Newyddion: Eich cylchlythyr tenantiaid ar gyfer mis Gorffennaf
Siwrnai Cath gyda Visibly Better
Cwrt Arthur Davis yw’r pedwerydd cynllun byw’n annibynnol i dderbyn Gwobr Blatinwm Visibly Better RNIB Cymru am waith ailgynllunio sy’n galluogi pobl hŷn sy’n colli eu golwg i fyw’n annibynnol yn hirach. Fe wnaeth Cath Kinson, tenant Newydd sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect Visibly Better ers dros 10 mlynedd, ddatblygu glawcoma a chataractau yn ystod y cyfnod clo. Mae hi’n dweud ei bod hi, ers hynny, wedi dod i ddeall yn well sut mae newidiadau i ofodau byw yn medru helpu pobl sy’n colli eu golwg.
Gwyliwch y fideo i glywed Cath a’n Cyfarwyddwr Tai a Chymunedau, Oonagh Lyons, yn rhannu mewnwelediadau ar y trawsnewidiadau rhyfeddol yng Nghwrt Arthur Davis.
Ymunwch â ni am wythnos ymddygiad gwrthgymdeithasol!
Ymunwch â ni'r wythnos hon ar gyfer #WythnosYmwybyddiaethYGG wrth i’n Tîm Cymunedau Mwy Diogel fynd o ddrws i ddrws, i godi ymwybyddiaeth, ymgysylltu â’r gymuned, a chymryd camau rhagweithiol i fynd i’r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB).
Ble maen nhw'n mynd?
- Dydd Mawrth: Gwlad Du Gwyrdd, Gilfach Goch rhwng 11:00am- 1:00pm
- Dydd Mercher: Y Barri, Junction House rhwng 2pm - 3pm a Newbourne Place rhwng 3:30pm- 4:30pm.
- Dydd Iau: Clos y Glowyr a Nant Arian rhwng 11:00am - 12:00pm
Ymunwch â ni yn y lleoliadau hyn wrth i ni weithio gyda'n gilydd i greu cymunedau mwy diogel #YouSpokeWeListened.
Chwilio am swydd neu’n edrych i symud ymlaen yn eich gyrfa?
Fe allwn ni helpu! Mae ein rhaglen cyflogadwyedd yn cynnig nifer o wasanaethau yn rhad ac am ddim i’ch helpu chi i mewn i waith, gan gynnwys:
- Cymwysterau galwedigaethol achrededig
- Profiad gwaith a gwirfoddoli
- Hyfforddiant sgiliau cyfweliad
- Cyfleoedd prentisiaeth
- Help gyda dillad ar gyfer cyfweliadau a gwaith
- Magu hyder
- Help i ysgrifennu CV
- Cymorth chwilio am swydd
Cysylltwch â Jackie, ein Swyddog Cyflogadwyedd, Jackie.Holly@newydd.co.uk.
Hysbysiad pwysig: cadw ardaloedd cymunol yn glir ar gyfer diogelwch tân
Rydym ni’n gyfrifol am yr ardal rydych chi’n byw ynddo, sy’n golygu bod gennym ddyletswydd i sicrhau bod yr holl ofodau cymunol yn eich adeilad (os oes rhai) yn cydymffurfio gyda rheoliadau tân a diogelwch.
Os oes gennych chi fynediad i ardaloedd cymunol, bydd eich cytundeb tenantiaeth yn nodi na ddylech storio eitemau mewn ardaloedd cymunol a byddwn yn trin unrhyw eitemau a adewir fel achos o dor-cytundeb. Mae ardaloedd cymunol yn cynnwys grisiau, lifftiau, landins, coridorau, ac unrhyw ofodau eraill yr ydych yn eu rhannu gyda phreswylwyr eraill. Mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw gypyrddau mesuryddion neu gwasanaeth yn eich adeilad. Os ydych chi wedi gadael neu storio eitemau fel pramiau, bygis, beiciau, planhigion, celfi, esgidiau neu unrhyw eitemau cartref eraill yn y mannau hyn, symudwch nhw’n syth os gwelwch yn dda.
Rydym yn deall pam y byddech yn dewis storio’r eitemau hyn yn yr ardal gymunol er mwyn gwneud pethau’n haws, ond rydym ni eisiau eich cadw chi a’ch cymdogion yn ddiogel, ac mae’r eitemau yn peri risg tân sylweddol – a gall hyn, fel yr ydym wedi’i weld, arwain at drasiedi.
Mae eitemau sydd wedi eu gadael neu eu storio mewn ardaloedd cymunol yn berygl i ddiogelwch oherwydd fe allan nhw rwystro pobl rhag gadael yr adeilad yn ddiogel os bydd tân. Mae’n bwysig felly ein bod ni’n gwneud popeth allwn ni i osgoi peryglon o’r fath, a dyna pam mae gennym ni bolisi o ddim goddefgarwch tuag at eitemau a adewir mewn ardaloedd cymunol. Mae hyn yn golygu y byddwn ni, ar ôl rhoi rhybudd, yn symud eitemau rydym yn eu ffeindio yn yr ardaloedd hyn.
Diolch i chi am eich cydweithrediad ar y mater hwn.
Ein pop-up cymunedol diweddaraf!
Cynhaliwyd ein pop-up cymunedol ar gyfer mis Mehefin yn Nhrefforest, ac roedd y digwyddiad yn un llwyddiannus iawn. Mae gennym ni 70 o gartrefi o fewn cyrraedd hwylus i’r pop-up cymunedol hwn, lle gwnaeth staff o ledled y sefydliad helpu gydag atgyweiriadau, gwybodaeth ariannol a phryderon ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Hoffem ddiolch i bawb gymerodd yr amser i ddod i siarad gyda ni. Mae eich adborth a mewnwelediad wedi bod yn werthfawr iawn.
Os hoffech chi i ni gynnal digwyddiad pop-up cymunedol ar eich ystâd chi, cysylltwch â ni nawr drwy ebostio marketing@newydd.co.uk.
Byddwch yn wyliadwrus o gwmnïau hawliadau a hawliadau diffyg atgyweirio
Hoffem ddwyn mater pwysig i’ch sylw mewn cysylltiad â chwmnïau hawliadau a hawliadau diffyg atgyweirio. Rydym yn deall bod cwmnïau hawliadau wedi cysylltu â rhai ohonoch ynglŷn â gwneud hawliad yn ein herbyn am ddiffyg atgyweirio.
Fe hoffem eich gwneud yn ymwybodol nad yw’r cwmnïau hyn wastad beth maen nhw’n ymddangos. Mewn rhai achosion nid ydynt yn rhoi’r holl wybodaeth y byddwch ei angen cyn cytuno i weithio gyda nhw, ac fe allan nhw eich rhoi chi mewn perygl ariannol difrifol.
Mae cwmnïau hawliadau yn aml yn dweud eu bod yn gweithio ar sail ‘dim ennill, dim ffi’. Efallai bod hyn yn wir, ond rydym ni wedi gweld esiamplau lle mae tenantiaid wedi wynebu miloedd o bunnau o ddyled ar ôl arwyddo cytundebau. Mae tenantiaid hefyd wedi dweud wrthym ni eu bod wedi dod o dan bwysau ac wedi methu stopio hawliad wedi iddyn nhw newid eu meddwl. Ac weithiau nid yw’r cwmnïau hyn yn esbonio y gallwch chi, os yw eich achos yn mynd i’r llys ac yn cael ei wrthod, gael gorchymyn i dalu ein costau cyfreithiol ni, a allai fod yn filoedd o bunnau.
Os hoffech chi drafod unrhyw broblemau yn eich cartref, cysylltwch â ni. Gellir cwblhau eich atgyweiriadau yn gynt os byddwch yn siarad gyda ni’n uniongyrchol, oherwydd mae’r broses o hawlio am ddiffyg atgyweirio yn medru cymryd amser hir iawn. Mae hi’n bwysig i ni eich bod chi’n hapus gyda’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Fe wnawn ni bopeth allwn ni i’ch cefnogi chi ac i edrych ar ôl eich cartref.
Cewch hyd i fwy o wybodaeth am y risgiau sy’n gysylltiedig â chwmnïau hawliadau ar ein gwefan drwy’r ddolen isod.
Diolch i aelodau’r Panel Darllen a Pholisi a helpodd gyda datblygiad y cylchlythyr hwn.