Newidiadau i lais ein tenantiaid
Yn ôl ym mis Chwefror eleni fe wnaethoch chi ddweud wrthym y byddech chi’n hoffi cymryd mwy o ran mewn pethau. Roeddech chi’n teimlo bod angen gwneud newidiadau i gyfranogiad tenantiaid.
Fe wnaethoch chi ddweud mai’r unig ffordd ymlaen oedd i ddychwelyd at y system o greu grwpiau ar sail pwnc, ac i roi’r gorau i’r dyddiau ‘In Focus’ oedd yn digwydd yn llai aml; byddai hynny’n well ffordd i chi allu dweud wrthym sut gallem ni wella ein gwasanaethau.
Roedd hi’n bwysig troi’n ôl at y system o gynnal cyfarfodydd rheolaidd i drafod gwasanaethau penodol er mwyn ailgynnau’r berthynas oedd gennych chi nid yn unig gyda staff Newydd ond hefyd gyda thenantiaid eraill. Roeddech chi am gael cysylltiad cryfach gyda Newydd unwaith eto.
Rydym erbyn hyn wedi gwneud y newidiadau hynny ac wedi adolygu ein Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid yn unol â’ch cais. Mae’r strategaeth hon, a gymeradwywyd gan Fwrdd Newydd ym mis Mai, yn awr yn cynnwys y grwpiau canlynol er mwyn eich galluogi i roi adborth manwl ar wasanaethau penodol:
- Grŵp Cefnogi Pawb wrth Edrych Ymlaen (SELF) sy’n canolbwyntio ar fyw’n annibynnol
- Grŵp Cynnal a Chadw/Asedau (MAG) sy’n edrych ar waith atgyweirio ymatebol a chynnal a chadw cynlluniedig
- Mae’r Grŵp Datblygu yn ystyried ein rhaglenni adeiladu o’r newydd, ac
- Mae’r Grŵp Tai yn edrych ar reoli ystadau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, ôl-ddyledion rhent a gosod tai
Hyd yma, mae 40 o denantiaid wedi cofrestru i gymryd rhan yn y grwpiau hyn ac mae cyfarfod cyntaf pob grŵp wedi cael ei gynnal. Bydd eich holl adborth yn awr yn cael ei drafod ymhellach gan Fwrdd Tenantiaid sydd newydd gael ei greu, a bydd yn gweithio gyda staff Newydd i wella gwasanaethau. Bydd aelodaeth y Bwrdd Tenantiaid yn cynnwys Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion pob grŵp, Grŵp Craffu Tenantiaid, ac aelodau Bwrdd Newydd; bydd y Bwrdd Tenantiaid yn cyfarfod am y tro cyntaf ar 7 Awst.
I gael gwybod beth mae ein tenantiaid yn ei ddweud wrthym a pha newidiadau rydym yn eu gwneud, cadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am ein negeseuon #YouSpokeWeListened.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu unrhyw rai o’r grwpiau, cysylltwch os gwelwch yn dda â Tracy James ar 02920 005477, 07899 665818 neu ebostiwch tracy.james@newydd.co.uk