Lleihau’r gagendor digidol ar gyfer tenantiaid
Scott Tandy a Conor Chip o’n Tîm Cynhwysiant Digidol sy’n esbonio sut mae gweithio gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a’r National Databank wedi helpu i leihau’r rhwystr mwyaf i gynhwysiant digidol.
Yn yr oes ddigidol hon, mae llythrennedd digidol a mynediad i’r rhyngrwyd wedi dod yn hanfodol ym mhob agwedd o fywyd, gan gynnwys addysg, cyflogaeth a gofal iechyd. Fodd bynnag, mae llawer o denantiaid tai cymdeithasol yn wynebu rhwystrau rhag cael mynediad i gefnogaeth ac addysg ddigidol. Yma yn Newydd rydym wedi gweithio gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a’r National Databank er mwyn darparu mynediad at ddeunyddiau a chymorth digidol ar gyfer ein tenantiaid.
Mae’r ‘Strategaeth Ddigidol i Gymru’ a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021 yn dangos pwysigrwydd cael safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol ar gyfer Cymru. Mae’r safon yn esbonio pa ddyfeisiau, cyflymder band eang, data symudol a sgiliau digidol sylfaenol sydd eu hangen er mwyn i unigolion fod wedi’u cynnwys yn ddigidol mewn Cymru fodern. Mae’r pandemig COVID-19 wedi dangos pwysigrwydd cynhwysiant digidol, gyda 30% o denantiaid tai cymdeithasol yn dal i brofi ‘tlodi data’.
Diolch i gefnogaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd a’r National Databank, a weithredir gan y Good Things Foundation, rydym wedi medru darparu cyfrifiaduron a mynediad sefydlog i’r rhyngrwyd am ddim i’n tenantiaid. Mae’r prosiect wedi caniatáu tenantiaid i chwilio am swyddi, ymweld â phlatfformau addysgiadol a defnyddio gwasanaethau iechyd ar ddyfeisiau addas. Mae hyn wedi gwella eu llythrennedd digidol ac wedi agor drysau i gyfleoedd newydd.
Drwy weithio gyda’n gilydd rydym wedi medru derbyn 14 cerdyn SIM o’r National Databank bob mis. Mae hyn yn rhoi’r hyblygrwydd i ni i nodi tenantiaid sydd angen ein help. Gan weithio gyda’n Tîm Cynhwysiant Ariannol a’n Hadran Tai, rydym wedi rhannu’r cardiau SIM yma ar gyfer ffonau symudol a llwybryddion Wi-Fi symudol gyda’n tenantiaid sydd mewn angen. Mae’r ffordd yma o fynd ati wedi helpu ystod eang o denantiaid, gan gynnwys pobl 55 oed a throsodd sy’n cymryd rhan mewn hyfforddiant cyflogadwyaeth, rhieni sengl yn eu hugeiniau cynnar sy’n astudio wrth fagu plant, a thenantiaid sydd wedi dod yn ddigartref yn ddiweddar ac sydd nawr angen cefnogaeth ariannol.
Yn ogystal â rhannu cardiau SIM, rydym hefyd wedi dechrau prosiect ‘Cyfrifiaduron rhoddedig’ er mwyn helpu ein tenantiaid. Eleni, fe wnaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd rodd hael o 25 o gyfrifiaduron a monitrau, ac rydym wedi’u hailbwrpasu a’u rhoi i denantiaid nad sydd â dyfeisiau. Mae’r cyfrifiaduron hyn wedi bod yn hanfodol i nifer o denantiaid, gan helpu gydag addysg eu plant, caniatáu iddyn nhw chwilio am swydd, a’u cysylltu â gwasanaethau iechyd allweddol. Mae rhai tenantiaid hyd yn oed wedi defnyddio’r dyfeisiau i gymryd rhan mewn cyrsiau cyflogadwyaeth ac ennill cymwysterau.
Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol - gyda’r ystod eang o denantiaid sy’n cael budd o fentrau’r Good Thing Foundation a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd - yn dangos pwysigrwydd cynhwysiant digidol. Dylai pawb fedru cael mynediad at ddeunyddiau ac addysg ddigidol, er gwaethaf rhwystrau fel cost, addysg ac amser. Roedd hyn yn wir cyn y pandemig COVID-19, ac mae wedi dod yn gliriach fyth yn ystod ac wedi’r pandemig. Dylid cydnabod bod mynediad ac addysg ddigidol yn hawliau dynol sylfaenol, a bod darparu cyfleoedd o’r fath yn rhan o waith Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
Rydym wedi ymrwymo i gynnig deunyddiau a chefnogaeth ddigidol i denantiaid Newydd. Os hoffech chi fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar conor.chip@newydd.co.uk neu scott.tandy@newydd.co.uk. Gyda’n gilydd gallwn rymuso’n tenantiaid a sicrhau bod cynhwysiant digidol yn dod yn realiti i bawb.