I Fyny Eich Stryd: Cyflwyniad
Gadewch i mi gyflwyno fy hun
Pwy fyddai’n meddwl y byddwn i’n ysgrifennu blog?! Ond dyna mae’r cyfnod clo wedi fy ysbrydoli i’w wneud.
Fy enw yw Lianne ac rwyf wedi bod yn denant i Newydd ers rhai blynyddoedd erbyn hyn. Er i mi fod yn ffodus hyd yma o ran gyrfa, ychydig yn ôl cefais fy ngwneud yn ddi-waith.
Mae colli fy swydd wedi bod yn her fawr, ond yng nghanol pandemig, dyw e wir ddim yn help!
Ar y dechrau doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r holl gyfleoedd y gallai Newydd eu cynnig i mi, roeddwn i’n meddwl eu bod yno i gymryd fy arian bob wythnos. Felna mae rhentio’n gweithio yndyfe?!
Buan y sylweddolais pa mor anghywir oeddwn i ar ôl cyfarfod â Jackie Holly, Swyddog Adfywio Cymunedol gyda Newydd, un diwrnod diflas mewn caffi yn y Barri. Cychwynnais ar siwrnai o gymhelliant a chyflawniad. Nid yw’n hawdd, a theimlais lawer tro fel rhoi’r gorau iddi, ond gyda chefnogaeth ac anogaeth, dyma fi heddiw yn ysgrifennu’r blog yma. Wrth rannu hanes fy siwrnai a rhai o’r straeon mae pobl eraill wedi eu rhannu gyda fi, gobeithio y bydd hynny efallai yn ysbrydoli ac yn cefnogi pobl sy’n mynd drwy gyfnodau anodd.
Gadewch i ni siarad am laeth
Pan mae llesiant yn troi’n ‘ddim mor llesol’ am eich bod wedi rhedeg mas o laeth …
Fel y rhan fwyaf o bobl, cafodd fy llesiant yn sicr ei brofi dros y blynyddoedd. Efallai fod pethau’n rhedeg yn esmwyth, chi’n dod i ben, ond wedyn, heb unrhyw rybudd mae eich byd yn syrthio’n ddarnau … Rydych chi wedi rhedeg mas o laeth …
Felly pam wnaethoch chi redeg mas o laeth?
Efallai eich bod wedi anghofio ei roi ar eich rhestr siopa? Efallai eich bod yn methu â’i fforddio a bod angen i chi sylweddoli mai mynd i’r banc bwyd yw’r unig ffordd i oroesi? Rydych yn pwyso a mesur, ac yn penderfynu nad ydi banc bwyd yn chi, rhywsut. ‘Dwi’n iawn, gallaf i wneud heb laeth. Buan iawn y dof i arfer â choffi du. Bydd popeth yn iawn.’
Y bore wedyn rydych yn llusgo lawr staer ar ôl noson anesmwyth, yn llawn gofid a phryder. Dydych chi ddim yn ei weld yn dod, mae’n cripian i mewn i’ch pen fel mwydyn ac yn tyrchu’n ddyfnach ac yn ddyfnach. ‘Mae’n iawn,’ rydych chi’n dweud wrthych chi’ch hunan, ‘mae heddiw’n ddiwrnod newydd’. Rydych chi’n agor y cwpwrdd i wneud brecwast, ond dydi grawnfwyd ddim yn blasu’n wych heb laeth.
A dyna fe, y pwynt lle mae eich bywyd yn troelli mas o reolaeth. Dyna’r gwir, mae’r cyfan yn mynd i lawr rhiw am eich bod wedi rhedeg mas o laeth! Mae’r meddyliau negyddol yn gweiddi arnoch chi, mae’r euogrwydd yn eich bwyta’n fyw, a’r nosweithiau digwsg yn dechrau go iawn.
Mae’n anodd parhau i fod yn llawn cymhelliant a chithau’n teimlo fod y byd yn dadfeilio o’ch cwmpas. Rydych yn cael eich taro’n ôl yn barhaus, ac mae’n mynd yn fwy anodd wynebu pob dydd. Efallai nad yw eraill wedi rhedeg mas o laeth, efallai eu bod wedi gorfod ffarwelio ag aelod o’r teulu neu â ffrind, efallai fod rhai yn cael y cyfnod clo yn anodd, neu efallai eu bod wastad wedi brwydro yn erbyn materion iechyd meddwl.
Mae cymaint o resymau pam mae pobl yn cael trafferth gyda’u llesiant eu hunain. Efallai na wnewch chi byth ddatrys y cyfan yn llwyr, ond gallai dysgu sut i ymdopi ag ef leddfu’r pwysau.
Mae’n bryd mynd mas yna i gael llaeth
Creu rhwydwaith gymorth
Mae llawer o bobl yn meddwl bod yn rhaid iddyn nhw oddef yr adegau anodd ar eu pen eu hunain, wedi’r cyfan, pam fyddech chi moyn gosod eich gofidiau ar rywun arall?
Mae llawer o bobl yn anfodlon i rannu eu cywilydd a’r embaras rhag ofn i bobl ei ddefnyddio fel cyfle i farnu, ac wrth i COVID ei gwneud hi’n anodd i ryngweithio, daw hi’n norm i wneud esgusodion ac i beidio estyn mas.
Ar ôl estyn mas at Jackie, rydw i nawr ‘yn y lŵp’. Mae’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am gyfleoedd gwaith ac mae hi hyd yn oed wedi cynnig cefnogaeth gyda chyfweliadau. Rydw i’n ymroi i’r cyrsiau, a nawr gyda mwy o gymwysterau mae byw drwy COVID yn brofiad llawer hapusach. Mae gen i bwrpas unwaith eto.
Cefais fy enwebu ar gyfer tenant yr wythnos a chefais gyfle i ysgrifennu’r blog yma. Es i mas yna, cael y llaeth, a nawr mae’r coffi yn blasu’n llawer gwell!
Os ydych chi angen mwy o gefnogaeth yn ystod y dyddiau anodd yma, plîs peidiwch â bod ofn estyn mas. Mae Newydd yn cynnig llawer o gynlluniau er mwyn cefnogi tenantiaid, nid yn unig yn ystod COVID, ond ar unrhyw adeg.
Isod mae rhestr o gysylltiadau defnyddiol. Gofynnwch, os gwelwch yn dda, os ydych chi angen help.
- I gael cyngor ariannol gan Newydd, cliciwch yma
- Am gyngor ariannol sy’n gysylltiedig â'r cynnydd mewn costau byw, mae gan Newydd arweiniad defnyddiol yma
- Os na allwch chi ffeindio’r hyn rydych chi’n edrych amdano, e-bostiwch nhw ar financial.inclusion@newydd.co.uk neu CommunityRegeneration@newydd.co.uk
Mae nifer o sefydliadau eraill sy’n cynnig help a chymorth yn ystod yr amser anodd hwn. Gobeithio y byddwch chi’n gweld y rhestr ddilynol yn ddefnyddiol.
- Banciau bwyd – yn rhoi gwybodaeth am y banciau bwyd sydd agosaf atoch chi.
- Os ydych wedi cael profedigaeth ac yn ei gweld hi’n anodd dod i delerau â hynny, cysylltwch â Cefnogaeth profedigaeth neu ffoniwch nhw ar 08006349494
- Mae gan GIC hefyd gyngor ar linell gymorth profedigaeth sy’n cael ei rhedeg drwy sefydliad o’r enw Sudden. Cysylltwch â nhw ar 08002600400.
- Mae GIC hefyd yn darparu rhestr o elusennau iechyd meddwl sy’n cynnig cefnogaeth, er enghraifft Alcoholics Anonymous a Cymorth i Ddioddefwyr i enwi dim ond dwy o’r nifer elusennau amhrisiadwy a restrir. Ewch i www.nhs.uk am eu rhestr a-y gyflawn.
Isod mae llun o Lianne a'i chi Poppy.