Posted 05.08.2019

Cyhoeddi prisiau cartrefi yn y Bont-faen

Dymunwch chi brynu cartref ym Mhentref Clare Garden? Wedi ei nythu rhwng cefn gwlad gwyrddlas, tonnau oer Sianel Bryste, a phrysurdeb dinasoedd agos, mae gan Pentref Clare Garden amrywiaeth o gartrefi wedi'u cynllunio i gyd-fynd â'r dirwedd ac wedi'u gorffen â nodweddion unigryw, cyfoes. Darganfyddwch fwy am y safle yma.

Rydym yn falch iawn cael datgelu pris ein cartrefi yma.

Pris y farchnad ar gyfer y cartrefi yma yw £200,714. Ond gyda ein cynllun perchentyaeth cost isel, y pris y byddwch chi yn ei dalu yw llog ecwiti 70% o'r gwerth hwn, sef £140,500. Byddwn yn cadw budd ecwiti 30% yn yr eiddo. Mae mwy o wybodaeth am ecwiti a rennir ar gael yma.

Rydym yn disgwyl bydd dau cartref 2 ystafell wely wedi eu cwblhau ym mis Hydref eleni. Fedrwch nawr ymgeisio i'w prynu. Os oes diddordeb gyda chi, fydd rhaid i chi gofrestri gyda Aspire2Own nawr i fynegu diddordeb a sicrhau y cyfle gorau i ymgeisio.

Byddwch yn ymwybodol bod polisi gwerthu lleol wedi ei osod. Bydd pobl â chysylltiad i'r Bont-faen, Llanfleiddian, Aberthin, neu Phen-llin (megis gweithio yno, teulu yn byw yno, neu'n byw yno ar y funud) yn cael blaenoriaeth.

Am rhagor o wybodaeth, a chynlluniau o'r tai, lawrlwythwch manylion yma.

Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi, neu os oes angen cymroth ag unrhywbeth, ffoniwch 0303 040 1998, neu ebostiwch chris.yung@newydd.co.uk

Gofyn am ragor o wybodaeth

Newyddion diweddaraf