Newyddion: Eich cylchlythyr tenantiaid mis Hydref
Helo! Dyma rifyn Hydref o ‘Newyddion’, eich cylchlythyr tenantiaid. Yn y cylchlythyr hwn, byddwn yn rhannu gwybodaeth am y gefnogaeth y gallwn ei chynnig i chi, ac yn eich diweddaru ar beth rydym wedi bod yn ei wneud. Mae croeso i chi ateb yr e-bost hwn i roi adborth ar y cylchlythyr, a rhowch wybod beth hoffech chi ei weld yn y rhifyn nesaf.
Profion trydanol
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio drwy raglen o brofion trydanol ac rydym wedi cyfarwyddo Jeffway Electrical i gwblhau’r gwaith. Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i gwblhau’r gwaith hwn er mwyn sicrhau bod y system drydanol yn eich cartref yn ddiogel i chi a’ch cymdogion. Os byddwch yn derbyn llythyr neu alwad gan Jeffway Electrical, gwnewch apwyntiad gyda nhw a sicrhewch eich bod ar gael i roi mynediad iddynt i gwblhau’r profion ar y dyddiad hwnnw. Diolch yn fawr.
Ydych chi’n derbyn Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Treth Plant?
Mae credydau treth yn dod i ben, a bydd gofyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn eu lle. Cadwch lygad allan am lythyr gyda’r teitl Hysbysiad Trosglwyddo Credyd Cynhwysol oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n esbonio beth sydd angen i chi ei wneud, ac erbyn pryd. Ni fyddwch yn cael eich symud yn awtomatig, felly mae hi’n bwysig eich bod yn gweithredu’n gyflym ac yn dilyn y cyfarwyddiadau yn y llythyr, neu fel arall bydd eich budd-daliadau yn stopio. Am fwy o wybodaeth ar sut y gallwch baratoi ar gyfer y newid hwn, cliciwch yma i weld taflen a ddarparwyd gan Gredyd Cynhwysol.
Os ydych chi’n cael anhawster gyda’r newid hwn, gall ein tîm Cynhwysiant Ariannol cyfeillgar eich helpu a’ch cefnogi chi i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Cysylltwch â’n tîm heddiw:
- E-bostiwch: financialinclusion@newydd.co.uk
- Ffoniwch: 0303 030 1998
Croeso cynnes i Maureen a Geoffrey!
Mae Maureen a’i gŵr Geoffrey yn symud i mewn i’w fflat newydd yn Seaview. Dywedodd Maureen, “Roeddwn i’n meddwl fy mod i wedi ennill y loteri’r diwrnod ffoniodd Clare, ein Swyddog Tai, i ofyn a oedd dal gennym ni ddiddordeb yn y fflat! Fi yw’r person hapusaf erioed. Rydym yn symud yma i fod yn agosach at deulu, ond hefyd mae popeth ar stepen ein drws yma. Mae fy merch yn byw 2 stryd i ffwrdd, a dyw’r orsaf drenau a’r siopau ddim yn bell chwaith. Does dim stepiau yn y fflat ac mae popeth yn wastad. Yn ein cartref blaenorol ym Mro Ogwr, roedd yna lawer o stepiau i’w dringo a rhiw serth - mae byw fan hyn yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr i ni. Mae’n rhaid mai ffawd yw hyn gan mai’r un rhif sydd gan y fflat yma a’n hen gartref! Rydyn ni’n mynd i fod mor hapus yma - rydyn ni ar ben ein digon.” Pob dymuniad da i Maureen a Geoffrey yn eu cartref newydd.
Taclo cyddwysiad: Defnyddio eich cawod
Wrth i’r tywydd newid, gall cyddwysiad ddigwydd yn fwy aml ym mhob rhan o’ch cartref. Dyma rai ffyrdd o daclo cyddwysiad yn eich cartref tra’ch bod chi’n cael cawod. Rydym wastad yma i helpu. Cysylltwch â ni os ydych chi angen mwy o gyngor neu gefnogaeth. Am fwy o wybodaeth ar sut y gallwch chi daclo cyddwysiad neu lwydni yn eich cartref, ewch i’r dudalen yma ar ein gwefan.
Pop-up cymunedol
Yn ddiweddar, rydym wedi bod allan yn ein cymunedau gyda’n digwyddiadau pop-up cymunedol. Ar 21 Medi, aeth ein timau o ddrws i ddrws yn Rhydyfelin, gan gnocio ar gyfanswm o 231 o ddrysau. Ac yr wythnos ddiwethaf, teithiodd aelodau o staff i’r Drenewydd a chnocio ar 139 o ddrysau. Diolch yn fawr iawn i’r holl denantiaid gymerodd funud i sgwrsio gyda ni. Mae eich adborth a mewnwelediad wedi bod yn werthfawr iawn. Os hoffech chi i ni gynnal pop-up cymunedol ar eich ystâd chi, cysylltwch â ni nawr drwy ebostio marketing@newydd.co.uk.
Cartrefi effeithlon o ran ynni
Rydym wrth ein bodd cael rhannu adborth gan un o’n tenantiaid hyfryd a gafodd baneli solar wedi’u gosod yn ddiweddar drwy ein rhaglen datgarboneiddio!
“Rwy’n hapus iawn gyda nhw - roedd ychydig o darfu fel y disgwyl ond roedd y gweithwyr yn hyfryd ac ystyriol. Mae’n ymddangos bod y paneli yn gwneud gwahaniaeth i’r biliau ynni, felly dwi’n hapus iawn. Diolch.” Rydym eisiau parhau i wella amodau byw, a chreu amgylcheddau gwell, mwy cyfforddus ar eich cyfer chi, ein tenantiaid. Gydag amser, byddwn yn sicrhau bod pob un o’n cartrefi yn dod yn fwy effeithlon o ran ynni. Os hoffech chi i ni ymweld â’ch cartref i weld sut gallwn ni ei wneud yn fwy effeithlon o ran ynni, e-bostiwch Caroline Evans, ein Swyddog Cyswllt Tenantiaid, ar caroline.evans@newydd.co.uk.
Taliad Costau Byw
Yn ddiweddar, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh) wedi darparu mwy o wybodaeth am yr ail daliad Costau Byw 2023/24. Bydd yr AGPh yn gwneud yr ail daliad Costau Byw o £300 i gwsmeriaid cymwys rhwng 31 Hydref a 19 Tachwedd. Bydd aelwydydd pensiynwyr cymwys hefyd yn derbyn taliad ychwanegol o £300 yn ddiweddarach eleni fel ychwanegiad at y Taliad Tanwydd Gaeaf. Bydd cwsmeriaid “credydau treth yn unig” cymwys nad sy’n gymwys ar gyfer taliad gan yr AGPh yn derbyn £300 gan CThEF rhwng 10 a 19 Tachwedd. Bydd cwsmeriaid yn derbyn y taliadau’n awtomatig. Nid oes angen i chi gysylltu â’r AGPh na gwneud unrhyw beth i dderbyn y taliad. I fod yn gymwys i dderbyn y taliad, mae angen i chi fod wedi bod yn gymwys ar gyfer taliad o un o’r budd-daliadau isod rhwng 18 Awst a 17 Medi, neu ar gyfer taliad am gyfnod asesiad yn diweddu rhwng y dyddiadau hyn.
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
- Credyd Pensiwn
Gallwch hefyd gael gwybod mwy am y gwahanol fathau o gefnogaeth sydd ar gael gan y llywodraeth gyda chostau byw drwy ymweld â’r wefan yma.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gall ein tîm Cynhwysiant Ariannol cyfeillgar eich helpu.
Cysylltwch â’n tîm heddiw:
- E-bostiwch: financialinclusion@newydd.co.uk
- Ffoniwch: 0303 030 1998