Her Ailgylchu Rhyd
Yn ddiweddar, cafodd trigolion Rhydfelen gyfle i ddysgu sut y mae modd iddyn nhw ailgylchu'n well, manteisio ar y gwasanaethau y mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn eu cynnig a rhoi eu barn ar sut i wella'r gwasanaeth.
Fis Medi 2018, derbyniodd y Pwyllgor Craffu – Cynnal Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant gyflwyniad gan Garfan Gofal y Strydoedd y Cyngor, a oedd yn tynnu sylw at bryderon mewn perthynas ag ailgylchu a thipio sbwriel mewn nifer o ardaloedd ledled y Fwrdeistref Sirol.
O ganlyniad i hynny, cytunodd Pwyllgor Craffu'r Cyngor a'r Gwasanaeth Gofal y Strydoedd i roi cynllun ar waith er mwyn ffurfio partneriaeth unigryw â Chymdeithas Tai Newydd i fynd i'r afael â phroblemau yn ardal Rhydfelen.
Yn ddiweddar, daeth y bartneriaeth at ei gilydd i gynnal achlysur undydd ar nifer o strydoedd yn Rhydfelen. Cafodd y rhain eu nodi yn y cyflwyniad fel ardaloedd sydd ag arferion gwael o ran ailgylchu, nifer fawr o fagiau du, gwastraff sydd wedi'i lygru a sbwriel sy'n cael ei dipio yn y strydoedd cefn.
Roedd y prif broblemau’n ymwneud â mannau casglu gwastraff cymunedol, yn ogystal â sicrhau bod y cyfleusterau ailgylchu'n cael eu defnyddio'n effeithiol.
Meddai Steve Bradwick, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu – Cynnal Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant: "Mae ailgylchu yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor ac mae hi'n bwysig bod pob ardal yn y Fwrdeistref Sirol yn cydweithio ac yn cymryd rhan. Y gobaith yw y bydd modd i ni helpu i wneud gwahaniaeth drwy waith y pwyllgor yma.
"Mae adroddiadau cynnar yn awgrymu bod y cyfraddau ailgylchu eisoes wedi gwella yn ardal Rhydfelen, ac fe hoffwn i ddiolch i'r carfanau a thrigolion Rhydfelen am eu croeso cynnes ac am gymryd rhan yn y fenter hon ar y cyd."
Meddai Oonagh Lyons, Arweinydd Carfan gyda Tai Newydd: "Rydyn ni'n falch o weithio gyda'r Cyngor a'r gymuned leol i roi'r fenter yma ar waith.
"Rydyn ni'n gwario mwy a mwy o arian ar gael gwared ar sbwriel pan fydd pobl yn peidio â gwneud hynny mewn modd priodol yn y lle cyntaf. Yn ei dro, bydd hyn yn arwain at gostau uwch i'n tenantiaid. Byddai'n well gweld yr arian yma'n cael ei wario yn y gymuned leol yn hytrach nag ar glirio sbwriel."
Teaming up with @RCTCouncil for #RhydRecycleRescue this morning. Gofyn i’r gymuned am atebion i’r trafferthion ailgylchu yn Rhydyfelin. pic.twitter.com/SPun9FiYrV
— Newydd Housing (@NewyddHousing) July 3, 2019
Yn rhan o ymgyrch 'Her Ailgylchu Rhyd', bu aelodau o'r Pwyllgor Craffu, swyddogion Gofal y Strydoedd a swyddogion o Gymdeithas Tai Newydd yn sgwrsio â thrigolion ac yn casglu eu barn drwy arolwg ar-lein. Bwriad hyn oedd gweld sut y gallai'r Cyngor a Chymdeithas Tai Newydd eu helpu i ailgylchu'n well. Mae mwy na 140 o drigolion wedi ymateb i'r arolwg a chaiff eu safbwyntiau eu cynnwys mewn adroddiad a gaiff ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu er mwyn helpu i lywio a gwella arferion ailgylchu yn Rhydfelen. Yn ogystal â hynny, y gobaith yw cyflwyno'r prosiect i rannau eraill o'r Fwrdeistref Sirol os yw e'n llwyddiannus.
Roedd yr achlysur 'Her Ailgylchu Rhyd' hefyd yn ceisio annog trigolion ifainc Rhydfelen i gymryd rhan mewn cystadleuaeth lliwio arwyddion amgylcheddol. Bydd yr arwyddion gorau yn cael eu rhoi ar byst lampau yn yr ardal, a chafodd yr enillwyr docynnau i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty yn wobr.
I gael rhagor o wybodaeth am Bwyllgorau Craffu'r Cyngor, ewch i: www.rctcbc.gov.uk/craffu neu i gael gwybodaeth am ailgylchu ewch i: www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.