Posted 11.02.2021

Newydd yn arwain ar werth cymdeithasol yng Nghymru

Rydym yn falch i gyhoeddi mai CT Newydd yw’r gymdeithas tai Gymreig gyntaf i ymuno â chynllun mapio gwerth cymdeithasol HACT. 

Datblygwyd y map gan yr UK Social Value in Housing Taskforce, sy’n cynnwys 17 o sefydliadau gan gynnwys sefydliadau tai cymdeithasol blaenllaw, y Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol ac arbenigwyr rhyngwladol ar werth cymdeithasol. 

Mae HACT yn cynnal trafodaethau gyda dros 20 o sefydliadau eraill o du fewn a thu hwnt i’r sector tai cymdeithasol ynglŷn â chymryd rhan yn y mapio gwerth cymdeithasol. 
Dylai unrhyw gorff sydd am ymuno â’r sefydliadau arloesol hyn i ddatblygu’r map gysylltu â Isobel.Kiely@hact.org 

Dywedodd Andrew van Doorn, Prif Weithredwr HACT:

“Drwy ymuno â’r map gwerth cymdeithasol, mae Newydd wedi profi ei ymrwymiad i fod ar flaen y gad o ran mesur a gweithredu gwerth cymdeithasol, fel y gall roi gwerth cymdeithasol ar waith ledled ei fusnes.”

“Bydd eu hymrwymiad yn sicrhau y bydd yr offerynnau a’r achosion defnydd a grëir drwy’r map o amgylch y llinyn aur rhwng anghenion cymunedau lleol a buddsoddiadau mewn mannau lleol yn berthnasol i gymdeithasau tai ledled y DU. Bydd y map yn galluogi Newydd i fesur y gwerth cymdeithasol maen nhw’n ei gynhyrchu drwy ddefnyddio Banc Gwerth Cymdeithasol DU estynedig sy’n cynnwys gwerthoedd amgylcheddol, gwerthoedd economaidd a gwerthoedd llesiant wedi eu hadnewyddu a’u diweddaru.” 

Dywedodd Oonagh Lyons, Cyfarwyddwr Tai yn Newydd: 
“Yma yn Newydd rydym wastad yn frwd iawn i ddeall yr effaith mae ein gwaith yn ei gael. Oherwydd hyn mae’n beth cyffrous iawn cael bod y gymdeithas gyntaf yng Nghymru i weithio gyda HACT a phartneriaid blaenllaw eraill yn y sector i ddatblygu map ar gyfer ffordd newydd o fesur gwerth cymdeithasol.” 
Lansiwyd y map gwerth cymdeithasol yn 2020. Dyma rai o’r sefydliadau sy’n cymryd rhan: 

  • Breyer Group
  • Charis
  • Clarion
  • CHP
  • Clarion
  • Federated Hermes
  • Fusion21
  • Gentoo
  • Leeds and Yorkshire HA
  • Link
  • Longhurst
  • MTVH
  • Newydd
  • Optivo
  • Orbit
  • Peabody
  • PlaceShapers
  • Poplar HARCA
  • Raven
  • Regenda
  • Social Value UK
  • South East Consortium
  • Sovereign
  • VIVID
  • whg
  • Wythenshawe Community Housing Group
  • Your Housing Group  

 
Datblygwyd y map gan yr UK Social Value in Housing Taskforce, sy’n cynnwys 17 o sefydliadau gan gynnwys sefydliadau tai cymdeithasol blaenllaw, y Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol ac arbenigwyr rhyngwladol ar werth cymdeithasol. 

Mae HACT yn cynnal trafodaethau gyda dros 20 o sefydliadau eraill o du fewn a thu hwnt i’r sector tai cymdeithasol ynglŷn â chymryd rhan yn y mapio gwerth cymdeithasol. 

Dylai cyrff sydd am ymuno â’r sefydliadau arloesol hyn i ddatblygu’r map

Am HACT

Mae HACT yn partneru gyda sefydliadau ledled y sector tai i yrru gwerth ar gyfer preswylwyr a chymunedau drwy gynhyrchion sydd wedi’u seilio ar fewnwelediad a gwasanaethau sy’n annog arloesi a meithrin cydweithredu.

Mae HACT yn gweithio ym meysydd gwerth cymdeithasol, buddsoddiad cymdeithasol a defnydd data i gael gwell dealltwriaeth o’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu a’r effaith cymdeithasol maen nhw’n ei gael.

Mae cynhyrchion, gwasanaethau, ymgynghoriaeth ac ymchwil HACT yn helpu sefydliadau i:

  • Gyfrif gyda chywirdeb a gwrthrychedd y budd cymdeithasol o fuddsoddiad drwy ddefnyddio’r Banc Gwerth Cymdeithasol DU
  • Fesur effaith, deall cymunedau a dangos gwerth gwaith buddsoddi cymunedol drwy ein hofferyn mewnwelediad
  • Ddarparu fforwm i rwydweithio gyda phartneriaid er mwyn cyfannu a chryfhau llwyddiant darpariaeth drwy Ganolfan Rhagoriaeth mewn Buddsoddi Cymdeithasol HACT
  • Gysylltu, rhannu syniadau ac arloesi, a datblygu offerynnau ar gyfer sectorau penodol megis Safonau Data Tai y DU
  • Nodi cost a budd, gwerthuso perfformiad a darparu mewnwelediad strategol

Newyddion diweddaraf