Deddf Rhentu Cartrefi Cymru
Mae’r ffordd yr ydych chi’n rhentu eich cartref wedi newid
O'r 1af o Ragfyr, mae'r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi newid sut yr ydych chi’n rhentu eich cartref. Mae’r gyfraith newydd hon yn effeithio ar bob landlord a thenant yng Nghymru.
Os ydych yn denant Newydd, bydd hyn yn golygu bod rhaid i ni roi copi o’ch contract meddiannaeth i chi cyn 31ain o Fai 2023.
O dan y gyfraith newydd, bydd tenantiaid a deiliaid trwyddedau yn dod yn 'ddeiliaid contract'. Bydd cytundebau tenantiaeth yn cael eu disodli gan 'gontractau meddiannaeth'.
Mathau o gontract
Ceir dau prif fath o gontract meddiannaeth, a gellir cyflwyno contractau mewn nifer o fformatau yn cynnwys ar ffurf papur neu electronig:
- Contract diogel: Defnyddir hwn yn lle’r tenantiaethau diogel a roddwyd gan awdurdodau lleol a’r tenantiaethau sicr a roddwyd gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
- Contract safonol: Dyma’r contract diofyn ar gyfer y sector rhentu preifat, ond gall awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ei ddefnyddio o dan amgylchiadau penodol e.e. ‘contract safonol â chymorth’ ar gyfer llety â chymorth.
Eich contract meddiannaeth
Bydd angen cofnodi eich contract meddiannaeth â’ch landlord ar ffurf ‘datganiad ysgrifenedig’. Diben y datganiad ysgrifenedig yw cadarnhau telerau’r contract. Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig hwn gynnwys holl delerau gofynnol y contract. Y telerau hyn yw:
- Materion allweddol: Er enghraifft, enwau’r unigolion dan sylw a chyfeiriad yr eiddo. Rhaid cynnwys y rhain ym mhob contract
- Telerau sylfaenol: Mae’r rhain yn trafod yr agweddau pwysicaf ar y contract, gan gynnwys y gweithdrefnau ar gyfer cymryd meddiant o’r eiddo a rhwymedigaethau’r landlord mewn perthynas â gwneud gwaith atgyweirio
- Telerau atodol: Mae’r rhain yn ymwneud â’r materion mwy ymarferol, bob dydd sy’n berthnasol i’r contract meddiannaeth, er enghraifft, y gofyniad i roi gwybod i’r landlord os na fydd yr eiddo yn cael ei feddiannu am gyfnod o bedair wythnos neu ragor
- Telerau ychwanegol: Mae’r rhain yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion eraill y cytunwyd arnynt yn benodol, er enghraifft, teler sy’n ymwneud â chadw anifeiliaid anwes.
Os hoffech wybod mwy ynglŷn â sut y bydd y gyfraith newydd yn effeithio arnoch chi, ewch i wefan Llywodraeth Cymru am fwy o wybodaeth.
Mae eCymru wedi cynllunio cwrs byr i helpu tenantiaid yng Nghymru i reoli a byw mewn cartref rhent yng Nghymru. Gyda saith pwnc llawn gwybodaeth, bydd y cwrs hwn yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn ddeiliad contract cyfrifol. I gwblhau'r cwrs, darllenwch dros y wybodaeth a chwblhewch gwis cyflym i ddangos eich dealltwriaeth o'ch hawliau a'ch cyfrifoldebau. Cliciwch yma i wneud y cwrs.