Posted 01.03.2019

Newydd yn dringo rhengoedd rhestr cymdeithasau tai orau

Mae Newydd wedi ei enwi yn y chweched safle ar restr Best Companies’ Top 25 Housing Organisations in the UK, wedi ei gyhoeddi gan 24housing. Mae hwn un safle yn uwch na'n safle llynedd. I weld y rhestr llawn, cliciwch yma.

Hefyd yn ymddangos ar rhestr Best Not-for-Profit Organisations to Work For, mae Newydd, sydd â oddeutu 3,000 o gartrefi i'w rhentu a gwerthu ar ledled canolbarth a de Cymru, wedi ei enwi yn 30ain safle.

Mae Best Companies yn cynnal arolygon o filoedd o weithwyr ar draws y sector di-elw bob blwyddyn i benderfynu ar y sefydliadau sydd â'r lefelau uchaf o ymgysylltiad yn y gweithle. Mae'r arbennigwyr yn defnyddio model unigryw i fesure sefydliad ar wyth ffactor:

  • rheolaeth
  • arweiniaeth
  • y sefydliad
  • twf personol 
  • tîm
  • lles a iechyd
  • tegwch
  • rhoi rhywbeth yn ôl

Rhoddodd mwy na 9,500 o weithwyr o'r sector eu barn ar sut maen nhw'n teimlo yn y gwaith trwy arolwg b-Heard.

I weld y rhestr llawn, cliciwch yma.

Newyddion diweddaraf