Posted 04.03.2020

Beth ddywedodd Llywodraeth Cymru amdanom ni?

Rheoleiddir cymdeithasau tai yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, sy’n cyhoeddi dyfarniad rheoleiddio blynyddol. Mae’r dyfarniad hwn yn datgan a oes unrhyw bryderon ynglŷn â’r ffordd y cawn ein rhedeg neu’r ffordd yr ydym yn perfformio, ac a oes angen iddyn nhw ymyrryd er mwyn datrys unrhyw broblemau.

Derbyniom ein Dyfarniad Rheoleiddio diweddaraf ar 4 Mawrth 2020 ac rydym yn falch i fedru cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi ein graddio yn Safonol am Reoleiddio a Gwasanaethau, ac yn Safonol am Hyfywedd Ariannol. Dyma’r radd uchaf posib, ac mae’n golygu nad oes unrhyw feysydd pwysig o bryder ac y bydd ein hymgysylltiad rheoleiddiol yn parhau’n ddi-newid.

Mae ein Bwrdd yn cytuno ar Ddatganiad Rheoleiddio i alluogi Llywodraeth Cymru i gynnal ei asesiad blynyddol. Mae’r datganiad hwn yn amlinellu i ba raddau yr ydym yn medru darparu tystiolaeth ein bod ni yn cydymffurfio gyda’r Safonau Perfformiad a restrir yn y Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Mae ein Datganiad Cydymffurfedd ar gael ar ein gwefan.

Mae’r Dyfarniad Rheoleiddio ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ac ar ein gwefan ni yma. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r Dyfarniad Rheoleiddio neu sut y cynhaliwyd yr adolygiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Newyddion diweddaraf