Cyhoeddi partneriaeth newydd rhwng Newydd a Cadwyn
Mae Cymdeithas Tai Cadwyn a Chymdeithas Tai Newydd wedi cyhoeddi cynnig i ddechrau cydweithio o fewn yr un Grŵp.
Ar ddiwedd Ionawr 2024, bu'r ddau Fwrdd gyfarfod a chytuno i ddechrau’r broses o gynnwys Cadwyn fel aelod newydd o Grŵp Newydd.
Os bydd y cynnig hwn yn mynd yn ei flaen, bydd Cadwyn yn parhau i weithredu fel ei endid cyfreithiol ei hun ond yn dod yn is-gwmni i Grŵp Newydd, a’r gobaith yw y daw i rym erbyn gaeaf 2024.
Ymhlith y rhesymau dros ffurfio’r bartneriaeth mae:
- Sicrhau ein bod yn addas ar gyfer y dyfodol a gwella ein perthynas â’n rhanddeiliaid.
- Bod yn rhan o Grŵp mwy, cryfach sy'n amddiffyn ein busnes trwy ledaenu'r risg.
- Mewn rhai achosion, bydd ein partneriaeth yn adlewyrchu'r newidiadau yn y ffordd y mae rhai awdurdodau lleol a gwasanaethau hefyd yn cydweithio mewn partneriaeth e.e. mae Caerdydd a Bro Morgannwg yn cydweithio'n agosach ac yn yr un modd bydd y Grŵp yn cwmpasu'r ddwy ardal.
- Rydym wedi ymrwymo i gadw ein sylfaen leol.
- Buddiannau tenantiaid yw ein prif flaenoriaeth. Rydym yn cymryd pob cam angenrheidiol i ymgynghori â thenantiaid a lesddeiliaid a mynd i'r afael ag unrhyw faterion neu gwestiynau sydd ganddynt.
Dywedodd David Hayhoe, Prif Weithredwr Dros Dro Cymdeithas Tai Cadwyn, “Bydd symud i fod yn aelod o Grŵp Newydd yn cynyddu gwydnwch ariannol y ddau sefydliad ac yn gwella ein gallu i barhau i ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel ac adnewyddu ein heiddo presennol, er gwaethaf yr amgylchedd allanol heriol. Rhaid i ni bwysleisio bod buddiannau ein tenantiaid yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni. Rydym wedi dechrau ymgynghori â thenantiaid i fynd i’r afael ag unrhyw faterion neu gwestiynau sydd ganddynt.”
Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Newydd, “Rydym yn gyffrous iawn am y cynnig hwn, mae’r ddau sefydliad yn rhannu gwerthoedd tebyg ac wedi ymrwymo i wella gwasanaethau. Rydym eisiau creu sefydliad sy’n addas ar gyfer y dyfodol a thrwy gydweithio, gallwn rannu adnoddau, sgiliau a dod yn fwy effeithlon. Drwy gydol y broses hon a thu hwnt, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ein tenantiaid a'u rhoi wrth galon popeth a wnawn.”
Fe fydd yna gyfnod o integreiddio lle bydd gwasanaethau'n cael eu hadolygu, a byddwn yn edrych ar y ffordd orau o ddefnyddio gwasanaethau'r ddau sefydliad yn effeithlon ac yn gost effeithiol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cynnig hwn, e-bostiwch partnership@newydd.co.uk.