae ein gwefan Noddfa yn rhoi llawer o wybodaeth yn Wcraineg a ieithoedd eraill ar gyfer y bobl sy’n cyrraedd Cymru o Wcráin.