Prentisiaethau

Yma, byddwch yn darganfod amrywiaeth o gyfleoedd prentisiaethau cyffrous ein contractwyr. Ar gyfer unrhyw ymholiadau, defnyddiwch y ffurflen gyswllt isod.

Cyfle swydd: Peiriannydd Hylendid Dŵr dan Hyfforddiant (Llawn Amser) gyda Vector Air and Water

Mae Vector Air and Water yn chwilio am Beiriannydd Hylendid Dŵr dan Hyfforddiant i ymuno â'u tîm deinamig. Mae'r swydd yma yn cynnig cyflog o £21,500 y flwyddyn, ynghyd ag opsiynau dilyniant gyrfa ddeniadol a chynhwysiad o fewn cynllun rhannu elw'r cwmni ar ôl cwblhau'r cyfnod prawf yn llwyddiannus.

Fel rhan o’r rôl, byddwch yn derbyn pecyn buddion cynhwysfawr, gan gynnwys 22 diwrnod o wyliau blynyddol, yn ogystal â gwyliau statudol. Bydd Vector Air and Water yn darparu cerbyd cwmni a gliniadur i chi, gan sicrhau bod gennych yr offer angenrheidiol i ragori yn eich rôl. Bydd yr holl hyfforddiant gofynnol yn cael ei ddarparu i gefnogi eich datblygiad proffesiynol.

Er mai Caerdydd fydd prif leoliad y gwaith, efallai y bydd teithio achlysurol i leoliadau eraill yn unol ag anghenion busnes. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o fewn y diwydiant, sy'n golygu bod y cyfle hwn yn berffaith i unigolion sy'n ceisio newid gyrfa. Rydym yn annog pawb sydd â diddordeb i wneud cais, waeth beth fo'u cefndir.

I wneud cais am y cyfle cyffrous hwn, cyflwynwch eich CV i careers@vector-airandwater.co.uk.

Gofyn am ragor o wybodaeth