Cadw Cymru'n Gynnes - Neges gan Dŵr Cymru
Mae'r gaeaf yn gallu bod yn amser hudolus o'r flwyddyn, ond mae tywydd rhewllyd yn gallu bod yn gostus.
Mae pibellau a thapiau sydd allan yn yr awyr agored, neu mewn llefydd oer fel llofft neu garej, yn gallu rhewi a byrstio - gan eich gadael chi heb ddŵr a gwres neu achosi llifogydd yn eich cartref.
Y ffordd orau o osgoi hyn yw paratoi eich cartref neu'ch busnes cyn iddi oeri.
Gallai'ch pibellau rewi mewn tywydd oer gan eich gadael chi a'ch teulu heb ddŵr a gwres. Ry’n ni'n ceisio annog ein cwsmeriaid i baratoi eu cartrefi at y gaeaf trwy lapio pibellau tu allan i'w hatal rhag cracio wrth rewi.
Dyma ambell i beth syml y gallwch eu gwneud i baratoi'ch cartref at y gaeaf:
Darllenwch 10 awgrym gan Dŵr Cymru i baratoi eich cartref ar gyfer y gaeaf, ac ewch i'w safle we am rhagor o wybodaeth.