Rydym wedi arwyddo’r Adduned Dim Hiliaeth
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi arwyddo’r adduned dim hiliaeth.
Fel cymdeithas tai, rydym yn deall pwysigrwydd darparu gwasanaethau teg i holl aelodau ein cymuned. Rydym wastad wedi bod yn ymrwymedig i bolisi cyfleoedd cyfartal mewn cyflogaeth a darpariaeth gwasanaethau, ac rydym yn falch o wneud yr addewid hwn er mwyn cadarnhau ymhellach ein hymrwymiad i’r egwyddor hon.
Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Newydd, “Yma yng Nghymdeithas Tai Newydd, rydym wedi ymrwymo i greu cymuned lle mae pawb yn cael eu trin yn deg ac â pharch, beth bynnag eu hil neu ethnigrwydd. Drwy arwyddo’r adduned dim hiliaeth, rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i’r egwyddor hon ac yn sefyll yn gadarn yn erbyn hiliaeth mewn pob ffurf. Rydym yn falch o hybu cymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal i bawb, a byddwn yn parhau i weithio tuag at y nod hwn.”
Beth yw’r Adduned Dim Hiliaeth?
Mae Dim Hiliaeth Cymru yn galw ar bob sefydliad ac unigolyn sydd wedi ymrwymo i hybu cytgord hiliol a thegwch i ymuno â’u polisi dim goddefgarwch i hiliaeth yng Nghymru a gweithredu’r ymrwymiadau a amlinellir gan y polisi yn y gweithle a’u bywydau o ddydd i ddydd.
Drwy arwyddo a chytuno i’r polisi, rydym yn cytuno i sefyll yn erbyn hiliaeth a hyrwyddo gweithle a chymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal sy’n rhoi hawl i bob unigolyn yng Nghymru deimlo’n ddiogel, a’i fod yn cael ei werthfawrogi a’i gynnwys.
Ein hymrwymiad
Rydym yn sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu annheg ar sail oed, anabledd, hil, crefydd a chred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, a phriodas a phartneriaeth sifil, neu unrhyw nodwedd berthnasol arall mewn darpariaeth tai, gwasanaethau neu gyflogaeth. Rydym yn croesawu ac yn annog ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol, yn arbennig pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a phobl anabl, gan fod y rhain yn grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithle ar hyn o bryd.
Dywedodd Oonagh Lyons, Cyfarwyddwr Tai a Chymunedau Newydd, “Rydym yn chwarae rôl hanfodol mewn darparu gwasanaethau tai teg i holl aelodau ein cymuned. Mae hyn yn gydgyfrifoldeb, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o’n cymuned, gan gynnwys ein staff, cleientiaid a’n cwsmeriaid, i gydweithredu.”
Symud ymlaen
Rydym hefyd yn deall bod monitro yn rhan hanfodol o sicrhau bod ein polisi yn hollol effeithiol. Byddwn felly yn monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws pob agwedd o’n gwaith, gan gynnwys recriwtio staff, cwynion a chamau disgyblu, er mwyn sicrhau bod pob grŵp yn cael eu trin yn deg.
Rydym yn falch o wneud yr adduned hon a chadarnhau ymhellach ein hymrwymiad i greu cymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal i bawb. Rydym yn sefyll yn gadarn gyda phawb sy’n credu yn yr egwyddor hon a byddwn yn gweithio i hybu cysylltiadau hiliol da a chyfleoedd cyfartal i bawb. Mae ein drws ar agor ac mae croeso i bawb.
For more information about our commitment to equality and diversity, please visit our website to see our commitment to equality here.