Newyddion: Eich cylchlythyr mis Mehefin
Croeso i Newyddion. Dyma gipolwg ar yr hyn a welwch yn y cylchlythyr hwn:
- Eich Barn ar Bartneriaeth Cadwyn
- Helpwch Ni i Ddatblygu Canllaw Paneli Solar
- Wythnos Diogelwch Plant
- Sut i Roi Gwybod am Dyllau yn y Ffordd
- Stopio’r Bloc
- Ymunwch â labordy profi eCymru
- Ymunwch â gweithdai sero net TPAS Cymru
- Mae eich llais chi o bwys. Mae Senedd Cymru eisiau clywed gennych chi!
Eich barn ar Bartneriaeth Cadwyn
Yn ôl ym mis Chwefror fe wnaethon ni gynnal 3 digwyddiad i gael eich barn ar y cynnig I Gymdeithas Tai Cadwyn ymuno â Grŵp Newydd. Hoffem ddiolch i denantiaid am fynychu ein digwyddiadau yn Y Drenewydd, Y Barri a Rhydyfelin ac am rannu eich barn.
Dangosodd rhai tenantiaid bryder y byddem yn canolbwyntio gormod ar dde Cymru. Ni fyddwn yn symud ein swyddfa o ardal Y Drenewydd, bydd y swyddfa yn aros ar agor a bydd staff yn dal i weithio yn yr ardal.
Roedd tenantiaid eraill yn poeni efallai y byddai ein rhenti yn newid. Mae ein costau rhent wedi eu gosod yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i ddilyn y canllawiau yma a bydd Cymdeithas Tai Newydd yn parhau fel eich landlord. Ni fydd cartrefi yn cael eu trosglwyddo i Gymdeithas Tai Cadwyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y bartneriaeth bosibl, e-bostiwch: partnership@newydd.co.uk
Gweithgor tenantiaid Newydd a Cadwyn.
Mae’r Cyd-weithgor Tenantiaid, sy’n cynnwys Grŵp Craffu Tenantiaid Cadwyn a Dylanwadwyr Tenantiaid Newydd wedi cyfarfod ddwywaith. Nod y grŵp hwn yw rhannu cynnydd am y bartneriaeth, cael barn tenantiaid ac archwilio sut gall y ddau grŵp weithio gyda’i gilydd. Byddant hefyd yn edrych ar sut gall tenantiaid fod yn weithgar ar lefel Bwrdd ac yn y Panel Tenantiaid a fydd yn eistedd o dan Fwrdd Is-gwmni Newydd a Cadwyn, pe fydd y bartneriaeth yn mynd yn ei flaen.
Mae’r cyfarfodydd wedi mynd yn dda ac mae’r ddau grŵp yn awyddus i gydweithio gan gyfarfod yn chwarterol efo’r cyfarfod nesaf i ddigwydd yn fis Awst. Os hoffech chi gymryd rhan a helpu ni i wella ein gwasanaethau, cysylltwch â: tracy.james@newydd.co.uk
Helpwch Ni i Ddatblygu Canllaw Paneli Solar
A oes gennych chi baneli solar gartref?
Rydyn ni’n edrych am grŵp bach o denantiaid sy’n byw mewn cartref efo paneli solar i gydweithio efo ni. Gyda’n gilydd, byddwn ni’n archwilio i faterion cyfoes neu bryderon sy’n ymwneud â phaneli solar ac yn creu adnodd i geisio mynd i’r afael â nhw. Os ydych chi eisiau rhannu eich mewnwelediadau neu ddysgu mwy, cysylltwch â Scott at scott.tandy@newydd.co.uk neu ffoniwch 07584 501 216
Wythnos Diogelwch Plant
Awgrymiadau ar gadw plant yn ddiogel
Wythnos yma rydyn ni'n cefnogi'r Wythnos Diogelwch Plant Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau ymhlith Plant i helpu plant arwain bywydau iach ac egnïol yn ddiogel o anaf difrifol. Mae Wythnos Diogelwch Plant yn ymwneud â rhannu'r pethau ymarferol, pethau syml y gall pob un ohonom eu gwneud i gadw plant yn ddiogel.
Lawrlwythwch becyn rhieni yr Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau ymhlith Plant i gael ffeithiau ac awgrymiadau diogelwch am y prif risgiau damweiniau i blant. Er mwyn cael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau ymhlith Plant.
Sut i Roi Gwybod am Dyllau yn y Ffordd
Tyllau i’w hosgoi ar eich stryd?
Yn y fideo Tech Tip diweddaraf, mae eCymru yn dangos i chi sut i roi gwybod amdanynt! Gwyliwch eu canllaw gyflym ar ddefnyddio FixMyStreet a gadewch i ni drwsio’r tyllau!
Mae’n syml ac yn gyflym a bydd yn dysgu chi sut i roi gwybod am dyllau yn y ffordd yn eich ardal i'ch cyngor lleol.
Peidiwch ag anghofio dilyn tudalen eCymru ar Twitter ar gyfer ‘Tech Tips’ wythnosol! Bob Dydd Gwener, maen nhw’n uwchlwytho tip newydd i’ch helpu i lywio trwy’r byd digidol. Os oes pwnc penodol yr hoffech iddyn nhw ei gynnwys neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, rhowch wybod iddyn nhw. Maen nhw yma i helpu, a byddant yn gwneud yn siŵr i gynnwys eich awgrymiadau yn eu fideos yn y dyfodol.
Stopio’r Bloc
Dim ond y 3P y dylech eu fflysio – Pi-pi, Pŵ a Phapur
A wyddoch chi mai weips yw’r peth sy’n achosi rhwystrau amlaf a bod dim ond un weip yn ddigon i ddechrau rhwystr yn eich pibell garthffos?
Taflwch yr holl weips, eitemau mislif, ffyn cotwm a chewynnau yn y bin. Bydd hyn yn help i atal rhwystrau yn eich cartref.
Peidiwch ag arllwys saim i lawr eich sinc! Sychwch eich padelli ffrio ac eitemau eraill â phapur cegin cyn eu golchi. Arhoswch i olewau coginio oeri a’u harllwys i mewn i gynhwysydd i’w gwaredu neu eu hailgylchu os yw eich cyngor yn caniatáu.
Ymunwch â Labordy Profi eCymru
Rydym yn falch o gyhoeddi cyfle unigryw i chi ymuno â Labordy Profi eCymru. Fel tenant gwerthfawr, mae eich adborth yn hollbwysig i’n helpu i wella ein platfform a'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig.
Beth yw labordy profi eCymru?
Mae’r Labordy Profi eCymru yn gymuned o denantiaid sy’n angerddol dros wneud gwahaniaeth. Trwy ymuno, byddwch chi’n cael y siawns i adolygu a rhoi adborth ar wahanol agweddau ar blatfform eCymru.
Boed yn mynychu digwyddiadau, cyrchu cyrsiau, neu ddefnyddio sesiynau ar-alw, rydym eisiau glywed eich meddyliau. Bydd eich mewnwelediadau yn ein helpu i wella’r platfform, gan ei wneud yn haws i’r holl denantiaid ei ddefnyddio.
Sut i ymuno? Mae’n hawdd ymuno, cliciwch ar y ddolen isod i gofrestru eich diddordeb. Bydd eich ymatebion yn aros yn gyfrinachol ac yn cael eu defnyddio i wella ein platfform a’n gwasanaethau. Rydym yn croesawu adborth yn Gymraeg neu yn Saesneg.
https://forms.office.com/e/L9SkQGsTcp
Ymunwch â Gweithdai Net Sero TPAS Cymru
Beth yw net sero?
Net Sero yw'r faint o nwyon tŷ gwydr (megis carbon deuocsid) sy’n cael eu rhyddhau i’r atmosffer ac sy’n cael ei gydbwyso gan yr un faint yn cael ei dynnu o’r atmosffer. Gall hwn cael eu gwneud trwy ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy megis defnyddio ynni solar, ceir trydan, gwella effeithlonrwydd ynni ayyb.
Dyddiadau: Dydd Llun 17 Mehefin i Ddydd Gwener 21 Mehefin 2024
Lleoliad: Ar-lein (Zoom)
Beth i’w ddisgwyl?
Os oes gennych ddiddordeb mewn tlodi tanwydd, cynaliadwyedd, byw yn y dyfodol, a llais tenantiaid, mae angen i chi fynychu.
Bydd dros 9 sesiwn yn cael eu cynnal dros yr wythnos, gallwch ddewis y rhai sydd o ddiddordeb mwyaf i chi er mwyn peidio â theimlo wedi’ch llethu.
Mae’r sesiynau hyn yn ymdrin â phynciau fel:
- Uchelgais Sero Net Cymru a’r Ffordd Ymlaen
- Heriau ac Atebion Ôl-osod
- Cydbwyso Fforddiadwyedd a Chynaliadwyedd
- Datgarboneiddio Ein Cymunedau
- Rhwydwaith Tenantiaid a Thrafodaeth Ford Gron
Eisiau cymryd rhan? Cysylltwch â Tracy James ar Tracy.James@newydd.co.uk
Gweithdai Wythnos Net Sero TPAS Cymru
Mae eich llais chi o bwys. Mae Senedd Cymru eisiau clywed gennych chi!
Mae eich llais chi o bwys.
Mae Senedd Cymru eisiau clywed am yr effaith y mae diffyg tai cymdeithasol yn cael ar bobl yng Nghymru.
Ydych chi ar restr aros ar hyn o bryd? Neu a ydych wedi cael llety mewn tai cymdeithasol yn ddiweddar?
Os hoffech rannu eich barn a’ch profiadau fel rhan o’r gwaith hwn, cysylltwch â Sally Jones, Rheolwr Ymgysylltu â Dinasyddion drwy anfon e-bost at: sally.jones11@senedd.wales