Diogelwch trydannol
Mae diffyg cynnal a chadw neu camddefnydd o osodiadau trydannol gallu arwain at dân, anafiadau difrifol, neu hyd yn oed marwolaeth.
Wrth ddilyn y camau syml yma, fedrwch chi leihau’r tebygrwydd o ddigwyddiad trydanol yn eich cartref:
- Sicrhewch eich bod yn caniatáu mynediad i ni i gael profi eich gosodiadau trydanol pan fo angen. Fel arfer, mae hwn bob pum mlynedd ac yn cymryd tua thair i bedair awr i gwblhau. Fel rhan o’r prawf hwn, bydd unrhyw ffitiadau sydd angen eu newid yn cael eu newid a bydd unrhyw uwchraddiadau sydd eu hangen yn cael eu cwblhau.
- Sicrhewch eich bod yn gwybod lleoliad eich uned defnyddwyr/bwrdd ffiwsiau a sut i’w ddefnyddio petai doriad yn eich cylched yn eich cartref.
- Peidiwch â gadael eitemau ar stand-by
- Peidiwch a gadael teclynau yn gwefru neu gadael sychwr dillad ymlaen pan nad ydych gartref.
- Peidiwch a gorlwytho socedi trydan. Os nad ydych yn siwr os yw eich soced wedi ei orlwytho, defnyddiwch y cyfrifiadur ar lein hwn i weld.
- Peidiwch â gadael ceblau byw lle mae peryg baglu drostyn nhw neu lle gallent nhw ddifrodi.
- Sicrhewch fod eich offer mewn cyflwr da ac nad yw’r gwifrau a’r plygiau wedi’u difrodi mewn unrhyw ffordd.
- Prynwch eich offer trydanol gan fanwerthwyr parchus a sicrhewch eu bod yn cydymffurfio â safonau Prydeinig.
- Os mai popty trydan sydd gyda chi, gwnewch yn siŵr mai trydanydd cymwysedig sy’n ei osod
- Peidiwch â cheisio unrhyw waith trydanol eich hun. Mae Newydd yn apwyntio trydanwyr cymwys yn unig i gwblhau’r gwaith yn eich cartref.
- Peidiwch â defnyddio offer trydanol yn yr ystafell ymolchi.
- Peidiwch â defnyddio offer garddio trydanol tu allan mewn tywydd gwlyb.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Electrical Safety First