Trosglwyddo’r cyfnod cyntaf o gartrefi fforddiadwy a thai ‘Rhentu i Brynu’ mewn datblygiad yn Llandrindod
Mae Newydd yn falch iawn o fod wedi dechrau’r cyfnod trosglwyddo cyntaf o gartrefi fforddiadwy newydd sbon yn Ffordd Ithon, Llandrindod.
Bydd y datblygiad hwn, y cyntaf o’i fath i Newydd, yn darparu dros 55 o gartrefi ar gyfer cymunedau lleol, gyda 17 o eiddo yn cael eu cynnig fel cartrefi ‘Rhentu i Brynu’.
Gall y rhaglen Rhentu i Brynu helpu prynwyr am y tro cyntaf brynu cartref os nad oes ganddynt ddigon o arian ar gyfer blaendal morgais.
I ddathlu’r cyfnod trosglwyddo cyntaf, cyflwynodd y Cynghorydd Jake Berriman lyfrau stori i’w cynnwys ym mhob pecyn gosod, wedi’i ariannu gan fenter buddion cymunedol Newydd.
Cynhyrchwyd y llyfrau stori yn dilyn llwyddiant y gystadleuaeth stori fer i oedolion a phlant yn eu harddegau lleol, a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2020. Cefnogwyd y gystadleuaeth gan Newydd a Hale Construction, a ddarparodd y gwobrau.
Dywedodd y Cynghorydd Berriman, sy’n chwarae rhan actif yn y gymuned leol, “Mae hi wedi bod yn wych gweld yr holl straeon hyn, wedi eu hysgrifennu gan egin awduron o’r ardal leol, yn cael eu cyhoeddi fel llyfr. Drwy roi’r llyfrau stori hyn yn anrheg i’r tenantiaid newydd yn Ithon Road, rydym yn cefnogi talent leol ac yn annog pobl yn ein cymuned i ddarllen.”
“Diolch i Newydd am ariannu’r fenter bwysig hon,” dywedodd y Cynghorydd Berriman.
Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Newydd, “Roeddwn i wrth fy modd bod Newydd yn medru cefnogi’r prosiect lleol hwn ac mae wedi rhoi cyfle i ni ymdrwytho’n hunain yn y gymuned mewn cyfnod pan rydym yn datblygu eiddo fforddiadwy yn y dref.”
“Mae’n wych bod wedi cyrraedd y cyfnod trosglwyddo cyntaf a gweld pobl yn setlo i mewn i’w cartrefi newydd. Mae’r tai yn edrych yn ffantastig, ac rydym yn falch iawn o’r datblygiad hwn. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r Cynghorydd Berriman a Chyngor Sir Powys er mwyn parhau i chwarae ein rhan yn y gymuned,” dywedodd Jason.