Posted 03.12.2020

Roedd Jason eisiau bod yn Brif Weithredwr y gallwch ddal ei lygad!

Ar ôl 30 mlynedd yn dringo ysgol gyrfa tai, cafodd Jason ei benodi’n ddiweddar fel ein Prif Weithredwr newydd. Yma mae’n dweud sut y symudodd lan drwy’r rhengoedd:

“Pan ddechreuais fel ‘Myfyriwr Noddedig’ yn y sector tai yn 1989, roedd Prif Weithredwr yn rhywun nad oedd yn siarad gyda chi, dim ond drwy ysgrifennydd yr oeddech yn siarad, ac os oeddent yn cael sgwrs â chi ac yn gwybod eich enw, roedd yn ddigwyddiad oedd yn haeddu erthygl yn y cylchgrawn staff. Bryd hynny, doedd cyrraedd y statws hwnnw ddim yn rhywbeth y gallwn hyd yn oed freuddwydio amdano. Hyd yn oed drwy fy llygaid 18 oed, doeddwn i ddim yn siŵr ei fod hyd yn oed yn rhywbeth roeddwn eisiau bod – roedd yn edrych yn swydd unig iawn, dwys iawn ac yn fwy o straen nag oeddwn byth ei eisiau fel llanc hapus ei fyd.

Ond nawr 31 mlynedd wedyn, gyda safbwynt ychydig yn wahanol ar fywyd yn gyffredinol, rwy’n dechrau fy nghyfnod fel Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Newydd. Felly beth arweiniodd at hyn?

Yn gyntaf  – profiad.  Ar ôl gorffen fy rhaglen myfyriwr nawdd, cefais fy mhenodi yn Swyddog Tai Cymdogaeth gyda Chyngor Welwyn Hatfield cyn symud i dde Cymru fel Swyddog Tai ar gyfer beth oedd bryd hynny yn Gymdeithas Tai Morgannwg a Gwent.

Cefais wedyn fy “uwchraddio” i fod yn Arbenigydd Gwasanaethau Tenantiaeth yn Newydd yn 1996. Ar y diwrnod cyntaf, ac fel rhan o fy sesiwn cynefino, aeth Paul Roberts, y Prif Weithredwr (cymharol newydd) â fi am dro ar draws i stad leol yn y Barri a dechrau sgwrsio gyda fi am fy syniadau am beth fedrid ei wneud i wella ansawdd bywyd yn y stad. Roeddwn yn gegrwth – roedd Prif Weithredwr yn siarad gyda fi ac nid oedd yn osgoi edrych arnaf! Dyna pryd y sylweddolais y gallai Prif Weithredwyr fod yn ddynol.

Yn ail – uchelgais. Unwaith i mi sylweddoli fod Prif Weithredwyr (ar y cyfan) yn ddynol, dechreuodd syniad fagu yn fy meddwl. Yn ôl pan oeddwn yn myfyriwr oedd cael swydd oedd yn ddigon i dalu fy rent a fy nghostau byw ac aros yno am byth. Pam fyddai unrhyw un byth eisiau mwy? Ond roedd fy Nhad bob amser wedi deud wrthyf fod angen cynllun gyrfa – dal i symud lan! Efallai ei fod yn iawn ac efallai y gallwn gael cynllun gyrfa. Felly fe wnes benderfynu fy mod eisiau bod yn fath Paul Roberts o Brif Weithredwr. Ac roedd hynny’n golygu edrych am swyddi i symud lan y strwythur trefniadaeth, i swyddi rheoli, ac yna swyddi Cyfarwyddwr cyn cyrraedd y brig fel Prif Weithredwr.

Yn olaf – hyblygrwydd. Er mai’n debyg y byddai fy nghalon 25 oed wedi meddwl y gallwn symud yn syth o fod yn Swyddog Tai i fod yn Brif Weithredwr gydag un naid a ffurflen gais obeithiol, dywedodd fy ymennydd wrthyf fod yn rhaid i mi gymryd unrhyw gyfle roeddwn yn ei gael.

Llwyddais i gael swydd fel Uwch Arweinydd Tîm gyda Cymdeithas Tai Teulu yn Abertawe, yn mwynhau teithio i’r gwaith bob dydd ar hyd yr M4 a threulio llawer o oriau hapus ar Fabian Way. Ar ôl i fy nghar chwythu lan ar yr M4 ac wedyn syrthio i gysgu tra’n defnyddio’r trên fel dull arall o deithio a cholli Caerdydd yn llwyr, dechreuais feddwl os oedd y cyfan ei werth ef. Fodd bynnag, ddwy flynedd wedyn roeddwn yn mynd i’r cyfeiriad arall ar hyd yr M4 wrth i mi ddod yn Rheolwr Ardal yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, cyn symud yn ôl at Newydd fel Cyfarwyddwr Tai yn 2003.

Fe roddodd yr hyblygrwydd hwnnw gyfle i mi edrych am swyddi a wnaeth fy symud ar hyd fy nghynllun gyrfa, er nad oeddent bob amser y mwyaf cyfleus, lawer iawn o brofiad i mi oedd yn ddeniadol i sefydliadau oedd yn recriwtio ar gyfer y Rheolwr neu’r Cyfarwyddwr nesaf.

Yn bedwerydd – dyfalbarhad. Pan ddechreuais weithio fel Cyfarwyddwr Tai yn Newydd, rwy’n cofio dweud wrth unrhyw un a wnâi wrando, fy mod wedi symud swyddi bob tair blynedd yn unol â fy nghynllun gyrfa ac y byddwn yn anelu i aros fel Cyfarwyddwr Tai am ddim mwy na phum mlynedd. Ddwy flynedd ar bymtheg wedyn cefais fy mhenodi yn Brif Weithredwr Cymdeithas Tai Newydd. Dyfalbarhad yw’r allwedd.

Felly fy nghyngor i fi fy hunan yn 18 oed fyddai bod yn hyblyg a manteisio ar gyfleoedd, bod â chynllun (gydag amserlenni hyblyg) … a bod â dyfalbarhad a dal ati.

Ac un cyngor arall, ewch ati i ddal llygad Jason Wroe.”

Jason Wroe – Prif Weithredwr, Cymdeithas Tai Newydd

Newyddion diweddaraf