Posted 18.09.2020

Mae datblygiad tai Newydd yn cefnogi adnewyddu gampfa ysgol yn y Barri

Mae gampfa ysgol gynradd Romilly yn cael ei hailwampio diolch i ddatblygiad tai lleol yn Porthkerry Road.

Mae Cymdeithas Tai Newydd, ochr yn ochr â Sterling UK Construction Ltd, yn cefnogi’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn Ysgol Gynradd Romilly yn y Barri trwy gyfrannu at eu hymgyrch codi arian ar gyfer lloriau newydd.

Ar hyn o bryd mae’r gampfa mewn cyflwr gwael o ganlyniad blynyddoedd o waith cynnal a chadw gwael ac ychydig o waith adnewyddu.

Fe'i defnyddir i raddau helaeth fel cyfleuster ar gyfer addysg gorfforol a gellir ei logi gyda'r nos ac ar benwythnosau i glybiau chwaraeon lleol sydd angen ardal hyfforddi dan do.

Dywedodd Brian Williams, Rheolwr Safle o Sterling Construction: “Mae Sterling Construction yn falch iawn o helpu Ysgol Gynradd Romilly gydag ariannu lloriau newydd ar gyfer eu gampfa gan ei fod yn adeilad pwysig i’r gymuned.”

Dywedodd Shannon Maidment, Cydlynydd Tîm Adfywio Cymunedol Newydd, “Rydym yn falch o allu cefnogi’r prosiect hwn sy’n cyfrannu at y nodau lles a nodir yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae'r Ddeddf hon yn anelu at Gymru iachach, Cymru fwy cyfartal, a Chymru o gymunedau cydlynol. Ar ben hynny, mae sawl budd o hyrwyddo gweithgaredd corfforol mewn plant, ac mae adfywio'r gampfa hon yn cynyddu'r cyfle i wneud hynny'n benodol yn ystod misoedd y gaeaf pan na ellir wneyd gweithgareddau awyr agored."

Ar hyn o bryd mae Sterling Construction yn datblygu cynllun yn Porthkerry Road ar ran Newydd. Bydd y datblygiad, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg, yn darparu 8 fflat un a dwy ystafell wely ar gyfer rhent fforddiadwy yn y Barri. Mae'r gwaith ar y safle'n cynnwys trosi mewnol i fflatiau a gwaith allanol helaeth y tu ôl i'r adeilad.

Llun: O'r chwith i'r dde, Shannon Maidment o Newydd, Brian Williams o Sterling, Harriet Valentino, Claire Jones a Sandra Hale o CRaA Ysgol Romilly y tu allan i'r ysgol.

Newyddion diweddaraf