Landlord cymdeithasol yn cyflawni nod cydraddoldeb cenedlaethol
Mae Newydd wedi llwyddo i gyflawni nod cydraddoldeb ac amrywiaeth mawreddog a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer landlordiaid cymdeithasol.
Mae Gwobr QED, a ddatblygwyd gan yr elusen Tai Pawb yn darparu fframwaith gynhwysfawr ar gyfer gwella effaith cydraddoldeb ac amrywiaeth sefydliad. Wedi’i dyfarnu gan banel annibynnol, mae’r wobr yn ystyried meysydd strategol fel llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant yn ogystal â darparu gwasanaethau sy’n wynebu cwsmeriaid, gan gynnwys mynediad a chynnwys tenantiaid.
Bu staff ac aelodau Bwrdd o bob rhan o’r sefydliad, yn ogystal â thenantiaid, contractwyr a sefydliadau partner yn cymryd rhan yn y broses achredu 12 mis a oedd yn cynnwys arolygon staff, ymgysylltu â thenantiaid, ymweliadau safle, adolygiad o bolisïau a gweithdrefnau a chynhyrchu cynllun gweithredu. Mae’r wobr yn cynnwys archwiliad blynyddol dros dair blynedd lle bydd Tai Pawb yn monitro cynnydd ar gynllun gweithredu Newydd ac yn cynnig neu’n cyfeirio at gymorth i gwrdd â heriau.
Mae Newydd yn ymuno â Chartrefi Melin, Cartrefi Cymoedd Merthyr, Tai Cymunedol Cynon Taf, Cymdeithas Tai Merthyr Tudful a Cadwyn fel chweched landlord cymdeithasol i dderbyn y wobr yng Nghymru.
Wrth sôn am y llwyddiant, dywedodd Prif Weithredwr Newydd, Jason Wroe, “Roeddem wrth ein bodd pan glywsom ein bod wedi ennill y wobr hon. Dechreuon ni’r daith QED yn union fel y dechreuodd y cyfyngiadau symud yn 2020, ond symudodd Tai Pawb a’n staff y broses ar-lein yn ddidrafferth iawn.
“Mae ein staff wedi gweithio’n hynod o galed, y tu hwnt i’w rolau o ddydd i ddydd i sicrhau ein bod yn sefydlu ethos y nod ansawdd hwn ledled y sefydliad. Roedd angen i ni wneud mwy na ’thicio blwch’ wrth ystyried cydraddoldeb, roedd yn rhaid iddo fod yn rhan annatod o bopeth a wnaethom.
“Roeddem yn meddwl efallai ein bod wedi gwella ar ein cyflawniadau eleni, ond mae ennill y wobr hon yn ganlyniad gwych ac mae’n adlewyrchu pa mor bell rydym ni wedi dod ers dechrau’r broses.
“Nid yw ein gwaith yn dod i ben yma fodd bynnag, byddwn yn parhau i weithio gyda Tai Pawb i wella effaith ein sefydliad.”
Ychwanegodd Alicja Zalesinska, Prif Weithredwr Tai Pawb, “Rydym wrth ein bodd i weld cymdeithas tai arall yng Nghymru yn derbyn gwobr QED. Mae Newydd yn haeddu llongyfarchiadau mawr – o’r staff hyd at y rheolwyr ac aelodau’r Bwrdd – am ddangos ymrwymiad clir i wella a dangos tystiolaeth o feddwl arloesol drwy gydol y broses adolygu.
Ychwanegodd Ceri Meloy, Pennaeth Busnes Tai Pawb, “Roedd adborth penodol gan ein panel dyfarnu annibynnol yn cydnabod agwedd gadarnhaol yn arbennig at gyd-gynhyrchu a’r dycnwch y mae Newydd wedi ymgymryd â QED, yn enwedig o ystyried yr heriau ychwanegol a achosir gan y pandemig Covid-19.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Newydd wrth i’r sefydliad barhau i wreiddio ac arddel gwerthoedd a buddion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wna.”