Posted 05.08.2022

Ariannu taflunydd newydd ar gyfer Llyfrgell Beddau a Thynant

Mae ein Cronfa Budd i Gymunedau wedi dod ag ysbryd cymunedol yn ôl i Lyfrgell Gymunedol Beddau a Thynant. 

Mae ein cronfa budd i gymunedau wedi ariannu taflunydd newydd ar gyfer Llyfrgell Gymunedol Beddau a Thynant yn Rhondda Cynon Taf. Roedd y llyfrgell, sydd gyda dros 1000 o gwsmeriaid, wedi bod yn defnyddio hen daflunydd, ac fe roedd y staff a grwpiau cymunedol yn ei weld yn anodd iawn i’w defnyddio. Er hynny, gyda thaflunydd newydd wedi ei osod, mae'r llyfrgell, sydd gyda chefnogaeth pwyllgor gweithredol, yn gobeithio bydd y taflunydd newydd yn caniatáu i’r llyfrgell apelio at fwy o bobl ym Meddau.

Ysbryd cymunedol

Dywedodd Helen Boldero, Ysgrifennydd ac Ymddiriedolwr Llyfrgell Gymunedol Beddau a Thynant, “Rydym yn hynod ddiolchgar i Newydd ac Encon Construction Ltd. Bydd y taflunydd yn gwneud y mwyaf o'r gofod sydd gennym, mae'n syml i'w ddefnyddio a bydd yn caniatáu i gyflwyniadau a sgyrsiau rhyngweithiol gael i’w cynnal yn y llyfrgell. Mae'r llyfrgell yn cael llawer o siaradwyr gwadd ar bynciau amrywiol gan gynnwys iechyd a lles, garddio, yr amgylchedd ac ati, sy'n cael eu mynychu'n dda. Bydd y taflunydd yn adnodd amhrisiadwy i ni a’r holl grwpiau sy’n defnyddio’r llyfrgell.”

Ychwanegodd Olwen, Aelod o Bwyllgor y Llyfrgell, “Bydd yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i bob un ohonom. Roedd COVID-19 yn golygu nad oedd pobl yn cymysgu, ac fe ddywedodd llawer o bobl wrtha’i prin roeddent yn dod i’r llyfrgell, ond erbyn hyn, gallant ddod a gwneud paned o de, darllen llyfr, a gwneud ffrindiau newydd. Yr ysbryd cymunedol hwnnw yr ydym am ei ddwyn yn ôl i’r pentref, rydym wedi colli llawer o hynny, ond mae cael y taflunydd yn y llyfrgell yn helpu i ddod â’r cyfan yn ôl.”

Am ein Cronfa Budd Cymunedol

Nod ein cronfa budd cymunedol yw sicrhau ein bod yn cael dylanwad positif yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Jonathan James yw ein Cydlynydd Budd Cymunedol.

Dywedodd, “Mae ein cronfa Budd Cymunedol wedi bod yn rhedeg ers sawl blwyddyn, gan ddefnyddio ein contractau caffael gyda phartneriaid i sicrhau effeithiau cadarnhaol ar gyfer y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau i’r gronfa yn cael eu craffu gan ein panel ariannu sy’n cynnwys aelodau o staff o bob rhan o’n sefydliad a rhai o’n tenantiaid. Rydym yn annog grwpiau cymunedol ac elusennau eraill ym Meddau a’r cyffiniau i gysylltu â ni os oes ganddynt unrhyw anghenion ariannu y gallwn eu cynorthwyo. Mae’r broses ymgeisio yn cynnwys llenwi ffurflen syml, a gallwn eich cefnogi i wneud cyflwyniad, felly cysylltwch â ni!” 

E-bostiwch Jonathan: Jonathan.James@newydd.co.uk.


Am y llyfrgell

Mae'r llyfrgell yn amgylchedd diogel a chynhwysol i bobl sy'n byw ym Meddau. Yn y dyfodol, maent yn gobeithio cael mwy o siaradwyr gwadd ac maent hefyd yn ystyried sefydlu mwy o glybiau a gweithgareddau newydd a fydd yn dod â'r gymuned yn nes at ei gilydd. Beth am ymweld â'r llyfrgell i weld beth sydd ganddynt i'w gynnig, bydd croeso cynnes i chi, ac efallai paned o de!

Hoffem ddiolch i Encon Construction am eu cefnogaeth i’n Cronfa Budd Cymunedol ac i Extrascope Ltd ym Mhont-y-clun am brynu, ac am osod y taflunydd yn y llyfrgell.

Newyddion diweddaraf