Posted 12.06.2020

Buddsoddi yn ein Llywodraethiant

Mae llawer o gymdeithasau tai wedi troi cefn ar aelodaeth bwrdd gwirfoddol ac maent bellach yn talu aelodau eu bwrdd am eu hamser a’u cyfraniad.

Mae ein bwrdd ni wedi bod yn trafod a ddylid cymryd y cam hwn ers cwpl o flynyddoedd ac rydym wedi ystyried barn ein partneriaid a’n tenantiaid yn ogystal ag edrych beth mae sefydliadau eraill wedi’i benderfynu. Rydym wedi gwrando ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn ac yn gwybod bod gan rai pobl farn gref a bod rhai yn poeni am yr hyn y byddai gwneud taliadau yn ei wneud i’n hethos a’n gwerthoedd.

Yn gynharach eleni cyfarfu’r bwrdd a phenderfynu talu aelodau’r bwrdd; roedd y materion a’n hargyhoeddodd fel a ganlyn:

  • Mae rôl aelodau’r bwrdd yn un gyfrifol iawn, yn ymwneud â phenderfyniadau sy’n effeithio ar filoedd o bobl sy’n byw yn ein cartrefi, ein staff, a’r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt.
  • Mae’r risgiau sy’n wynebu sefydliadau yn rhai sylweddol, p’un ai yw hynny’n risg o redeg gwasanaeth landlord, datblygu cartrefi newydd, neu ddelio â newidiadau mewn cyfraddau llog, neu hyd yn oed bandemig.
  • Mae angen i aelodau ein bwrdd roi amser i’r gwaith a deall yn iawn yr hyn rydyn ni’n ei wneud er mwyn iddynt allu craffu ar berfformiad, cefnogi gwelliannau a herio syniadau; rydyn ni angen iddyn nhw hefyd fod yn atebol am eu safonau perfformiad uchel eu hunain.
  • Mae angen i ni ddenu’r bobl orau y gallwn i ymuno â’n byrddau ac rydym yn gorfod cystadlu fwyfwy â sefydliadau eraill sy’n talu aelodau eu bwrdd.

Daethom i’r penderfyniad hwn ar ddechrau’r argyfwng pandemig presennol a phenderfynwyd gohirio ei weithredu. Felly am y tro mae ein haelodau bwrdd yn dal i weithio’n wirfoddol; byddwn yn adolygu’r amseru ond rydym yn bwriadu dechrau talu aelodau ein bwrdd ym mis Medi 2020.

Ar hyn o bryd rydym yn hysbysebu am ddau aelod newydd o’r bwrdd; mae un o’r lleoedd gwag ar gyfer aelod sy’n denant, efallai fod gennych chi ddiddordeb, os felly cymerwch gip yma.

 

Newyddion diweddaraf