Posted 11.03.2022

Lansio Working Wardrobe yn Rhydyfelin

Ar ddydd Iau, 10 Mawrth, lansiwyd gwasanaeth newydd sy’n cynnig dillad cyfweliad am ddim i bobl sy’n chwilio am waith, yn Rhydyfelin ger Pontypridd. 

Nod menter Working Wardrobe yw rhoi’r hyder i bobl gymryd eu cam cyntaf tuag at yrfa newydd drwy ddarparu dillad cyfweliad a dillad gwaith am ddim. 

Pa un a yw pobl leol yn chwilio am waith ar hyn o bryd, neu wedi cael hyd i swydd yn ddiweddar, byddant yn medru casglu a chadw owtffit gwaith o’r hyb yn Rhydyfelin.

Darperir prosiect Rhydyfelin mewn partneriaeth gyda Moxie People, Platfform, Cymdeithas Tai Newydd, Tai Calon, United Welsh, Working Families a Bluegg, ac fe’i lansiwyd ar ôl darganfod nad yw nifer o bobl yn medru cael gafael ar ddillad cyfweliad addas o safon uchel. 

Yn ogystal â helpu pobl sy’n chwilio am waith, bydd Working Wardrobe hefyd yn cael effaith bositif ar newid hinsawdd. Drwy ailddosbarthu dillad cyfweliad newydd neu sydd wedi cael defnydd ysgafn, bydd Working Wardrobe yn chwarae rhan mewn lleihau faint o ddillad a anfonir i safleoedd tirlenwi yn y DU bob blwyddyn. 

Dywedodd Rich Thomas, Cyd-sefydlwr Moxie People, “Rydym yn falch y bydd Working Wardrobe yn mynd i’r afael â rhai o’r materion cymdeithasol ac economaidd mwyaf dybryd yn ne Cymru oherwydd rydym yn gwybod bod cael hyd i waith yn medru trawsnewid bywydau a’n cymunedau, tra hefyd yn rhoi hwb i economi Cymru ar ôl COVID.”

“Mae Working Wardrobe yn ymgorffori popeth rydym ni’n sefyll drosto yn Moxie: cefnogi pobl a rhoi’r cyfle iddyn nhw sicrhau cyflogaeth gynaliadwy – rhywbeth mae pawb yn ei haeddu. Oherwydd pan fyddwch wedi gwisgo i lwyddo, rydych chi’n teimlo y gallwch chi herio’r byd.” 

Os hoffech chi gael dillad cyfweliad, cysylltwch â Jonathan James cyn i chi ymweld â Hyb Hapi, Masefield Way, Rhydyfelin, CF37 5HQ – drwy e-bostio jonathan.james@newydd.co.uk neu ffonio 07385 490981.

Am fwy o wybodaeth am Working Wardrobe, ewch i Working Wardrobe


Llun: Chwith i dde, Annwyn Gomer a Rich Thomas o Moxie People gyda Jason Wroe a Lisa Voyle o Gymdeithas Tai Newydd

Newyddion diweddaraf