Llwyddiant i Newydd yng Ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru
Cafodd Cymdeithas Tai Newydd ddiwrnod llwyddiannus yn seremoni gwobrau arfer da TPAS Cymru ym mis Rhagfyr, gan ennill dwy wobr a dod yn ail mewn un arall.
Nid oedd hi’n bosib cynnal y seremoni wobrwyo flynyddol wyneb yn wyneb eleni oherwydd y pandemig COVID-19. Fodd bynnag, dangosodd seremoni ar-lein ar 15 Rhagfyr 2021 yr effaith werthfawr y gall cydweithio rhwng tenantiaid a landlordiaid ei gael, yn enwedig yn ystod cyfnod anodd fel hwn.
Enillodd Newydd y wobr ‘Gwneud i Gyfranogiad Tenantiaid Weithio Ar-lein’ am ein cynnig ‘Ymarfer i Wneud Cynnydd’, oedd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau cyfranogi ar-lein fel cynadleddau Facebook, sesiynau Straight Talking gyda Grŵp Craffu Tenantiaid Newydd i godi ymwybyddiaeth o faterion pwysig, a boreau coffi Zoom er mwyn gwella perthnasau. Cymeradwywyd Newydd hefyd am gynnig cefnogaeth ac offer digidol i denantiaid er mwyn sicrhau bod pawb yn medru cymryd rhan mewn gweithgareddau ar-lein.
Aeth y wobr ‘Tenant y Flwyddyn’ i Amanda Lawrence, un o denantiaid Newydd yn Y Barri. Mae Amanda yn unigolyn anhygoel o ymroddgar sy’n ei thaflu ei hun gyda brwdfrydedd at bob her, ac sy’n gweithio’n barhaus gyda Newydd i wneud gwahaniaeth positif er budd yr holl denantiaid.
Dywedodd Amanda Lawrence, “Roeddwn i wedi fy synnu ac yn llawn emosiwn pan enillais i’r wobr. Rwy’n ddiolchgar iawn fy mod i wedi cael y cyfle gan Newydd i gefnogi tenantiaid o bob angen, nawr ac yn y dyfodol.”
Aeth yr ail wobr yn y categori ‘Cynnwys Tenantiaid wrth Lunio Gwasanaethau’ i gynnig ‘Gweithio’n Annibynnol Gyda’n Gilydd’ Newydd. Mae tenantiaid yn chwarae rôl ganolog wrth lunio cyflawniadau Newydd ac maen nhw’n rhan hanfodol o ddatblygiad a darpariaeth gwasanaethau. Drwy weithio gyda thenantiaid i wella a gyrru ein gwasanaethau ymlaen, cryfhawyd cysylltiadau a datblygwyd syniadau arloesol.
Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Newydd, “Mae tenantiaid wrth wraidd popeth a wnawn ac mae gweithio gyda thenantiaid yn sicrhau bod ein gwasanaethau o’r safon orau posib. Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod beth rydym ni wedi medru ei gyflawni drwy ein gweithgareddau cyfranogiad tenantiaid a pha mor bwysig yw hi ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd er mwyn gwella’n barhaus."