Posted 20.06.2022

Trawsnewid tafarn hanesyddol yn y Barri

Yn ystod hanner tymor agorodd Cymdeithas Tai Newydd y drysau i ddatblygiad newydd, Y Windsor, adeilad hanesyddol yn nhref arfordirol fywiog y Barri.

Dim ond pedwar mis ar ddeg ar ôl i gontractwyr Cartrefi ddechrau'r gwaith adeiladu, mae tenantiaid newydd yn symud i mewn i'r cynllun trawiadol hwn gwerth £2 filiwn, gyda'i nodweddion gwreiddiol a'i ffasâd ysblennydd.

Hanes

Wedi'i adeiladu ar ddechrau'r 1900au mae'r adeilad adnabyddus hwn, a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel tafarn, yn un o'r rhai hynaf yn yr ardal. Roedd 'Tafarn y Windsor', fel y'i gelwid, yn eiddo i Dafarndai Brains ac fe'i caffaelwyd gan Newydd yn 2019 fel rhan o bortffolio o dri safle.

Wrth ailddatblygu’r Windsor, darganfuwyd mai dyma un o'r adeiladau cyntaf yn y Barri i gael ei gysylltu â'r grid trydan, ynghyd â swyddfeydd Cyngor Bro Morgannwg yn y dociau.

Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, ac wedi’i ariannu gan ddefnyddio cynllun Tir ar Gyfer Tai Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r angen lleol am dai, mae'r hen dafarn hon wedi'i thrawsnewid yn ddeuddeg fflat un ystafell wely a chwe fflat dwy ystafell wely i'w rhentu. O'r 18 o fflatiau, mae dau ohonynt wedi eu haddasu i letya tenantiaid sydd ag anableddau, ac mae’n cynnwys ceginau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, a chyfleusterau ymolchi mewn ystafelloedd gwlyb.



Dechreuadau newydd

Jordan yw'r un o'n tenantiaid sydd yn symud i mewn i'r Windsor, sydd yn y gorffennol wedi bod yn byw mewn llety dros dro, a nawr mae'n symud i'w gartref newydd gyda'i fam. Dywedodd Jordan wrthym, "Dyma rywle lle byddaf yn gallu canolbwyntio ar fy astudiaethau heb orfod poeni am ddod o hyd i dŷ newydd drwy'r amser." 

"Mae Newydd wedi bod o gymorth mawr hefyd, yn enwedig i fy mam; maen nhw wedi gweithio gyda hi drwy bopeth yn ystod y broses."



Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Newydd, "Hoffem ddiolch i'n holl bartneriaid a staff am weithio'n galed i ailddatblygu'r hen dafarn hon yn gartrefi newydd a gwych i bobl leol. Nid yn unig ei fod yn edrych yn anhygoel gyda'i ffenestri bwaog a'i waith brics trawiadol, ond mae hefyd yn rhoi cartrefi gwerthfawr i'n tenantiaid, a bydd yn rhoi dechreuadau newydd iddynt. Dymunwn y gorau iddynt ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Yr Aelod Cabinet dros Dai Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenantiaid: "Bydd ailddatblygu'r Windsor yn y Barri yn gwneud gwahaniaeth enfawr nid yn unig i'r teuluoedd hynny a fydd bellach â chartref sy'n addas ar gyfer eu hanghenion, ond i bawb sy'n byw gerllaw. Rhaid rhoi clod enfawr i'r partneriaid sydd wedi cymryd rhan. Mae'r gwaith adnewyddu wedi gwneud cyfiawnder ag adeilad hanesyddol yn y Barri, ac mae'n rhywbeth a ddylai wneud pawb sy'n byw yn yr ardal yn falch o alw'r rhan hon o'r dref yn gartref iddynt."

Dywedodd Jane Hutt AS, "'Mae’r trawsnewidiad a wnaed i Westy'r Windsor yn gwbl wych. Mae'r ailddatblygiad wedi diogelu llawer o nodweddion sydd o arwyddocâd hanesyddol i'r Barri, ac mae darparu cartrefi newydd trawiadol i bobl sydd angen tai yn hanfodol bwysig. Rwy'n falch fod cyllid Llywodraeth Cymru wedi helpu i wneud hyn yn bosibl."

Newyddion diweddaraf