Newydd yn hawlio gradd dwy-seren cwmnïau gorau am y bedwaredd flwyddyn yn olynol
Mae Cymdeithas Tai Newydd, sydd nawr â dros 100 o staff yn gweithio dros saith awdurdod lleol yng Nghymru, wedi ei gosod yn yr 20 sefydliad uchaf yn rhestr 100 Best Companies To Work For. Mae hyn yn golygu bod Newydd wedi hawlio’r statws dwy-seren, sydd wedi ei ddiffinio fel rhagorol, am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Yn ymddangos ar restr Best Not-For-Profit Organisations To Work For, mae Newydd, sydd â thua 3,000 o gartrefi i’w rhentu a gwerthu ar ledled de a chanolbarth Cymru, wedi ei gosod yn yr 20fed safle. I weld y rhestr lawn, cliciwch yma.
Mae’r rhestr flynyddol yn rhoi safle i weithluoedd fwyaf hapus a brwdfrydig ym Mhrydain, gyda’r sgôr yn cael ei asesu ar farn y gweithwyr. Cofrestrodd dros 1,300 o fusnesau a sefydliadau i gymryd rhan yn yr arolwg, gyda’r 325 gorau yn ymddangos yn y pedwar rhestr wedi eu casglu gan y Sunday Times.
Dywedodd Prif Weithredwr Newydd, Paul Roberts, “Mae bod yn rhan o’r rhestr yma yn gamp yn ei hun ac rydym yn falch iawn i ennill y radd dwy-seren am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Mae cadw’r statws yma yn rhan o’n hymgyrch corfforaethol, sy’n ganlyniad gwych.
“Mae ein pobl wrth galon popeth rydym yn ei wneud, mae eu hymroddiad yn hanfodol ar gyfer gwasanaeth rhagorol, heb ots beth yw eu rôl. Mae bod gyda’r goreuon o gwmnïau nid-er-elw y DU yn ganlyniad rwy’n falch iawn ohoni.”
Mae Newydd hefyd wedi eu henwi ar restr Best Companies, 25 Sefydliadau Tai yn y DU. I weld y rhestr lawn, cliciwch yma.