Posted 07.11.2022

Beth ddywedodd ein tenantiaid yn ein sgwrs arian?

Rydym yn deall ei bod hi’n amser anodd a gofidus iawn i bawb pan ddaw hi i arian a’r cynnydd mewn costau byw. Ar gyfer #WythnosSiaradArian, fe wnaeth Elizabeth Lendering, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau, a Oonagh Lyons, Cyfarwyddwr Tai a Chymunedau, gwrdd gyda thenantiaid yn rhithiol ar Zoom i siarad am y cynnydd mewn costau byw a’r effaith ar renti a ffioedd gwasanaeth yn y dyfodol. Fe wnaethon nhw esbonio sut mae rhenti a ffioedd gwasanaeth yn cael eu gosod, gan hefyd amlinellu’r gefnogaeth ariannol a digidol mae Newydd yn ei chynnig. Ymunodd David Wilton o TPAS Cymru yn y sgwrs hefyd er mwyn rhannu canfyddiadau o’r adroddiad Pwls diweddaraf ar fforddiadwyedd.

Rhai o’r pryderon a leisiwyd gan ein tenantiaid oedd ofn oedd:

  • toriadau yn y gyllideb yn effeithio ar y gwasanaethau a’r gefnogaeth maen nhw’n eu derbyn
  • y gallai costau uwch am danwydd a deunyddiau olygu nad yw gwaith cynnal a chadw llai yn cael ei gwblhau bellach
  • y gallai rhenti a ffioedd gwasanaeth am gartrefi 1-ystafell-wely ddod yn anfforddiadwy
  • yr effaith ar deuluoedd ar incwm isel neu sydd mewn tlodi mewn gwaith
  • effaith bandiau treth cyngor uchel ar denantiaid sy’n byw mewn ardaloedd lle mae yna bocedi cyfoethog iawn o fewn eu hawdurdod lleol
  • y gallai costau tanwydd uwch arwain tenantiaid i beidio â rhoi’r gwres ymlaen o gwbl a’r effaith andwyol y byddai hyn yn ei gael ar denantiaid mwy bregus

Beth nesaf?

Byddwn yn cymryd i ystyriaeth adborth tenantiaid wrth adolygu ein polisi gosod rhent a datblygu strategaeth fforddiadwyedd rhent. Rydym yn aros am gyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar y codiad canrannol mewn rhenti tai cymdeithasol yr ydym yn cael ei godi, gan y bydd hyn yn un o’r prif ffactorau yr ydym yn ei ystyried wrth osod ein cyllideb ni a’ch rhenti a’ch ffioedd gwasanaeth chi ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ym mis Rhagfyr.

Mae Newydd hefyd yn edrych ar opsiynau ynni ac arbed costau ar gyfer ardaloedd cymunol yn ein cynlluniau byw’n annibynnol, e.e. gosod switsys amseredig, fel bod golau a gwresogi yn troi ymlaen ddim ond pan fo’i angen, a gosod paneli solar lle bo hynny’n addas.

Er mwyn gwella effeithlonrwydd, rydym yn newid y ffordd rydym yn blaenoriaethu gwaith cynnal a chadw bach er mwyn sicrhau bod yr un gweithiwr yn delio gyda’r gwaith o’r dechrau i’r diwedd.

Rydym yn addo y byddwn ni’n agored ac yn dryloyw, ac yn rhoi rhesymau dros unrhyw godiadau yn eich rhent a ffioedd gwasanaeth. Byddwn yn parhau i gynnal y sgwrs am fforddiadwyedd rhent gyda thenantiaid. Byddwn yn sicrhau bod tenantiaid yn gwybod y diweddaraf am yr help sydd ar gael iddyn nhw ac yn gwneud yn siŵr bod unrhyw denant sydd wedi’u hallgáu’n ariannol neu’n ddigidol yn cael yr help maen nhw ei angen. Byddwn hefyd yn parhau i gynnal digwyddiadau cymunedol un-tro er mwyn siarad gyda’n tenantiaid am eu pryderon ariannol.

Dywedodd Cath Kinson, Cadeiryddes y Grŵp Craffu Tenantiaid, a fynychodd y Sgwrs Arian, “Rydym yn ymddiried ein cartrefi i chi ac y byddwch chi’n gwneud y gorau gallwch chi dros eich holl denantiaid.”

Am fwy o wybodaeth am yr argyfwng costau byw a beth gall Newydd ei wneud i helpu gyda'r cynnydd mewn costau byw, ewch i’r dudalen yma ar ein gwefan.

Os hoffech chi gymryd rhan mewn grwpiau ffocws yn edrych ar osod rhenti, fforddiadwyedd a gwerth am arian, cysylltwch â Tracy James, Swyddog Cynnwys: tracy.james@newydd.co.uk neu 02920 00 5477.

Newyddion diweddaraf