Gwna Fe'n Ddigidol
Rydym ni’n helpu ein tenantiaid a’r gymuned gyfan ennill sgiliau defnyddio cyfrifiaduron, tabledi a chael at wasanaethau megis siopa a bancio ar lein. Mae’r sesiynau yma yn rhoi cyfle i bobl cael mynediad i holl wybodaeth y byd drwy eu dyfeisiau. Fedrwn hefyd cynnig cymorth i chi ennill cymwysterau cyfrifiaduron. Os hoffech gymorth digidol, anfonwch e-bostiwch i scott.tandy@newydd.co.uk
Ydych chi angen benthyg offer digidol?
Mae Newydd yn cynnig benthyciad tymor byr o offer digidol gan gynnwys tabledi a gliniaduron i helpu tenantiaid i fynd ar-lein a defnyddio'r rhyngrwyd yn effeithiol ac yn ddiogel.
Mewn ardaloedd o stoc Newydd, rydym yn cefnogi ein partneriaid i sefydlu a darparu cynlluniau benthyca tabledi cydgysylltiedig i gynyddu'r cynnig o fynediad ac offer digidol.
Cymorth Digidol
Mae Newydd yn darparu prosiect cymorth ar-lein trwy ein ‘Digital Support Google Classroom’. Defnyddir yr ystafell ddosbarth i ddatblygu hyder a gallu tenantiaid o amgylch pynciau gan gynnwys 'Deall eich dyfais android', 'Deall eich iPhone a'ch iPad', 'Rhwydweithio cymdeithasol a chyfathrebu ar-lein', 'Sgiliau digidol yn y gweithle modern', 'Iechyd Digidol', 'Gwasanaethau'r llywodraeth', 'Siaradwyr craff a chynorthwywyr llais', a 'Hobïau a diddordebau'.
Darperir cefnogaeth hyfforddi rithwir 1-1 hefyd dros fideo i gyfathrebu ac ymholi yn effeithiol.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Scott yn ein Tîm Cymunedol ar 07584 501 216 neu scott.tandy@newydd.co.uk
Sut i wneud galwad FaceTime
Mae FaceTime yn caniatáu i ddefnyddwyr dyfeisiau iPhone, iPad, ac Apple Mac i wneud galwadau fideo i ddyfeisiau Apple eraill am ddim os oes gennych fynediad at Wi-Fi neu 4g.
Sylwch: Ni allwch wneud galwad FaceTime gan ddefnyddio dyfeisiau Android.
Isod mae'r camau i wneud galwad FaceTime:
1. Agorwch app ‘Facetime’
2. Cliciwch yr eicon ‘+’ sydd ar ochr dde ar dop y sgrin
3. Rhowch enw, cyfeiriad e-bost neu rif ffôn y cyswllt
4. Cliciwch ar ‘Audio’ neu ‘Video’ i gychwyn yr alwad
Isod mae'r camau i wneud galwad grŵp FaceTime
Sylwch: Er mwyn gwneud galwadau grŵp FaceTime, mae angen iOS 12.1.4 neu hwyrach, neu iPadOS ar un o'r dyfeisiau hyn: iPhone 6s neu hwyrach, iPad Pro neu hwyrach, iPad Air 2 neu hwyrach, iPad mini 4 neu hwyrach, iPad (5ed genhedlaeth) neu hwyrach, neu iPod touch (7fed genhedlaeth). Gall modelau cynharach o iPhone, iPad, ac iPod touch sy'n cefnogi iOS 12.1.4 ymuno â galwadau grŵp FaceTime fel cyfranogwyr sain.
1. Llywiwch i ac agorwch ‘Facetime’
2. Cliciwch yr eicon ‘+’ sydd ar ben dde’r sgrin
3. Rhowch enwau, cyfeiriadau e-bost neu rifau ffôn y cyswllt
4. Cliciwch ar ‘Audio’ neu ‘Video’ i gychwyn yr alwad
Sut i wneud galwad WhatsApp
Mae WhatsApp yn ap rhad ac am ddim ar gyfer dyfeisiau ffôn sy'n caniatáu i negeseuon, galwadau fideo, lluniau a fideos gael eu hanfon gan unigolion i unigolion eraill neu i grwpiau o bobl.
Isod mae'r camau i wneud galwad WhatsApp:
1. Agorwch ap ‘WhatsApp’
2. Cliciwch yr eicon ‘Sgwrs Newydd’
3. Teipiwch enw neu rif ffôn y cyswllt
4. Teipiwch y neges a chlicio anfon