Sut i wneud galwad FaceTime

Mae FaceTime yn caniatáu i ddefnyddwyr dyfeisiau iPhone, iPad, ac Apple Mac i wneud galwadau fideo i ddyfeisiau Apple eraill am ddim os oes gennych fynediad at Wi-Fi neu 4g.

Sylwch: Ni allwch wneud galwad FaceTime gan ddefnyddio dyfeisiau Android.

Isod mae'r camau i wneud galwad FaceTime:

1. Agorwch app ‘Facetime

2. Cliciwch yr eicon ‘+sydd ar ochr dde ar dop y sgrin

3. Rhowch enw, cyfeiriad e-bost neu rif ffôn y cyswllt

4. Cliciwch ar ‘Audio neu ‘Video i gychwyn yr alwad


Isod mae'r camau i wneud galwad grŵp FaceTime

Sylwch: Er mwyn gwneud galwadau grŵp FaceTime, mae angen iOS 12.1.4 neu hwyrach, neu iPadOS ar un o'r dyfeisiau hyn: iPhone 6s neu hwyrach, iPad Pro neu hwyrach, iPad Air 2 neu hwyrach, iPad mini 4 neu hwyrach, iPad (5ed genhedlaeth) neu hwyrach, neu iPod touch (7fed genhedlaeth). Gall modelau cynharach o iPhone, iPad, ac iPod touch sy'n cefnogi iOS 12.1.4 ymuno â galwadau grŵp FaceTime fel cyfranogwyr sain.

1. Llywiwch i ac agorwch ‘Facetime

2. Cliciwch yr eicon ‘+’ sydd ar ben dde’r sgrin

3. Rhowch enwau, cyfeiriadau e-bost neu rifau ffôn y cyswllt

4. Cliciwch ar ‘Audio’ neu ‘Video’ i gychwyn yr alwad