Posted 11.08.2021

Consortiwm newydd yn ymuno â Chyfiawnder Tai Cymru i droi hen dir eglwysig yn dai fforddiadwy​

Mae Newydd wrth ei fodd i rannu’r newyddion ei fod wedi ymuno â chymdeithasau tai eraill yn Ne Cymru i ffurfio consortiwm newydd a fydd yn gweithio law yn llaw gyda Chyfiawnder Tai Cymru i droi hen dir eglwysig yn gartrefi fforddiadwy i’w rhentu. Mae’r consortiwm yn cynnwys rhai o gymdeithasau tai mwyaf blaengar Cymru, sef Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf, Cartrefi Melin, Cymdeithas Tai Newydd a Chymdeithas Tai Cymoedd i’r Arfordir.

Mae’r consortiwm wedi bod yn llwyddiannus mewn proses dendro gyda Chyfiawnder Tai Cymru er mwyn symud ymlaen y cam nesaf ym mhrosiect Ffydd Mewn Tai Fforddiadwy’r sefydliad. Bydd hyn yn gweld y consortiwm yn gweithio ochr yn ochr â Chyfiawnder Tai Cymru i drawsnewid tir ac asedau eglwysig a danddefnyddir ledled de-ddwyrain Cymru. Mae’r prosiect Ffydd Mewn Tai Fforddiadwy wedi datblygu dros 90 o eiddo’n barod. Drwy weithio mewn partneriaeth gyda chymdeithasau tai ledled Cymru, mae’r prosiect yn bwriadu datblygu dros 1,000 o gartrefi ledled y wlad dros y bum mlynedd nesaf.

Bydd y bartneriaeth newydd yn dechrau ar y gwaith yn syth, gyda nifer o safleoedd posib wedi cael eu nodi i’w hystyried.

Dywedodd Gareth Davies, Cyfarwyddwr Datblygu gyda Chymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd a llefarydd ar ran y consortiwm, “Rydym wrth ein bodd o gael gweithio gyda Chyfiawnder Tai Cymru ac rydym yn credu y bydd y bartneriaeth newydd hon yn caniatáu i ni wneud cyfraniad sylweddol o dai fforddiadwy o safon uchel yn rhanbarth y de-ddwyrain.”

Daw’r newyddion am y bartneriaeth newydd hon ar amser pan nad yw’r alwad am fwy o dai fforddiadwy ledled Cymru erioed wedi bod yn uwch.

Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, disgwylir y bydd angen 6,200–8,300 o dai fforddiadwy ychwanegol newydd yng Nghymru bob blwyddyn hyd at 2025. Yn 2020, canfu’r elusen dai Shelter fod dros 67,000 o aelwydydd yng Nghymru ar restrau aros tai, gan ddangos yr angen dirfawr am fwy o dai fforddiadwy.

Y gobaith yw y bydd gweithio mewn partneriaeth arloesol a chydweithredol, fel y gwelwyd wrth sefydlu’r consortiwm hwn a’i waith gyda’r prosiect Ffydd Mewn Tai Fforddiadwy, yn mynd i’r afael i raddau helaeth â’r angen dybryd hwn.

Newyddion diweddaraf