Posted 01.09.2023

Newyddion: Your September tenant newsletter

Hi! This is the September edition of your tenant newsletter, ‘Newyddion’, which is Welsh for ‘news’. In this newsletter, we will be sharing information about the support that we can offer you, and keep you up to date on what we have been up to. Please feel free to reply to this email with your feedback about this newsletter, and let us know what you'd like to see next. Thank you.

Merched mewn adeiladu

“Mae’r byd i gyd o’ch blaen chi. Mae yna gyfleoedd gwych allan yna – ewch amdani!”  

Gwyliwch y fideo er mwyn gweld y merched arbennig yn Newydd sy’n gweithio yn ein hadrannau cynnal a chadw, datblygu ac adfywio. Maen nhw’n rhannu straeon sy’n ysbrydoli a chyngor gwerthfawr, ac yn herio stereoteipiau yn y diwydiant adeiladu!

 Os yw gyrfa ym maes adeiladu neu dai yn rhywbeth y gallech chi fod â diddordeb ynddo, fe allwn ni helpu! Gall Jackie, ein Swyddog Cyflogadwyedd, weithio gyda chi i gael hyd i hyfforddiant neu leoliad addas. Am fwy o wybodaeth am beth allwn ni gynnig, cliciwch yma. I gysylltu’n uniongyrchol â Jackie, gyrrwch ebost at jackie.holly@newydd.co.uk. 


Plîs #ByddwchYnGaredig


Hoffem roi gwybod i chi bod rhai aelodau o’n staff, yn anffodus, wedi dioddef camdriniaeth yn ddiweddar. Rydym yma i gadw ein cwsmeriaid yn ddiogel ac i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib, ond rydym hefyd yn gyfrifol am amddiffyn ein staff rhag camdriniaeth, trais ac ymddygiad gelyniaethus. Fe fyddwn wastad yn ymchwilio i mewn i achos mae cwsmer yn ei deimlo sy’n annerbyniol. Nid yw hynny, fodd bynnag, yn golygu y bydd ein staff, contractwyr nac unrhyw un arall sy’n gweithio ar ein rhan yn goddef ymddygiad annerbyniol, ni waeth faint mae’r cwsmer yn teimlo fod hynny’n haeddiannol. Mae gan ein staff deimladau ac mae’r gamdriniaeth y mae rhai ohonynt wedi’i dderbyn yn ddiweddar wedi effeithio arnynt yn fawr. Felly plîs #ByddwchYnGaredig pan fyddwch yn cysylltu â ni. Diolch.

Pop-up cymunedol yng Nglannau’r Barri

Fe wnaethom gynnal digwyddiad pop-up cymunedol yn ddiweddar ar gyfer tenantiaid Glannau’r Barri. Fe wnaeth staff o ledled y sefydliad helpu gydag atgyweiriadau, gwybodaeth ariannol a phryderon ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydym yn gwerthfawrogi pawb wnaeth gymryd amser i rannu eich meddyliau gyda ni. Mae eich mewnbwn ac adborth wedi bod yn werthfawr iawn.

Os hoffech chi i ni gynnal pop-up cymunedol ar eich ystâd chi, rhowch wybod i ni drwy ebostio marketing@newydd.co.uk. 


Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau ffôn 

Derbyniodd un o’n tenantiaid alwad yn ddiweddar gan rywun oedd yn honni eu bod yn cynrychioli Newydd a bod angen trefnu apwyntiad yn ei eiddo, ond wnaeth neb droi i fyny. Pan ffoniodd e nhw yn ôl, fe ofynnon nhw iddo gadarnhau ei holl wybodaeth bersonol eto, ac fe ddechreuodd amau bod rhywbeth o’i le. Fe wrthododd roi unrhyw wybodaeth, diolch byth.
 
Hoffem eich atgoffa chi gyd i fod yn ofalus iawn wrth dderbyn unrhyw alwadau neu negeseuon digymell, yn enwedig os ydyn nhw’n honni eu bod yn gweithio i Newydd neu unrhyw sefydliad arall. Dylech wastad wirio dilysrwydd y galwr drwy ein ffonio ni ar 0303 040 1998 cyn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol.
 
Os gwelwch yn dda, rhannwch y wybodaeth hon gyda thenantiaid eraill er mwyn codi ymwybyddiaeth. 

Diogelwch tân

Efallai y byddwch yn ymwybodol yn barod bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheolau a chanllawiau newydd sy’n egluro ein cyfrifoldebau o ran diogelwch tân fel eich landlord. Os ydych chi’n byw mewn fflat, efallai y byddwch wedi derbyn hysbysiad am ymweliad gan ein hasesydd risg tân i archwilio eich cartref.

Bydd yr asesydd risg tân yn edrych ar eich drws tân mynediad ffrynt, ffenestri, balconïau, cladin, inswleiddio, ac unrhyw ardaloedd cymunol. Helpwch ni, os gwelwch yn dda, drwy roi mynediad i’ch cartref ar yr amser apwyntiad a gytunwyd.

Mae yna hefyd nifer o ffyrdd y gallwch ein helpu ni i’ch cadw chi’n ddiogel. Gallwch wneud hyn drwy sicrhau bod yr holl ardaloedd cymunol yn cael eu cadw’n glir ar bob adeg. Rydym ni’n gyfrifol am yr ardal rydych chi’n byw ynddo, sy’n golygu bod gennym ni ddyletswydd i sicrhau bod yr holl ofodau cymunol yn eich adeilad (os oes yna rai) yn cydymffurfio gyda rheoliadau tân a diogelwch. Mae eitemau sydd wedi eu gadael neu eu storio mewn ardaloedd cymunol yn berygl i ddiogelwch oherwydd fe allan nhw eich rhwystro chi a’ch cymdogion rhag gadael yr adeilad yn ddiogel os bydd tân.

Os oes unrhyw eitemau wedi cael eu gadael mewn ardal gymunol yn eich adeilad chi, gallwch roi gwybod i ni drwy ffonio 0303 040 1998. Am fwy o wybodaeth am ddiogelwch tân, cliciwch yma.

Cefnogaeth digidol

Ym mis Gorffennaf fe wnaeth Scott, ein Swyddog Cynhwysiant Digidol, ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant digidol hanfodol i 17 o denantiaid – gwych! Ond nid dyna’r cyfan: fe wnaeth e hefyd helpu 7 o bobl i fynd ar-lein, gan sicrhau bod ein tenantiaid yn aros mewn cysylltiad yn y byd digidol modern.

Rydym yn cynnig benthyciadau cyfnod byr o offer digidol gan gynnwys tabledi, gliniaduron a seinyddion clyfar er mwyn eich helpu chi i fynd ar-lein a defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel ac yn effeithiol. Os hoffech chi fwy o wybodaeth am y gefnogaeth ddigidol rydym yn ei chynnig, cliciwch yma.

eCymru

Ydych chi wedi cael cip ar y cyrsiau sydd ar gael am ddim ar eCymru? Mae eCymru wedi partneru gyda’r Brifysgol Agored er mwyn cynnig pob math o gyrsiau ar-lein ym meysydd celf, crefft, addysg, ffitrwydd ac iechyd! Gallwch ddechrau pryd bynnag sy’n eich siwtio chi!

Gyda chyrsiau eCymru, gallwch:

  • Ddatblygu sgiliau newydd
  • Ddysgu mwy am wahanol bynciau
  • Gamu ymlaen yn eich swydd

Cliciwch yma i ymweld ag eCymru.

Newyddion diweddaraf