Trydydd cyfnod datblygiad tai yn Llandrindod yn dechrau
Mae Cymdeithas Tai Newydd wedi dechrau’r trydydd cyfnod yn natblygiad tai yn Llandrindod a fydd yn cynnig 79 o gartrefi newydd i bobl leol.
Bydd y datblygiad £18.6 miliwn - a adeiledir mewn partneriaeth rhwng Newydd a Chyngor Sir Powys ac a ariennir yn rhannol drwy Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru - yn cynnig cymysgedd o fflatiau 1 ystafell wely, byngalos 2 ystafell wely a thai 2, 3 a 4 ystafell wely am rent fforddiadwy. Mae’r cartrefi hyn yn ychwanegol i’r 55 o gartrefi ar Ffordd Ithon a gwblhawyd gan Newydd yn 2021.
Derbyniwyd caniatâd cynllunio ym mis Hydref y flwyddyn ddiwethaf, a bydd y tai ffrâm bren newydd, a adeiledir gan y contractwr J.G. Hale Construction Ltd, yn cael eu gosod â phympiau gwres ffynhonnell aer a hefyd yn cynnwys paneli solar ffotofoltäig, gan helpu i ostwng ôl troed carbon a biliau ynni.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach, “Rydw i wrth fy modd gweld Newydd yn dechrau’r trydydd cyfnod o’r datblygiad tai yma yn Llandrindod a fydd yn gweld mwy o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu ar gyfer pobl leol.
“Un o flaenoriaethau’r cyngor yw mynd i’r afael â’r argyfwng tai yn y sir a dim ond drwy adeiladu tai fforddiadwy o safon uchel sydd hefyd yn effeithiol o ran ynni y gellir cyflawni hynny. Drwy weithio gyda’n partneriaid yn y sector tai cymdeithasol, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i adeiladu mwy o dai cymdeithasol sy’n cwrdd ag anghenion trigolion ein sir.”
Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Newydd, “Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu mwy o gartrefi fforddiadwy ar gyfer pobl leol yn Llandrindod, wedi cwblhau 55 o gartrefi yn barod nôl yn 2021. Bydd y cynllun gwych hwn nid yn unig yn cyfrannu tuag at gwrdd â’n targedau sero-net, ond hefyd yn darparu cartrefi diogel, cynnes a fforddiadwy i drigolion lleol. Rydym yn edrych ymlaen at weld y cartrefi gorffenedig yn 2025, ond yn y cyfamser hoffwn ddiolch i’n holl bartneriaid sydd wedi gweithio mor galed i’n cael ni i’r fan yma.”
Dywedodd Andrew Collins, Rheolwr Cytundebau gyda J.G. Hale Construction, “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio eto gyda Newydd ar gam nesaf y datblygiad hwn. Rydym yn llwyr gefnogi eu hamcanion effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd. Mae J.G. Hale Construction a’n chwaer-gwmni Seven Oaks Modular yn cael eu cydnabod am ein hymrwymiad i gynllunio arloesol ac ecogyfeillgar, deunyddiau o ansawdd uchel, ac arferion adeiladu cynaliadwy. Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddefnyddio isgontractwyr a chyflenwyr lleol ar bob prosiect rydym yn gweithio arno.”
Mae aelodau eraill y tîm cynllunio sy’n gweithio ar y prosiect tai newydd hwn yn cynnwys RPA Group, Smart Associates, Asbri Planning, Chamberlain Moss King, Indigo Safety Management a Fiona Cloke Associates.