Posted 16.11.2021

Prosiect tai arloesol yn ennill ‘Y Wobr Adfywio’ yn seremoni Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW)

Mae’r prosiect adfywio trefol The Goodsheds a Junction House yn Y Barri wedi ennill gwobr adeiladu arbennig mewn cydnabyddiaeth o’i ddatblygiad adfywio.

Mae prosiect cydweithredol arobryn oedd yn cynnwys Cyngor Bro Morgannwg, DS Properties Limited, Cymdeithas Tai Newydd a Llywodraeth Cymru wedi trawsnewid hen storfa reilffordd i amrywiaeth o ofodau masnachol a llety.

Mae’r datblygiad yn cynnwys pentref o swyddfeydd mewn cynwysyddion llong wedi eu hail-bwrpasu, unedau manwerthu, bwytai a siopau coffi, yn ogystal â chyfadeilad fflatiau.

Dywedodd Victoria Bolton, y Pennaeth Datblygu: “Mae derbyn cydnabyddiaeth fel hyn drwy wobrau mor arbennig yn ddiwedd gwych i’r prosiect ac mae’n dyst i’n partneriaeth lwyddiannus.”

“Mae darparu cartrefi fforddiadwy o safon uchel o fewn cymuned lle gall pobl gymdeithasu, gweithio a byw yn elfen hanfodol mewn unrhyw brosiect adfywio llwyddiannus.

Daeth datblygiad Goodsheds i’r brig yn ddiweddar yn y Gwobrau Ystadau Cymru yn yr adran Creu Twf Economaidd ac fel yr ‘enillydd ymysg yr enillwyr’, hynny yw y prosiect gorau ar draws pob categori.

Gan sôn am y llwyddiant yng Ngwobrau Ystadau Cymru, dywedodd Arweinydd Cyngor y Fro, y Cynghorydd Neil Moore:

“Mae Goodsheds yn brosiect adfywio trefol arbennig o gyffrous a chreadigol ac rydw i’n falch iawn o gael ei ddathlu fel hyn.

“Mae prosiect Goodsheds yn esiampl wych o gydweithio rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat, wedi ei gyflawni gan y datblygwr DS Properties, Cyngor Bro Morgannwg, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Tai Newydd.

“Mae’n ddatblygiad gwych sydd wedi rhoi bywyd newydd i adeilad lleol pwysig a hanesyddol, a chreu swyddi, tai ac adnoddau hamdden sydd eu hangen yn fawr er budd tref Y Barri a thu hwnt.

Newyddion diweddaraf