Ffenestri gwydr lliw sydd newydd eu gosod yn goleuo Canolfan Gymunedol Sant Paul ym Mhenarth
Mae Cymdeithas Tai Newydd wedi datgelu’r ffenestri gwydr lliw newydd sydd yng Nghanolfan Gymunedol Sant Paul ym Mhenarth.
Dydd Gwener 22ain Medi, cynhaliwyd dathliad yn y Ganolfan Gymunedol i gyfleu diolch Newydd i’r holl bartneriaid a gyfrannodd at y prosiect.
Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, grwpiau cymunedol, trigolion lleol ac ysgolion, cynlluniwyd y ffenestri trawiadol gan yr artist lleol Sarah Sweeney, ac fe’u cynhyrchwyd gan Lightworks Stained-Glass.
Taith gydweithredol
Yn ystod gweithdai y llynedd, casglwyd mewnwelediadau a syniadau gan drigolion lleol, myfyrwyr o Glwb Celf Ysgol Stanwell a Chymdeithas Ddinesig Penarth i ddarparu straeon lleol a phersbectif hanesyddol a fyddai’n dal ysbryd Penarth. Y nod oedd grymuso’r gymuned i ddylunio’r ffenestri i adlewyrchu hanes ond hefyd ddyfodol y gymuned, gan roi i’r trigolion lleol dirnod y gellid ei rannu â chenedlaethau’r dyfodol am flynyddoedd i ddod.
Dywedodd Sarah Sweeney, artist lleol ac Arweinydd Prosiect ailgynllunio’r ffenest, “Cefais fy ysbrydoli’n fawr gan ba mor gysylltiedig oedd pobl â St Pauls ac â hanes yr adeilad o fewn yr ardal leol fel tirnod o’r hen amser. Roeddwn i’n teimlo bod y ffenestri yn ffordd unigryw a hardd o atgyfnerthu’r holl straeon hynny, ac o goffáu’r holl bobl sydd wedi creu’r gymuned hon.
“Credaf fod cydnabod hanes, ac ar yr un pryd gydnabod y dyfodol, yn hynod bwysig. Mae cynnwys plant a phobl ifanc yn y prosiect yn sicrhau eu bod yn teimlo’n rhan ohono, a’u bod yn rhan o hanes. Cawsom hefyd fewnbwn gwych gan Gymdeithas Ddinesig Penarth; oherwydd eu bod wedi mapio adeiladau hanesyddol roedd eu mewnbwn yn amhrisiadwy. Roedd cael persbectif hanesyddol manwl wedi fy helpu i ddylunio gan fod gen i straeon a hanes ychwanegol i droi atyn nhw wrth dynnu’r cyfan at ei gilydd. Rwy’n hynod falch o’r gwaith terfynol, ac mae’r ffenestri hyd yn oed yn well nag yr oeddwn yn ei ddychmygu.”
Gosod y ffenestri
Dywedodd Dan Burke, Cyfarwyddwr Lightworks Stained-Glass, sef y cwmni a gynhyrchodd ac a osododd y ffenestri, “Buom yn gweithio’n agos gyda Sarah Sweeney, yr artist sy’n arwain ar y prosiect hwn, er mwyn dod â’i dyluniadau’n fyw; mae’r cyfan yn seiliedig ar syniadau a straeon o’r gymuned. Mae wedi bod yn heriol ac yn werth chweil ar yr un pryd. Rwyf wrth fy modd gyda’r gwaith terfynol ac yn falch iawn o’n tîm am greu’r ffenestri trawiadol hyn i bawb gael eu gweld am genedlaethau i ddod.”
Dywedodd Rachel Honey-Jones, Pennaeth Adfywio Cymunedol Cymdeithas Tai Newydd, “Mae’r ffenestri hyn yn gampwaith, un yr ydym i gyd yn Newydd yn hynod falch ohono. Mae nifer yr unigolion a’r cwmnïau a fu’n rhan o’r prosiect hwn o’i ddechrau i’w ddiwedd yn anhygoel. Nid yw wedi bod yn broses syml oherwydd heriau Covid, y sgiliau sydd eu hangen i gynhyrchu’r ffenestri, a’r nifer fawr o randdeiliaid, ond mae’r canlyniadau’n gwneud y cyfan yn werth chweil, gan ganiatáu i ni ddarparu ffenestri gwydr lliw gwych i’r gymuned gyfan eu mwynhau.”
Ynglŷn ag ailddatblygu’r hen Eglwys
Bu Newydd yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, fel rhan o ddatblygiad gwerth £3 miliwn a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, i ddarparu 14 fflat gyda rhent fforddiadwy ar gyfer pobl sy’n gweithio ac yn byw yn yr ardal, yn ogystal â darparu canolfan gymunedol a reolir bellach gan Wasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS).
Gan gadw ffasâd yr eglwys, penodwyd contractwyr, WK Plasterers Ltd, i ailddatblygu’r hen eglwys yn dilyn caniatâd cynllunio a gymeradwywyd gan Gyngor Bro Morgannwg ym mis Ebrill 2018, a chwblhawyd yr ailddatblygiad yn 2020.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, “Rwy’n falch iawn o’r datblygiad hwn. Mae’n rhagori ar yr holl ddisgwyliadau. Ar ôl dymchwel y Billy Banks roedd y rhan yma o Benarth yn brin o fannau lle gallai trigolion lleol ddod at ei gilydd. Mae’r adeilad hwn yn datrys y broblem. Mae’r gofal a gymerwyd i adfer y ffasâd yn dangos pam ein bod yn dewis gweithio gyda phartneriaid fel Newydd sy’n rhannu ein gwerthoedd ac eisiau helpu i gefnogi cymunedau i fod mor gryf ag y gallant fod. Mae’r adeilad eisoes yn teimlo fel rhan o wead y dref. Mae’r ffenestri’n hyfryd a byddant yn olau disglair dros y gymuned.”