Posted 03.11.2020

Dau breswylydd lleol yn sicrhau cyflogaeth lawn amser diolch i ddatblygiad tai

Mewn partneriaeth gyda Chanolfan Byd Gwaith Llandrindod, cynigiodd J.G. Hale Construction ddau leoliad gwaith wyth wythnos, ac mae’r ddau gyfranogwr yn awr wedi mynd ymlaen i gael swyddi llawn amser ar safle datblygiad Cymdeithas Tai Newydd ar Ffordd Ithon.

Dywedodd Debbie Owens, yr hyfforddwraig gwaith Canolfan Byd Gwaith oedd yn gyfrifol am gysylltu hawlwyr gyda’r lleoliad, “Mae’r lleoliad gwaith wedi bod o fudd mawr i’n cyfranogwyr gan ei fod wedi’u helpu i wneud y penderfyniad mai dyma’r rôl a’r diwydiant iddyn nhw, ac mai dyma lle maen nhw’n eu gweld eu hunain yn y dyfodol. Mae hyn hefyd wedi sicrhau ein bod ni’n lleihau’r bylchau ar eu CVs ac mae hyn yn dangos eu bod yn rhagweithiol hyd yn oed pan ddaeth eu swydd fwyaf diweddar i ben. Mae hefyd wedi galluogi’n cyfranogwyr i amlygu sgiliau na fyddent o bosib wedi medru arddangos ar ffurflenni cais neu CVs fel arall.”

Dywedodd Shannon Maidment, Cydgysylltydd Adfywio Cymunedol yn Newydd, “Rydym yn falch iawn o gynnig cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i bobl leol drwy ein cytundebau a gweithio mewn partneriaeth. Mae hi’n bwysig ein bod ni’n cefnogi ein cymunedau presennol a newydd.”

Dywedodd Sean, un o’r cyfranogwyr, “Dwi wedi rhyfeddu pa mor gyflym wnaeth fy lleoliad gwaith droi i mewn i swydd lawn amser; mae e wedi fy helpu i fagu hyder.”

Mae’r bartneriaeth yn parhau i ddarparu sgiliau a phrofiad hanfodol, gyda’r criw nesaf o gleientiaid Canolfan Byd Gwaith Llandrindod yn dechrau ar y safle gyda J.G. Hale Construction yn y misoedd nesaf.

Dywedodd Andrew Collins, Rheolwr Cytundebau yn J.G. Hale Construction, “Mae darparu cyfleoedd hyfforddi a thrwy hynny rhoi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt yn rhywbeth mae J.G. Hale Construction yn rhoi gwerth mawr arno. Mae’n gyfle perffaith i roi profiad i’r genhedlaeth nesaf, gobeithio, o weithwyr adeiladu o safon. Rydym yn barod wedi troi’r cyfleoedd hyfforddi hyn i mewn i nifer o swyddi llawn amser ac rydym am barhau gyda hynny, yn ogystal â’n partneriaethau arbennig gyda Newydd a’r Ganolfan Byd Gwaith - boed i’r ddau barhau’n hir.”

Dechreuodd y gwaith ar ddatblygiad £8.3 miliwn Ffordd Ithon ym mis Tachwedd 2019 wedi i’r prosiect dderbyn caniatâd cynllunio ym mis Mawrth o’r un flwyddyn. Comisiynodd Newydd J.G. Hale Construction i adeiladu cymysgedd o dai dwy a thair ystafell wely, byngalos, a fflatiau un ystafell wely i’w rhentu, yn ogystal ag eiddo i’w prynu drwy gynllun Llywodraeth Cymru Rhentu i Brynu: Cymru.

Llun: O’r chwith i’r dde, Andrew Claridge o J.G. Hale Construction; Sean, un o gyfranogwyr y cynllun; a Shannon Maidment o Gymdeithas Tai Newydd.

Newyddion diweddaraf