Rydym wedi ymuno â phartneriaid i ddarparu 2000 kg o fwyd dros ben o safon i Fanc Bwyd Llandrindod.
Mewn cydweithrediad â’r contractwr adeiladu J.G. Hale Construction, rydym ni’n gweithio ar ddatblygiad tai newydd yn Ffordd Ithon, Llandrindod, ar hyn o bryd er mwyn adeiladu 55 o gartrefi fforddiadwy, ac rydym wedi ymuno, mewn cydweithrediad â FareShare Cymru, i ddarparu 2000 kg o fwyd dros ben o safon i Fanc Bwyd Llandrindod.
Agorodd Banc Bwyd Llandrindod yn 2013 ac mae’n darparu pecynnau tridiau o fwyd brys ar gyfer cleientiaid o fewn y gymuned leol. Ar hyn o bryd mae’r elusen yn codi arian i adnewyddu hen adeilad er mwyn ehangu’r safle i gwrdd â’r twf cynyddol yn y galw am y gwasanaeth.
Ers dechrau’r pandemig COVID-19, mae FareShare Cymru, rhan o’r elusen FareShare Brydeinig, wedi gweld y galw am y gwasanaeth banc bwyd yn dyblu o 1,000,000 o brydau’r wythnos yn 2019 i 2,000,000 o brydau’r wythnos yn 2020. Mae’r elusen yn gweithio gydag archfarchnadoedd lleol, ac yn defnyddio bwyd dros ben o safon i ddarparu prydau ar gyfer 11,000 o elusennau rheng flaen a grwpiau cymunedol ledled y DU.
Mae’r bartneriaeth rhwng Cymdeithas Tai Newydd a J.G. Hale Construction hefyd wedi darparu nifer o fuddion cymdeithasol eraill o fewn yr ardal leol, gan gynnwys 335 wythnos o gyfleon cyflogaeth a hyfforddiant newydd yn lleol. Dylai’r cyfnod cyntaf yn natblygiad Ffordd Ithon gael ei gwblhau tua diwedd gwanwyn 2021, a disgwylir y bydd yr ail gyfnod yn cael ei gwblhau tua diwedd 2021.
Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Newydd: “Yn ystod yr amser anhygoel o anodd hwn, mae hi nawr yn fwy pwysig nag erioed ein bod yn cefnogi ein cymunedau lleol. Rydym yn ddiolchgar iawn i’n contractwr Hale am ein cefnogi ni gyda’r prosiect FareShare Cymru.
“Gyda’n datblygiad Ffordd Ithon yn tynnu tua’r terfyn, rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn i weithio gyda chymunedau Llandrindod yn y dyfodol agos.”
Dywedodd David Harrhy, Rheolwr Gyfarwyddwr J.G. Hale Construction: “Gyda’r cynnydd mewn heriau cymdeithasol ac economaidd yn sgîl COVID-19, mae hi wedi bod yn hanfodol ein bod yn ail-asesu sut rydym yn darparu ein buddion cymunedol, gan sicrhau bod mentrau nid-er-elw lleol a phrosiectau gyda’r anghenion mwyaf yn cael eu cefnogi o fewn ein cymunedau.
“Rydym yn ddiolchgar i FareShare Cymru ac i’n cleient, Cymdeithas Tai Newydd, am gefnogi’r fenter ar gyfer Banc Bwyd Llandrindod.”
Llun uchod: Cynrychiolydd FareShare, Shannon Maidment o Gymdeithas Tai Newydd a Dai Davies o J.G. Hale Construction.