Tenantiaid wrth eu bodd gyda chartrefi gwledig syfrdanol
Mae gwyliau’r Pasg ar fin dechrau ac mae gwên ar wynebau’r plant yng Nghwrt Canna wrth iddyn nhw baratoi i dreulio’u dyddiau ar helfa wyau gyda golygfeydd hyfryd cefn gwlad y tu ôl iddyn nhw.
Symudodd Amber a’i merch dwy oed Aria i mewn i’w cartref newydd yn Llan-gan ddydd Gwener, ar ôl bod yn cysgu ar soffa ei mam yn Y Bont-faen.
Gan roi cwtsh i Aria wrth i weithwyr gario carped i mewn i’w cartref newydd, mae hi’n dweud, “Rydw i mor ddiolchgar, does dim gymaint o straen nawr. Roeddwn i wrth fy modd, fe wnes i ddechrau crio, pan glywes i y byddwn ni’n symud yma - mae jyst cael mwy o sefydlogrwydd yn gymaint o ryddhad i ni’n dau.
“A fedrwn i ddim credu pan glywais i fod fy nghefnder yn mynd i fod yn byw drws nesaf. Ni methu aros i drefnu helfa wyau yn yr ardd, os yw’r tywydd yn caniatáu! Dwi jyst mor hapus ein bod ni’n medru dechrau adeiladu ein dyfodol nawr.”
Ochr arall y clos, symudodd Alex i mewn gyda’i theulu ifanc ychydig wythnosau yn ôl. Mae hi’n dweud, “Mae symud i mewn i’r cartref yma wedi gwneud gymaint o wahaniaeth gyda phris ynni fel y mae e. Mae cael cartref eco sy’n olau ac yn agored, gyda nenfydau uchel, mor llesol… mae’n rhyfeddol y gwelliant yn ein hwyliau a’n llesiant.
“Mae’n wych medru magu plant yma hefyd - mae’r ardd yn hyfryd gyda chaeau y tu ôl i ni. Does neb yn edrych tuag atom ni, mae’n breifat iawn.
“Mae hi wedi bod yn hawdd iawn cysylltu â Debra, ein Swyddog Tai, ac mae hi wedi bod yn gyflym i ddatrys unrhyw faterion wrth iddyn nhw godi. Fedrwn i ddim credu pan ddywedodd fy ngŵr ei fod e wedi rhoi ein henwau i lawr ar gyfer cartref. Roedden ni’n byw yn agos iawn a doeddwn i ddim yn credu bod gyda ni siawns. Galla i weld nawr bod hwn yn gartref na fyddwn ni byth yn ei adael. Fe wnaethon ni’r dewis iawn.”