Cynllun Kickstart
Mae Cymdeithas Tai Newydd yn cymryd rhan ym Mhartneriaeth Tai Kickstart, a arweinir gan Grŵp Tai Clarion, darparwr tai fforddiadwy mwya’r DU. Mae sefydliadau’r bartneriaeth wedi sicrhau cyllid oddi wrth y Llywodraeth i greu lleoliadau gwaith newydd ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed drwy’r rhaglen Kickstart. Rydym yn falch o gadarnhau’r swyddi gwag newydd canlynol drwy’r cynllun hwn:
Cynorthwyydd Cymorth Digidol, 35 awr yr wythnos, i gefnogi ein tenantiaid i uwchsgilio’n ddigidol
Cynorthwyydd Gweinyddu Cynnal a Chadw, 40 awr yr wythnos, i ddarparu cefnogaeth weinyddol i’n tîm cynnal a chadw
Gweithiwr Amlsgiliau dan Hyfforddiant, 40 awr yr wythnos, i wneud gwaith atgyweirio, cynnal a chadw, a gwelliannau i’n heiddo
Nid yw Newydd yn medru derbyn ceisiadau’n uniongyrchol - mae’n rhaid i ymgeiswyr fynd drwy eu hyfforddwr gwaith.
Telir lleoliadau Kickstart ar gyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ac maen nhw ar gael yn unig i ymgeiswyr 16 i 24 oed sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd.
I gael gwybod mwy am y rolau cyffrous hyn, ac i wneud cais, siaradwch gyda’ch hyfforddwr gwaith CBG (Canolfan Byd Gwaith).