Staff Newydd yn Cyfrannu £1000 i Fanciau Bwyd Lleol
Y mis hwn, derbyniodd Banc Bwyd y Fro a Banc Bwyd Pontypridd siec am £500 yr un o ein cronfa elusennol staff.
Agorodd Banc Bwyd y Fro ym Miss Medi 2011 gydag un ganolfan yn y Barri. Ers hynny maent wedi ehangu ar draws Bro Morgannwg gyda 6 canolfan bellach yn dosbarthu parseli bwyd bryd i’r gymuned. Fe wnaeth y banc bwyd fwydo 3,501 o bobl gyda bwyd brys yn 2019.
Dywedodd Becky Morgan, Rheolwr Banc Bwyd y Fro, “Mae Banc Bwyd y Fro yn brysurach nag erioed, mae angen cyllid arnom yn ogystal â bwyd i gario ‘mlaen rhedeg. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb yn Newydd am eu rhodd hael a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’n gwaith.”
Agorodd banc bwyd Pontypridd yn fuan ar ôl Banc Bwyd y Fro, yn 2012, a sefydlwyd a phrosiect gan Eglwys St Luke’s yn Rhydyfelin. Y flwyddyn ariannol hon hyd yn hyn, maent wedi helpu dros 2900 o bobl yn barod, nifer y dywedon nhw sy’n debygol o godi ar ôl y llifogydd diweddar yn yr ardal. Yn ystod yr wythnos pan ddigwyddodd y llifogydd, fe wnaethant ddosbarthu dros 2 dunnell o fwyd i’r rhai yr effeithiwyd arnynt. Mae dwy eglwys arall yn yr ardal hefyd yn ganolfannau dosbarthu bwyd yn ychwanegol i St Luke’s.
Dywedodd Amanda Hayden-Hall, Rheolwr Banc Bwyd Pontypridd, “Bydd yr arian a roddodd Newydd yn mynd tuag at helpu i fwydo’r gymuned. Rydym wedi bwydo 644 o blant ond rydym yn ymwybodol fod dros 2500 o blant yn wardiau tref Pontypridd mewn tlodi bwyd ac rydym yn edrych ar ffyrdd i geisio cael gwared ar y stigma sydd ynghlwm â banciau bwydi geisio helpu’r teuluoedd hyn.
Fel pob banc, mae pobl yn gwneud adneuon, ac rydym yn annog pobl i wybod fod pethau anodd yn digwydd mewn bywyd weithiau, ac maent angen iddynt dynnu rhywbeth allan o’r banc.”
Wedi’u sefydlu gan eglwysi lleol, mae’r banciau bwyd yn gweithio gyda’i gilydd tuag at atal newyn yn eu hardal leol. Maent yn dibynnu ar wirfoddolwyr sy’n cynnig eu hamser i helpu didoli a storio’r bwyd ac maent yn dibynnu ar roddion bwyd ac arian gan unigolion, eglwysi, ysgolion a sefydliadau eraill.
Bob dydd, mae pobl yn y DU yn mynd heb fwyd, gydag 1 o bob 5 o boblogaeth y DU yn byw o dan y llinell dlodi. Mae banciau bwyd yn ceisio mynd i’r afael a hyn trwy ddarparu bwyd brys maethlon i’r rhai mewn angen. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Trussell, rhwydwaith y Banc Bwyd yn 2004 ac erbyn hyn mae ganddyn nhw 400 o fanciau bwyd ledled y DU. Rhwng 2018 a 2019 yn unig fe wnaethant ddarparu 1,583,668 o becynnau bwyd tri diwrnod i drigolion mewn angen yn y DU ac aeth 577,628 o’r rhain i blant. Mae bocs syml o fwyd yn gwneud gwahaniaeth mawr a dyna pam roedd staff Newydd eisiau helpu.
Dywedodd Paul Roberts, Prif Weithredwr Newydd, “Roedd staff eisiau rhoi i’r banc bwyd yn dilyn eu hymgyrch ym mis Rhagfyr i gefnogi pobl mewn tlodi bwyd. Rwy’n ofnadwy o falch fod yr arian yma wedi mynd i’r Banciau Bwyd lleol, elusennau teilwng yr ydym yn gweithio ochr yn ochr gyda, gan gefnogi pobl a allai fod yn mynd trwy gyfnod anodd y neu fywydau.”
Fydd gan Newydd focs casglu bwyd yn y swyddfa trwy’r flwyddyn er mwyn i staff allu cyfrannu bwyd ar gyfer banciau bwyd lleol.