Tenantiaid yn symud i mewn i gartrefi arobryn Goodsheds
Un mis ar hugain yn unig ar ôl derbyn caniatâd cynllunio gan Gyngor Bro Morgannwg, mae tenantiaid Cymdeithas Tai Newydd yn symud i mewn i Junction House ar Hood Road yn y Barri.
Yn ddiweddar, dathlodd y 24 o fflatiau rhent cymdeithasol a’r 18 o fflatiau rhent y farchnad, sef fflatiau un a dwy ystafell wely a adeiladwyd gan Jehu Group ac sy’n rhan o brosiect adfywio Goodsheds, lwyddiant dwbl yng Ngwobrau Ystadau Cymru 2020, ac ennill gwobr gyffredinol ‘enillydd yr enillwyr’.
Mae’r prosiect adfywio trefol hwn sydd â thai yn ganolbwynt iddo, yn cynnig lle perffaith i breswylwyr fyw a gweithio neu roi cynnig ar fenter newydd, a hynny drwy ddilyn egwyddorion byw, gweithio a chwarae.
Wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â DS Properties (Goodsheds) Ltd a Chyngor Bro Morgannwg, mae’r datblygiad yn un o dri chynllun gan Newydd sydd wedi derbyn cyllid Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, “Mae’r cartrefi arloesol hyn yn Junction House yn enghraifft wych o sut y gall adfywio sydd â thai yn ganolbwynt iddo ddarparu cartrefi cynaliadwy a fforddiadwy o ansawdd uchel er budd pobl a chymunedau lleol. Mae pandemig y coronafeirws wedi tynnu sylw yn fwy nag erioed o’r blaen at bwysigrwydd cael cartrefi diogel a fforddiadwy mewn mannau lle mae pobl yn dyheu am weithio a byw. Mae’r cartrefi newydd hyn ar hen safle Goodsheds yn ymgorfforiad o hynny.”
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Adfywio, “Mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch o fod wedi cefnogi’r defnydd cymysg cyffrous hwn gan Goodsheds drwy’r Rhaglen Benthyciadau Adfywio a Buddsoddi wedi’i Thargedu. Ochr yn ochr ag ailddefnyddio hen adeilad diwydiannol hanesyddol pwysig, mae’r cynllun wedi darparu tai rhent cymdeithasol y mae mawr eu hangen yn ogystal â llety rhent preifat, ac mae wedi parhau gwaith y Cyngor o adfywio Glannau’r Barri a chreu’r Ardal Arloesi fel man lle gall pobl fyw, gweithio a chwarae mewn ffordd gynaliadwy.
“Mae angen dybryd am dai fforddiadwy ychwanegol, yn enwedig yn y Barri. Mae’n braf felly gweld safle yn y Barri yn cael ei adfywio a hefyd yn darparu 24 o gartrefi rhent cymdeithasol mawr eu hangen i bobl oedd gynt naill ai’n ddigartref neu’n byw mewn llety nad oedd yn diwallu eu hanghenion.
Dywedodd Simon Baston o DS Properties (Goodsheds) Ltd, “Mae manylebau Newydd a’u parodrwydd i integreiddio eu cynllun i’n prosiect, sy’n un o’r rhai cyntaf yn y DU, wedi creu argraff arbennig arnom. Rydym yn gobeithio y bydd ein partneriaeth yn creu llawer o gyfleoedd gwaith a rhagolygon busnes i drigolion lleol oherwydd ei natur arloesol a’i fod yn cael ei arwain gan y gymuned.”
Mae’r cynlluniau eraill sydd gan Newydd ac sydd wedi derbyn cyllid Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru, hefyd ym Mro Morgannwg, yn cynnwys byngalo ym mhentref Dyffryn sydd wedi’i addasu’n gadarnhaol o ran ynni gyda dylunio carbon isel a thechnoleg ynni adnewyddadwy. Mae’r cynllun arall yn Llanganna, ac mae’n cynnig canolfan fusnes wledig ac unedau preswyl gan ddefnyddio dull Beattie Passiv.