Posted 28.09.2022

Artist lleol yn galw ar y gymuned i rannu straeon am Ganolfan Gymunedol St Paul's, Penarth

Gwahoddir trigolion i weithdai yng Nghanolfan Gymunedol St Paul's yn ystod mis Hydref i ailgynllunio'r ffenestri gwydr lliw sydd yn yr hen Eglwys ar Stryd Arcot.

Mae Sarah Sweeney, artist lleol sy'n arwain y prosiect i Gymdeithas Tai Newydd, yn casglu straeon a syniadau gan bobl leol, yn ogystal â darparu sesiynau gydag ysgolion a cholegau lleol. Ar y cyd â'r gymuned, bydd yn cynhyrchu dyluniadau newydd o ffenestri ar gyfer Canolfan Gymunedol St Paul's, a agorodd yn gynharach eleni.

Wedi'i hadeiladu yn y 1850au trwy garedigrwydd preswylydd lleol, Mary Morgan, pwrpas Eglwys St Paul oedd gwasanaethu a chefnogi'r teuluoedd oedd yn gweithio ac yn byw o gwmpas ardal y dociau ym Mhenarth.

Yn 2017, dewiswyd Newydd gan Gyngor Bro Morgannwg fel y cynigydd gorau i ailddatblygu Eglwys Sant Paul. Gweithiodd y gymdeithas dai mewn partneriaeth â thrigolion lleol, y Cyngor a sefydliadau cymunedol i addasu’r cynnig i gyd-fynd â'r angen lleol. Ers hynny, mae'r datblygiad bellach yn darparu pedwar ar ddeg o gartrefi fforddiadwy y mae mawr eu hangen ar bobl leol, yn ogystal â chanolfan gymunedol a reolir gan Wasanaeth Gwirfoddol Morgannwg.

Dywedodd Rachel Honey-Jones, Pennaeth Adfywio Cymunedol Cymdeithas Tai Newydd, "Fel rhan o'r cytundeb cynllunio gwreiddiol, cadwyd ffasâd gwreiddiol yr adeilad er mwyn cyd-fynd â phensaernïaeth yr ardal. I orffen y datblygiad rhyfeddol hwn, rydym yn annog pobl leol yn gynnes iawn i fynychu'r gweithdai. Mae angen i ni droi straeon a syniadau yn ffenestri gwydr lliw hardd y gall y gymuned gyfan fod yn falch ohonynt."

Meddai'r Cynghorydd Ruba Sivagnanam, Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol ar Gyngor Bro Morgannwg: "Mae agor y cyfleuster newydd hwn ym Mhenarth yn dangos beth gellir ei gyflawni pan fydd partneriaid a chymunedau yn dod ynghyd.

"Mae Gwasanaeth Gwirfoddol Morgannwg, Newydd a Chyngor Bro Morgannwg i gyd wedi chwarae rhan, ond yn bwysicach na dim mae datblygiad y gofod cymunedol yma wedi cael ei arwain gan y trigolion a’r grwpiau lleol fydd yn ei ddefnyddio.

"Rwyf wrth fy modd fod gan y gymuned rôl bwysig yn dylunio'r gofod. Bydd y ffenestr yn adlewyrchu cymunedau lleol Penarth ac rwy'n methu aros i weld beth sydd gan y trigolion i’w gynnig."

Meddai Sarah Sweeney, Artist lleol ac Arweinydd y Prosiect ailgynllunio'r ffenestr, "Mae hwn yn brosiect gwych i fod yn rhan ohono wrth i ni gael clywed a myfyrio ar beth mae'r gymuned hon yn ei olygu i bobl leol, o bob oedran ac o bob adeg mewn bywyd. Mae'n anrhydedd i mi chwarae fy rhan i ddod â'r straeon hynny'n fyw fel eu bod yn cael eu cofio am genedlaethau i ddod."

Bydd dwy sesiwn yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Gymunedol Sant Paul: dydd Sul 2 Hydref rhwng 2.00pm a 4.00pm a dydd Llun 10fed Hydref rhwng 6.30pm - 8.00pm a bydd lluniaeth ar gael. Dewch i helpu i greu darn o hanes.

Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol, ond am rannu eich syniadau a'ch straeon, e-bostiwch Sarah ar stpaulspenarth@gmail.com

Newyddion diweddaraf