Aflonyddwch Sŵn - Be ddyliwn i ei wneud?
Mae’r Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998 yn diffinio ymddygiad gwrthgymdeithasol fel ymddwyn mewn ffordd sy’n “achosi neu yn debygol o achosi aflonyddwch, ofn neu ofid i un neu fwy o bobl sydd ddim yn yr un cartref” â’r tramgwyddwr.
Mae esiamplau o ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn cynnwys:
· Cymdogion niwsans, ddiystyriol neu swnllyd
· Fandaliaeth, graffiti a lled-bosteri
· Yfed ar y stryd
· Difrod amgylcheddol gan gynnwys gollwng sbwriel neu ymollwng ceir
· Gweithgareddau sy’n ymwneud â phuteindra
· Cardota
· Camddefnydd o dân gwyllt
· Defnydd diystyriol neu anaddas o gerbydau
Yr ymddygiad gwrth-gymdeithasol fwyaf cyffredin yw aflonyddwch sŵn. Mae parti unwaith ac am byth, plant yn chwarae yn y stryd, ci yn cyfarth, babanod yn crio neu doiledau yn fflysio ddim yn esiamplau o ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Fodd bynnag, mae chwarae cerddoriaeth uchel yn gyson ac unrhyw synau uchel eraill rhwng 11pm-7am yn cael ei hystyried yn wrthgymdeithasol.
Cyngor ar sut i ddelio ag aflonyddwch sŵn
Top Tips for dealing with a noise disturbance.
1. Peidiwch â thalu’r pwyth yn ôl. Os mae eich cymydog yn chwarae cerddoriaeth uchel am 2am un bore, peidiwch â dechrau bwrw’r waliau am 5am y bore wedyn ayb; bydd hwn yn debygol o wneud y sefyllfa’n waeth. Bydd hefyd llai o gefnogaeth i chi gan yr awdurdodau os ydych chi wedi bod yn cyfrannu at y sŵn gwrth-gymdeithasol hefyd.
2. Siaradwch â’ch cymydog. Yn aml, dyw’r cymydog ddim yn ymwybodol ei bod nhw’n creu’r sŵn neu fod y sŵn yn teithio mor bell. Ceisiwch godi’r broblem gyda nhw a gad iddyn nhw wybod bod y sŵn yn peri gofid i chi.
3. Cadwch gofnod. Fedrwch chi lawr lwytho dyddiadur yma o’n tudalen ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Nodwch y dyddiad ac amser y digwyddiad, disgrifiwch beth yw’r sŵn, pa mor hir mae’r sŵn yn parhau a sut oeddech chi’n teimlo ar y pryd. Bydd hwn yn helpu adeiladu tystiolaeth ar gyfer eich achos.
4. lawr lwythwch a defnyddiwch The Noise App. Mae’r offer yma yn recordio tystiolaeth ac yn ei anfon yn uniongyrchol i’r arolygydd. Mae rhagor o wybodaeth am yr ap i’w gael yma.