Cadwch ar yr adduned Flwyddyn Newydd
Mae pawb yn dueddol o fwynhau trît dros gyfnod y Nadolig… ond yn fuan wedyn daw'r pryder am effaith hynny ar ein hiechyd… oedd hi'n syniad da cael y darn ola' 'na o'r treiffl?
Mae'r ystadegau yn ddigon i'ch synnu! Mae'r twrci, y trimins, y pwdin a'r diodydd yn gallu cyfrannu at gyfanswm o 5,240 o galorïau i bob person, a hynny ar Ddydd Nadolig yn unig!
Ar ben hynny, mae pryder cynyddol am gyflwr iechyd y genedl, gyda 60% o oedolion dros eu pwysau, a 1 ym mhob 4 yn ordew.
Ond, wrth i’r Flwyddyn Newydd fynd rhagddi mae S4C yn cynnig cyfle unigryw i newid hen arferion am byth; i helpu pum person brwdfrydig i gadw at eu hadduned am fywyd FFIT ac iach yn y gyfres newydd FFIT Cymru.
Dyma gyfle unigryw i fanteisio ar hyfforddwr personol, dietegydd a seicolegydd fydd yn cefnogi ac yn cynghori pob cam o'r ffordd – ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd y nod.
Os ydych chi'n awyddus i gymryd rhan, gallwch gofrestru nawr ar wefan s4c.cymru/ffitcymru Y dyddiad cau yw 2 Chwefror 2018.
Mae cynhyrchydd y gyfres, sy'n cael ei greu gan Cwmni Da, yn eich annog i fynd amdani. Meddai Siwan Haf, o Gwmni Da;
"Anghofiwch am ymaelodi â champfa ddrud, dyma'r cyfle gorau i ddechrau byw yn iach gyda help ein tîm o arbenigwyr brwdfrydig. Ym mhle arall y gallwch chi fanteisio ar hyfforddwr, dietegydd a seicolegydd proffesiynol yn rhad ac am ddim?
"Ar FFIT Cymru byddwn ni yn eich cefnogi chi ar hyd y daith. Drwy gymryd camau bychain, a newidiadau yn eich bywyd pob dydd, gallwch wneud newid mawr i'ch corff a'ch meddwl. Does dim angen treulio oriau ar y treadmill; does dim rhaid llwgu pob dydd – gyda'n gilydd gallwn newid ein ffordd o fyw ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.
"Ar ddechrau'r flwyddyn, mi fydd llawer ohonom ni yn meddwl am yr adduned flynyddol i fwyta'n iach ac i wneud mwy o ymarfer corff; yn enwedig ar ôl hel ein boliau dros gyfnod y Nadolig. Felly rŵan ydi'r amser i fynd amdani!"
Bydd FFIT Cymru ar S4C ym mis Ebrill 2018. Yn cyflwyno mae Lisa Gwilym ac yn gwmni iddi bydd yr hyfforddwr personol o Benarth Rae Carpenter, y dietegydd Sioned Quirke sy'n byw ym Mhont-y-clun a'r seicolegydd Dr Ioan Rees o Ben Llŷn.
Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein i s4c.cymru/ffitcymru