Ein cynllun gweithredu er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol
Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ar sail hil yn flaenoriaeth uchel i ni yma yn Newydd. Yn 2020, fe wnaethom ymrwymo i gefnogi menter “Dweud Nid Gwneud” Tai Pawb, yr elusen cydraddoldeb ym maes tai. Fe wnaethom addo cymryd camau i leihau effeithiau Covid-19 ar aelodau staff a chymunedau Du, Asiaidd, ac ethnig leiafrifol. Mae ein nodau hefyd yn cynnwys cynyddu amrywiaeth ethnig ein Bwrdd a’n staff ar bob lefel, meithrin cyfathrebu ac ymgysylltu gwell, a hybu diwylliant cynhwysol.
Rydym wedi creu cynllun newydd sy’n cyfuno’r weledigaeth, pwrpas, gwerthoedd, a’r nodau a amlinellwyd yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ARWAP) Llywodraeth Cymru yn 2022.
Gweledigaeth: Mae’r cynllun yn gosod y nod o greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030.
Pwrpas: Gwneud effaith go iawn ar y cyd ar fywydau pobl Ddu, Asiaidd, ac ethnig leiafrifol.
Gwerthoedd: Bod yn agored a thryloyw, rhoi profiad bywyd pobl wrth galon ein gwaith, a mabwysiadu dull gweithredu ar sail hawliau.
Bydd ein cynllun gweithredu newydd hefyd yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio gyda’r safonau rheoleiddio diwygiedig ar gyfer cymdeithasau tai. Yn y pen draw, ein nod yw helpu i gael hyd i ddatrysiadau fydd yn rhoi terfyn ar wahaniaethu ac yn mynd i’r afael â’r heriau a wynebir gan grwpiau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Rydym eisiau i’n tenantiaid deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi a theimlo’u bod wedi’u cefnogi o fewn eu cymunedau. Rydym eisiau i’n staff, ymgeiswyr, a phartneriaid Du, Asiaidd, ac ethnig leiafrifol fod yn hyderus ein bod wedi ymrwymo i’w llesiant a’u ffyniant.
Mae ein cynllun gweithredu’n gosod nodau clir o dan 4 pennawd:
Cynrychiolaeth ac arweiniaeth
Ein nodau:
- Ein nod yw cynyddu’r nifer o unigolion ethnig leiafrifol mewn rolau arweiniol ac ar bob lefel, gan anelu at weithlu sy’n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
- Dangos ymrwymiad gweladwy i wrth-hiliaeth.
- Defnyddio a darparu gwasanaethau gwrth-hiliol.
- Ymwreiddio atebolrwydd yn ein diwylliant a mesur ein cynnydd.
Effaith:
- Mae gan ein cynlluniau darparu linellau amser a chamau gweithredu clir a chyraeddadwy.
- Normaleiddio meddwl ac arferion gwrth-hiliol.
- Meithrin diwylliant gweithle cynhwysol.
- Creu hunanymwybyddiaeth ymysg ein gweithlu ac annog dysgu am gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant.
- Cyflawni newid parhaol yn y diwylliant ac ymddygiad.
- Datblygu gweithlu mwy amrywiol.
Safonau, darpariaethau & gwasanaethau
Nod:
Sicrhau bod safonau, gwasanaethau, a darpariaethau tai yn hybu cydraddoldeb hiliol, yn ymgorffori gwrth-hiliaeth, cydraddoldeb, a hawliau dynol, ac yn diwallu anghenion amrywiol unigolion ethnig leiafrifol.
Effaith:
- Byddwn yn ymdrechu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o faterion ac rydym wedi cyflwyno mesurau lliniaru.
- Sicrhau bod ein sefydliad wedi ymrwymo i ymwreiddio gwrth-hiliaeth a chydraddoldeb ym mhob agwedd o’i waith.
- Rydym yn gweithio’n galed i gael gwared â rhwystrau ar gyfer unigolion ethnig leiafrifol ac eraill.
Rhent y farchnad
Nodau:
- Sicrhau bod tai rhent y farchnad a gwasanaethau yn hybu cydraddoldeb, ymwreiddio gwrth-hiliaeth, a mynd i’r afael ag anghenion amrywiol lleiafrifoedd ethnig.
- Rhoi llais i unigolion o leiafrifoedd ethnig wrth lunio polisïau tai Newydd er mwyn adlewyrchu eu hanghenion a blaenoriaethau amrywiol.
Effaith:
- Gwell dealltwriaeth o faterion yn rhent y farchnad, gan arwain at gamau sydd wedi’u targedu.
- Gwelliannau yn y gefnogaeth a ddarperir ar gyfer tenantiaid.
- Mwy o gefnogaeth ar gyfer tenantiaid i gael gafael ar, a chynnal, eiddo rhent y farchnad.
- Gwell dealltwriaeth o effaith hiliaeth a chasineb, a rhoi hyder i landlordiaid ac asiantwyr wrth fynd i’r afael â hiliaeth.
- Mwy o gyngor a chefnogaeth i denantiaid sy’n profi hiliaeth a throseddau casineb er mwyn lleihau hiliaeth.
- Gwell ymgysylltu a chyfathrebu gyda thenantiaid ethnig leiafrifol, gan sicrhau bod eu llais a’u hanghenion yn dylanwadu ar ein polisïau.
- Data cadarn er mwyn deall profiadau a rhwystrau a wynebir gan denantiaid ethnig leiafrifol, gan hwyluso monitro a gwerthuso.
- Cefnogaeth er mwyn cael gwared â rhwystrau, a darparu mynediad i dai a gwasanaethau addas ar gyfer unigolion a thenantiaid ethnig leiafrifol.
Diwylliant a threftadaeth
Nod:
- Dathlu amrywiaeth, treftadaeth ddiwylliannol, a’r hawl o ryddid i fynegiant diwylliannol.
Effaith:
- Codi ymwybyddiaeth o wahanol dreftadaethau a diwylliannau.
- Boddhad tenantiaid uwch gan y bydd tenantiaid yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.
- Cyfathrebu gwell.
- Darpariaeth gwasanaeth gwell.
Ein cynnydd hyd yma.
Rydym wedi:
- Ennill achrediad QED Tai Pawb am gydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Rydym wedi arwyddo adduned Dim Goddefgarwch.
- Gweithredu Rheol Rooney er mwyn mwyhau amrywiaeth yn y broses recriwtio.
- Defnyddio Diverse Cymru i hysbysebu swyddi a rhannu swyddi gwag gyda BAWSO a Tai Pawb.
- Cydweithio gyda Dynamic Boards i recriwtio aelod newydd o’r Bwrdd.
- Sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau ac amrywiaeth ar baneli recriwtio, gan gynnwys cynrychiolwyr tenantiaid hyfforddedig wrth recriwtio staff sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid.
- Rhoi llety i ddau deulu o ffoaduriaid a atgyfeiriwyd gan awdurdodau lleol.
- Cynnal arolwg ‘Profiad Byw Staff’ a rhannu’r canlyniadau gyda staff a thenantiaid.
- Darparu hyfforddiant Gwrth-Hiliaeth ar gyfer Uwch Reolwyr, hyfforddiant cydraddoldeb a rhagfarn ddiarwybod ar gyfer staff, a rhaglen hyfforddi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mandadol ar gyfer pob aelod o staff.
- Datblygu calendr digwyddiadau cynhwysiant ar gyfer staff.
- Gwahodd siaradwyr i gyfarfodydd briffio staff ar yr hil-laddiad yn Rwanda ac ar bŵer ac effaith iaith.
- Dathlu Mis Hanes Pobl Ddu a Diwrnod Ymwybyddiaeth Arweinwyr Du.
- Cynnwys Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant fel eitem agenda safonol mewn cyfarfodydd tîm.
- Darparu gwybodaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant dros bob cam o amser cyflogeion gyda Newydd, o’r hysbyseb swydd, y cais, y broses gyfweld, y cynefino a’r sefydlu.
- Adolygu ein polisi a’n gweithdrefn troseddau casineb.
- Cynnal arolwg o denantiaid o grwpiau lleiafrif ethnig i gael adborth ar y cynllun gweithredu a gwasanaethau.
- Dadgyfuno data ethnigrwydd o’n data boddhad cwsmeriaid er mwyn gwella profiad y cwsmer.
- Cefnogi digwyddiad Diwali blynyddol yn Y Barri.
Byddwn yn parhau i adolygu ein polisïau a’n gweithdrefnau a chynnal asesiadau effaith cydraddoldeb er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau rydym yn eu darparu yn deg ac yn rhydd o unrhyw fath o wahaniaethu. Rydym yn ymrwymo i fynychu sesiynau hyfforddi a gweithdai er mwyn parhau i addysgu ein hunain ymhellach, ac i gymryd camau i wrthwynebu hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol.
Tra’n cydnabod bod mwy o waith o’n blaenau, rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i hybu cydraddoldeb hiliol ac amrywiaeth. Byddwn yn herio annhegwch hiliol ac yn anelu i wella ein gwasanaethau ar gyfer unigolion ethnig leiafrifol.
Os hoffech gopi o’r cynllun gweithredu yn ei gyfanrwydd, e-bostiwch marketing@newydd.co.uk.